£1m o arian grant y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru
Heddiw cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £1 miliwn o arian grant ar gyfer 34 o grwpiau cymunedol ledled Cymru
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae cymunedau ledled Cymru yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sy'n newid bywydau pobl drwy argyfwng COVID-19 a thu hwnt. Mae arian y Loteri Genedlaethol yn rhoi pobl ar y blaen i edrych i'r dyfodol a chefnogi eu cymunedau i ffynnu.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Gymunedol Vision Support yn Sir Ddinbych yn ymweld â mannau lle mae pobl fel arfer yn mynd fel archfarchnadoedd, llyfrgelloedd a meddygfeydd meddygon teulu i ddarparu gwybodaeth am ystod eang o wasanaethau i bobl sydd wedi colli eu golwg. Byddant yn defnyddio £86,688 i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth symudol sy'n rhoi gwybodaeth hygyrch i bobl yn Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam gan gynnwys gwybodaeth am gymhorthion addasol a thechnoleg gynorthwyol.
Dywedodd Janette Williams o'r prosiect: "Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol byddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth hwn yng Ngogledd Cymru bum diwrnod yr wythnos a chyrraedd mwy o bobl â nam ar eu golwg, eu teuluoedd a'u ffrindiau a gwneud hyd yn oed mwy o gysylltiadau â sefydliadau eraill."
Bydd yr elusen o Abertawe, Pêl-droed Iechyd Meddwl yng Nghymru, yn defnyddio £9,950 i hyfforddi 12 unigolyn fel cyd-sylfaenwyr yr elusen, a fydd yn ei thro yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl yn Ne Cymru.
Dywedodd Rosa May-Harris o Bêl-droed Iechyd Meddwl yng Nghymru: "Rydym yn falch iawn o ddechrau tyfu'r elusen a chefnogi ein cymuned gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol. Diolch!"
Bydd Canolfan Deulu Llanybydder yn defnyddio £97,994 i ddatblygu gwasanaethau'r Ganolfan ymhellach. Bydd yn gweithio i wella iechyd a lles teuluoedd a'r berthynas yn yr uned deuluol tra'n cefnogi trosglwyddo i'r ysgol i blant. Bydd yn cynyddu rhyngweithio cymdeithasol ac yn lleihau unigedd drwy weithgareddau cynyddol sy'n pontio'r cenedlaethau gan ddod â'r gymuned gyfan at ei gilydd.
Dywedodd Sarah Davies, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Teulu Llanybydder: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyfanswm o £97,994 o Arian y Loteri Genedlaethol a bydd hyn yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Bu'n flwyddyn anodd i lawer ac yma yn Llanybydder rydym yn gwasanaethu cymuned wledig, Gymraeg fawr felly bydd yr arian hwn yn rhoi sicrwydd ariannol am y 3 blynedd nesaf i weithio gyda'n teuluoedd a'n cenhedlaeth hŷn i wella bywydau pawb."
Bydd Gentle Radical yng Nglan yr Afon, Caerdydd yn defnyddio £39,852 i ymgysylltu â'u cymuned i symud ymlaen ar ôl COVID-19. Byddant yn casglu straeon a safbwyntiau gan breswylwyr ynglŷn â’u profiad yn ystod y clo cyntaf ac yn ystyried ffyrdd o'u cefnogi yn y dyfodol.
Dywedodd Rabab Ghazoul o'r prosiect: "Rydym wedi bod yn gweithio yng Nglan yr Afon ers blynyddoedd, ond mae cymaint bellach wedi'i ohirio oherwydd COVID-19. Mae'r grant hwn yn ein helpu i gadw'r sgwrs i fynd, clywed y straeon sy’n cael eu clywed llai, a deall gan breswylwyr yn uniongyrchol beth sydd ei angen yn yr amseroedd hyn. Mae Doorstep Revolution yn ein galluogi i ddyfnhau'r gwaith hwn o hyper-leoliaeth – sef dyfodol gwaith diwylliannol a chymunedol yn ein barn ni - a byddwn yn cynnwys trigolion mewn posibiliadau creadigol - eu podlediad cymdogaeth eu hunain, neu eu cyhoeddi – sy'n agor ymgysylltiad cymunedol, yn y tymor hir."
Mae Rookwood Sound Hospital Broadcasting yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cael £10,000 i uwchraddio offer, a fydd yn arwain at well gwasanaeth i helpu i fynd i'r afael ag unigedd cleifion yn ystod COVID-19.
Dywedodd Lesley Fowler o'r prosiect: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y grant hwn. Bydd hyn yn ein galluogi i hwyluso mwy o gleifion a staff i glywed eu gorsaf radio bwrpasol eu hunain. Mae cerddoriaeth mor bwysig yn y broses adfer ac mae Radio Ysbyty Sain Rookwood yn darparu ystod eang o raglenni drwy'r wythnos".
Bydd Cymorth Cyflogaeth ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASDES) yn Abertawe yn defnyddio £1,835 i gynnal gweithgareddau amrywiol ar gyfer grwpiau bach o unigolion ag Awtistiaeth, i helpu i gynyddu eu hyder a'u lles drwy argyfwng COVID-19.
Dywedodd Judith Thatcher o'r prosiect: "Mae ASDES yn falch iawn o gael yr arian hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gyfranogwyr ddatblygu eu sesiynau cymdeithasol unigryw eu hunain yn ystod y cyfnodau gwahanol iawn hyn. Mae'r arian yn hanfodol i gefnogi'r gwaith y mae ASDES yn ei wneud i annog cyfranogwyr â namau cudd i ymgysylltu'n ôl â chymunedau ar ôl y clo mawr."
Bydd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn defnyddio £10,000 i gynnal cyfres o weithgareddau chwarae awyr agored i ddod â theuluoedd at ei gilydd a helpu i fagu eu hyder yn dilyn pandemig COVID-19.
Dywedodd Graham Peake, Arweinydd Tîm Darganfod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflawni ein prosiect 1000 Diwrnod Cyntaf. Gwyddom fod yr amser a dreulir yn yr awyr agored yn werthfawr iawn i blant ifanc a'u rhieni, ond gwyddom hefyd fod tystiolaeth dda i awgrymu bod treulio amser yn yr awyr agored yn dod yn llawer llai o nodwedd ym mywydau llawer o blant ifanc ledled y Deyrnas Unedig.
"Rydym yn bwriadu creu cyfleoedd i blant cyn oed ysgol dreulio amser mewn mannau anhygoel ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r tu allan gyda'r nod o sefydlu cysylltiadau hirdymor rhwng teuluoedd lleol a'r awyr agored, gyda'r manteision a ragwelir a ddylai ddod i iechyd a lles pawb dan sylw.
"Bydd tîm y prosiect 1000 diwrnod cyntaf yn cynnig rhaglen gyffrous o weithgareddau gyda chymorth gyda'r nod o fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae llawer o deuluoedd difreintiedig yn eu hwynebu wrth geisio treulio amser yn yr awyr agored. Byddwn yn archwilio natur, yn rhoi cynnig ar gelfyddyd amgylcheddol, yn darganfod lleoedd newydd i chwarae ac yn mynd yn eithaf mwdlyd fel rhan o'r prosiect, mae'n debyg."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'r dyfarniadau hyn, sy'n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cydnabod y gwaith anhygoel sy'n digwydd yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae arnom ddiolch yn fawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n cefnogi ac yn cyfrannu at brosiectau fel y rhain bob tro y byddant yn prynu tocyn. Ers mis Ebrill eleni rydym wedi dyfarnu dros £15 miliwn i elusennau a chymunedau ledled Cymru sy'n achub bywydau ac yn cynnig gobaith i lawer o'r rhai y mae'r pandemig yn effeithio arnynt."
Darllenwch am bob un o'r 34 grant gwerth £1,070,870 a ddyfarnwyd yma.
Mae rhaglenni grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i fod ar agor ac maent yn blaenoriaethu gweithgarwch sy'n gysylltiedig â COVID-19. Dysgwch fwy drwy ymweld â tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru