£3.6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn dod â chysur i gymunedau ledled Cymru
Bydd cymorth ychwanegol ar gael i bobl sy’n delio â dementia, unigrwydd a iechyd meddwl diolch i £3.6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a gyhoeddir heddiw.
Mae Cariad Pet Therapy CIC, sydd wedi’i leoli yn Sir Benfro, yn un o wyth deg grŵp o Gymru sy'n derbyn dyfarniadau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddant yn defnyddio’u £6,600 i gefnogi pobl gyda dementia a phobl oedrannus, sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol o ganlyniad i COVID-19, gydag ymweliadau therapi anifeiliaid anwes awtomataidd.
Dywedodd Robert Thomas, Rheolwr Prosiect Cariad Pet Therapy: "Roeddem wedi gweld tystiolaeth bod anifeiliaid anwes robotig yn cael effaith gadarnhaol ar ein poblogaeth oedrannus a'r rhai sy'n byw gyda dementia, yn enwedig y rhai a arferai fod yn berchen ar gathod neu gŵn.
"Rydym wedi cael adborth gwych gan bobl â dementia, eu teuluoedd a staff cartrefi gofal. Un sylw oedd mai'r anifeiliaid anwes robotig oedd y peth gorau roedden nhw wedi'i ddefnyddio yn ystod COVID-19 a’u bod wedi helpu i ddod â hapusrwydd i'r cartref gofal."
Darllenwch am bob grant gan glicio yma.
Bydd Red Kite Health Solutions CIC yn Aberhonddu yn defnyddio ei £56,800 i ddarparu gwasanaeth cymorth COVID-19 sy'n cynorthwyo pobl y mae'r pandemig yn effeithio'n andwyol arnynt yn uniongyrchol.
Dywedodd Sian Jones, Rheolwr Busnes a Datblygu Red Kite Health Solutions, "Rydym yn falch iawn o gael y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a fydd yn gwneud llawer i gefnogi a gwella iechyd a lles y boblogaeth yn Ne Powys. Ein nod yw hyrwyddo a chynyddu'r defnydd o wiriadau iechyd hanfodol, yn ogystal â chyfeirio pobl at y gwasanaethau iechyd, lles a chymunedol sydd ar gael, ac rydym wrth ein bodd yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn diolch i'r Loteri Genedlaethol a'r cyhoedd."
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd Britton Ferry Llansawel AFC yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r materion a brofir gan bobl sy'n byw gyda dementia drwy raglen farchnata a hyfforddi. Eu nod yw sicrhau mai'r clwb Old Road yw'r 'Clwb Pêl-droed Cyfeillgar i Ddementia' cyntaf yn System Pyramid Cymru, a chreu partneriaeth wedi'i chynllunio gyda MMI, elusen yn Llansawel sy'n cefnogi pobl a theuluoedd sy'n byw gyda dementia.
Dywedodd cydlynydd y prosiect, Stuart Williams, "Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau grant o £10,000 gan y Loteri Genedlaethol. Bydd yn caniatáu i dros 40 o wirfoddolwyr yn y clwb gael hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia, yn ogystal ag arwyddion newydd i helpu pobl sy'n byw gyda dementia pan fyddan nhw’n ymweld â'r cyfleuster."
Yn y cyfamser, yn ardal Abertawe, bydd Age Cymru Gorllewin Morgannwg yn parhau i ddarparu cymorth i bobl hŷn, teuluoedd unig riant, ac unigolion â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau sy'n profi caledi ariannol, unigrwydd ac unigedd, ac anhawster gofalu amdanynt eu hunain oherwydd pandemig COVID-19. Byddant yn defnyddio eu grant o £66,880 i ddarparu gwasanaeth prydau ar glud i wella maeth a lleihau ansicrwydd bwyd, a gwasanaeth cyngor a gwybodaeth dros y ffôn a fydd yn cyfeirio at wasanaethau eraill yn y gymuned.
Dywedodd Angela Francis, Prif Gogyddes, "Rwyf wrth fy modd yn helpu'r rhai sydd ei angen yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’n rhoi boddhad mawr!"
Yng Nghaerdydd, bydd SEF Cymru yn defnyddio £10,000 i sefydlu rhaglen fentora ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig, drwy ddefnyddio modelau rôl BAME lleol y gallant uniaethu â nhw i helpu i gynyddu eu hyder, eu hunan-barch a'u lles.
Bydd Llesiant Rhieni Sengl CIC yn adeiladu ar ei brosiect blaenorol gyda'i £271,237, i roi cyfleoedd i rieni sengl wella eu hiechyd meddwl a'u lles drwy weithdai a hyfforddiant, llawlyfr a chefnogaeth gan gymheiriaid. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.
Yng Ngogledd Cymru, bydd NEWCIS yn darparu’r prosiect 'Keep Well, Keep Busy' i ofalwyr sy'n byw yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych gyda'i £62,700. Yn dibynnu ar anghenion y derbynwyr, byddant yn derbyn bocsys sy'n cynnwys eitemau fel bwyd iach, bwyd ffres a llyfrau neu eitemau crefft.
Bydd Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru yng Nghonwy yn parhau i gefnogi pobl sydd wedi'u hallgáu ac sy'n agored i niwed, ac sy’n cael eu heffeithio’n negyddol gan effeithiau pandemig COVID-19 gyda grant o £9,920.
Dywedodd Annie, o Fae Colwyn: "Rwy'n fam sengl gyda dau blentyn â nam ar eu golwg. Collais fy swydd yn y gorffennol a byw mewn tŷ annerbyniol. Un diwrnod clywais am NWAMI ac maen nhw wedi bod yn garedig yn cyflenwi bwyd sy'n seiliedig ar ddeiet i mi a'm plant, ac wedi fy nghyfeirio at amryw o asiantaethau darparu. Erbyn hyn rwy'n byw mewn lle diogel gyda fy mhlant ac rwy'n cael budd-dal gan Credyd Cynhwysol. Rydyn ni'n hapus ac yn teimlo'n sefydlog! Diolch i NWAMI a'r tîm ymroddedig, a diolch yn fawr i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu'r prosiect hwn."
Bydd Garddwyr Cymunedol Holt yn Wrecsam yn defnyddio ei £2,555 i wella mynediad i'r anabl i’w poly-dwnnel, gan alluogi unigolion ag anableddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau garddio i helpu i wella eu lles meddyliol.
Dywedodd Peter Bostock, aelod o'r pwyllgor: "Roedd gennym fwriadau gwych ar gyfer y flwyddyn, dim ond i rai o'n cynlluniau gael eu canslo oherwydd COVID-19. Serch hynny, roeddem yn gallu parhau â rhywfaint o waith oherwydd bod garddio yn weithgaredd awyr agored. Mae ein poly-dwnnel newydd wedi bod yn llwyddiant mawr ac edrychwn ymlaen at 2021 cyffrous."
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae gwirfoddolwyr a gweithwyr elusennol mewn cymunedau ledled Cymru wedi chwarae rhan anhygoel yn y gwaith o gadw pobl yn ddiogel drwy’r pandemig, gan roi cefnogaeth a chadw pobl mewn cysylltiad, a pharhau i wneud hynny wrth i ni edrych i'r dyfodol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r Gronfa wedi gallu gwneud cyfraniad sylweddol at helpu cymunedau yng Nghymru i ateb heriau COVID-19, gyda thros 660 o ddyfarniadau yn dod i gyfanswm o bron £19 miliwn ers mis Ebrill 2020."
Mae rhaglenni ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i fod ar agor ac maent yn cefnogi cymunedau y mae COVID-19 yn effeithio arnynt. Maent hefyd yn cynorthwyo sefydliadau i addasu neu arallgyfeirio i ymateb i heriau newydd ac yn y dyfodol. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru