Grwpiau ledled Cymru yn barod i roi Hwb i’r Hinsawdd
Mynychodd 35 o grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru ddigwyddiad croeso Hwb i’r Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Daeth y grwpiau, o rwydwaith eang ac amrywiol, at ei gilydd yn rhithiol i gael cymorth i gymryd camau amgylcheddol a chael effaith gadarnhaol drwy leihau eu hôl troed carbon, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae Hwb i’r Hinsawdd yn cynnwys cymorth gan Adfywio Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru. Byddant yn helpu'r cymunedau i ddatblygu eu cynllun amgylcheddol, a fydd yn cael ei weithredu dros y misoedd nesaf gyda grantiau hyd at £15,000 y grŵp gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd y cynllun yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau lleihau amgylcheddol, sef lleihau ynni neu symud i ynni adnewyddadwy, lleihau defnydd, bwyd lleol, a theithio llai neu deithio mwy effeithiol.
Digwyddiad croeso
Roedd y digwyddiad croeso yn gyfle i'r grwpiau cymunedol gael gwybod mwy am Hwb i’r Hinsawdd, i gwrdd ag eraill sy'n cymryd rhan ac i rannu meddyliau. Clywsom hefyd am brofiadau Clwb Rygbi Bethesda o fod yn rhan o'r cynllun grant Ychwanegiad Gweithredu Hinsawdd y llynedd.
Cynllun peilot oedd Ychwanegiad Gweithredu Hinsawdd a gynhaliwyd yng Nghymru ac a oedd yn ariannu partneriaethau lleol oedd yn cael eu harwain gan y gymuned i sbarduno newid o fewn a thu hwnt i'w cymuned. Gallwch ddarllen am effaith y peilot yma.
A gallwch ddarllen am broject Clwb Rygbi Bethesda yma.
Pam mae’n bwysig gweithredu?
Mae'n bwysig gan fod yr argyfwng hinsawdd yn effeithio pawb, a dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gweithredu i gefnogi ac ysbrydoli cymunedau yn y DU i leihau eu heffaith eu hunain ar yr amgylchedd.
Yng Nghymru, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes wedi buddsoddi mewn projectau amgylcheddol - mawr a bach. Mae hyn, ynghyd â mewnwelediad fel yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yng Nghymru, yn ein galluogi i gefnogi gweithredu cymunedol mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae deddfwriaeth ar waith i leihau allyriadau carbon yn y DU i sero net erbyn 2050, ond mae hyn yn gofyn am gymorth pawb os ydym ni am lwyddo. Rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'n sefydliad ein hunain er mwyn helpu i liniaru newid hinsawdd. Mae'r rhain yn cynnwys gweithredu mesurau effeithlonrwydd ynni, cynyddu ailgylchu, lleihau gwastraff a chynhyrchu awgrymiadau i ddeiliaid grantiau leihau eu heffaith amgylcheddol. Darllen mwy yma.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yn y Gronfa, "Mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio pawb, ac mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn falch o fod yn ariannwr sylweddol o brojectau amgylcheddol. Credwn fod gweithredu cymunedol yn ffordd rymus o ymgysylltu â chymunedau i chwarae eu rhan i fynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol byd-eang. Ers mis Ebrill 2013, mae'r Gronfa wedi dyfarnu mwy na £340 miliwn i brojectau amgylcheddol, drwy ychydig o dan 4,800 o grantiau.
"Rhoddodd y cynllun peilot Ychwanegiad Gweithredu Hinsawdd y llynedd rywfaint o fewnwelediad gwerthfawr i ni ac rydym am barhau ar y daith honno. Bydd y grwpiau sy'n cymryd rhan yn Hwb i’r Hinsawdd yng Nghymru yn chwarae rhan werthfawr wrth adeiladu ar ein gwybodaeth a'n dysgu, fel y gallwn rannu ein dysg ar draws y Gronfa a gydag arianwyr eraill ledled y DU."
Pwy sy’n cymryd rhan a beth maen nhw’n gobeithio ei wneud?
Darllenwch am rai o'r projectau sy'n dechrau ar eu taith Hwb i’r Hinsawdd, a sut maen nhw’n gobeithio mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Clybiau Plant Cymru
Mae Clybiau Plant Cymru eisiau bod yn sefydliad sy'n lleihau ei effaith ar yr amgylchedd yn weithredol ac yn effeithiol. Mae gweithio'n ddigidol o'r cartref yn ystod pandemig COVID-19 wedi eu galluogi i leihau teithio, argraffu, defnydd o bapur a phostio. Roeddent yn awyddus i fod yn rhan o Hwb i’r Hinsawdd er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd yn gynaliadwy o ran bwyd a theithio yn y dyfodol.
Neuadd y Plwyf Llannefydd
Gan fod cynlluniau ar y gweill i adnewyddu a moderneiddio'r neuadd gymunedol yn Llannefydd, gwelai’r pwyllgor Hwb i’r Hinsawdd fel cyfle gwych i uwchraddio'r adeilad a'i wneud mor effeithlon â phosibl, er enghraifft, drwy leihau'r defnydd o danwydd a dŵr.
Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar eu cymuned amaethyddol, ac felly roedden nhw’n teimlo ei bod yn bwysig manteisio ar y cyfle hwn i drawsnewid y neuadd yn adeilad sy'n effeithiol o ran adnoddau. Eu prif amcan yw creu neuadd gysurus a chynnes i groesawu'r gymuned i mewn iddi, er mwyn arbed pobl leol rhag gorfod teithio am resymau hamdden, adloniant, cymdeithasu, hyfforddiant a chwaraeon.
Project Global Gardens
Mae Project Global Gardens yn broject sy'n tyfu yn y gymuned yng Nghaerdydd, sy'n anelu at greu lle hygyrch, croesawgar a chynhwysol ar gyfer dysgu yn y gymuned rhwng cenedlaethau, cyfathrebu a dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol, a chreadigrwydd.
Bydd cymryd rhan yn y cynllun Hwb i’r Hinsawdd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddyfnhau'r gwaith maen nhw’n ei wneud yn y gymuned yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Bydden nhw’n hoffi datblygu syniad cliriach o sut i ysbrydoli pobl sy'n byw yn ninas-ranbarth Caerdydd i fyw'n fwy cynaliadwy, fel project tyfu cymunedol - gan gynnwys drwy dyfu bwyd yn fwy ecolegol a choginio bwyd a dyfir, yn ogystal â thrwy ymgysylltu â chelfyddydau a chrefftau cynaliadwy.
Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd
Mae'r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yn Abertawe am godi ymwybyddiaeth o'r newid hinsawdd yn ei chymuned. Bydden nhw’n hoffi addysgu a rhannu gwybodaeth am newid hinsawdd, ac ysbrydoli pobl i ddechrau cymryd camau cyfrifol i gyfrannu at gymuned fwy cynaliadwy ac i ddiogelu'r amgylchedd.
Partneriaeth Ogwen
Menter gymunedol yn Nyffryn Ogwen yw Partneriaeth Ogwen, a'u nod yw mynd i'r afael â thlodi tanwydd, tlodi teithio, lleihau unigedd a chryfhau cymunedau. Maen nhw wedi cynnal digwyddiadau'n lleol i godi ymwybyddiaeth o effaith negyddol pobl ar yr amgylchedd ac wedi codi swm sylweddol o arian drwy gynnig rhandaliadau cymunedol i sefydlu hydro sy'n eiddo i'r gymuned.
Yn y dyfodol, byddant yn datblygu fflyd o gerbydau trydan ar gyfer y gymuned, yn plannu coed, yn hyrwyddo tyfu yn y gymuned, ac yn gweithio gyda phartneriaid a'r gymuned leol i leihau tlodi tanwydd. Maen nhw’n gweld Hwb i’r Hinsawdd fel cyfle i weithredu ymhellach i leihau effaith pobl ar newid hinsawdd ac i helpu'r amgylchedd.
Bwyd Dros Ben Aber
Ffurfiwyd Bwyd Dros Ben Aber i weithredu ar gynaliadwyedd y system fwyd fel ffactor allweddol wrth leihau effaith newid hinsawdd. Fel llysgennad dros gynaliadwyedd, byddent am arwain drwy esiampl ac arddangos y camau y gall busnesau yn Aberystwyth a'r ardal leol eu cymryd i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Y 35 grŵp fydd yn cymryd rhan yn Hwb i’r Hinsawdd:
Bwyd Dros Ben Aber |
Age Connects Torfaen |
Boys and Girls Clubs of Wales |
Bryncynon Community Revival Strategy |
Challenging Behaviour Support CIC |
Clwb Trotian Dyffryn Amman |
Clybiau Plant Cymru |
Coleg Black Mountains |
Datblygiadau Egni Gwledig |
Dynamic Centre for Children and Young People with Disabilities |
Eglwys Glenwood |
Enbarr Foundation CIC |
Gerddi Bro Ddyfi |
Hirwaun YMCA |
Huggard |
Innovative Trust |
Manage Money Wales CIC |
Neuadd y Plwyf Llannefydd |
Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi |
Partneriaeth Ogwen |
Paul Sartori Foundation Limited |
People and Work |
Project Global Gardens |
Project Ieuenctid Caerfyrddin (Dr Mz) |
Pwyllgor Lee Gardens Pool |
Quest Busters |
RAY Ceredigion |
Siop Griffiths Cyf |
Tafarn yr Heliwr |
The Community Impact Initiative CIC |
The Gellideg Foundation Community Association |
The Hwb Torfaen |
Tŷ Hafan |
Y Dref Werdd |
Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd |
Bydd y grwpiau'n cyflawni eu cynlluniau ac yn rhannu'r hyn maen nhw wedi’i wneud a pha effaith maen nhw wedi'i chael gydag eraill yn ystod haf 2021.
I ddysgu mwy am Gronfa £100m Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, darllenwch yma.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru