Mae dros hanner miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn mynd i fynd i'r afael â newid hinsawdd yng Ngwynedd
Heddiw cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod dros hanner miliwn o bunnoedd wedi'i ddyfarnu i gymunedau yng Ngwynedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae Datblygiadau Egni Gwledig yng Ngwynedd wedi derbyn grant o £562,315 gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i alluogi cymunedau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae'r grant yn un o naw a ddyfarnwyd ledled y DU sy'n dod i gyfanswm o £5.2 miliwn fel rhan o Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac fe'u gwnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Maent yn derbyn £562,315 o arian y Loteri Genedlaethol i arwain partneriaeth o bum sefydliad cymunedol ledled Gwynedd i fynd i'r afael â heriau hinsawdd. Mae'r partneriaid dan sylw yn cynnwys: Cyd Ynni, Partneriaeth Ogwen, Siop Griffiths, Cwmni Bro Ffestiniog, ac YnNi Llŷn.
Dros y ddwy flynedd nesaf bydd y bartneriaeth yn creu 20 o gynulliadau dinasyddion, yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a arweinir gan y gymuned, ac yn blaenoriaethu ymgysylltu o amgylch anghenion y gymuned, datblygu symudiad gweithredu yn yr hinsawdd ac ymddygiad cadarnhaol tuag at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'i gyfyngu.
Bydd cynulliadau dinasyddion yn datblygu maniffestos hinsawdd cymunedol ar gyfer pob cymuned leol a byddant yn amlygu eu blaenoriaethau wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd Grant Peisley, Cyfarwyddwr Datblygiadau Egni Gwledig: “Rydym mor ddiolchgar i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud ein prosiect GwyrddNi yn bosibl. Bydd yr arian yn caniatáu inni weithio'n agosach gyda phum menter gymunedol lwyddiannus yng Ngwynedd. Bydd y cydweithredu yn arwain at greu cynulliadau hinsawdd a datblygu cynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd, gan bobl sy’n byw yn ein trefi a’n pentrefi o amgylch Eryri a Phen Llŷn.
“Mae'r partneriaid ar y prosiect hwn i gyd wedi dangos llwyddiant wrth ddarparu prosiectau amgylcheddol, ynni ac economaidd a arweinir gan y gymuned. Mae hyn yn dystiolaeth o bwer cynnwys pobl leol mewn datblygiadau lleol a bydd yn gyrru ein holl gamau gweithredu ar y prosiect GwyrddNi newydd.”
Dywedodd Ceri Cunnington, o Gwmni Bro: “Mae Cwmni Bro a’r Dref Werdd yn wirioneddol yn edrych ymlaen at gyd-weithio ar draws ein cymunedau yng Ngwynedd fynd i’r afael a’r her wirioneddol a byd eang newid hinsawdd, wrth weithredu yn lleol ond efo gweledigaeth ryngwladol.”
Dywedodd Meleri Davies, o Bartneriaeth Ogwen: “Os yda ni o ddifrif am daclo newid hinsawdd, mae'n rhaid i bawb yn ein cymunedau ni deimlo fod ganddyn nhw lais a rhan i'w chwarae yn y frwydr dyngedfennol yma. Dyna pam ein bod ni wrth ein boddau i fod yn rhan o brosiect GwyrddNi sy'n rhoi cyfle gwirioneddol i bobl leol arwain y drafodaeth a'r gweithredu.”
Dywedodd Gareth Harrison, o Cyd Ynni: “Rydym yn hynod ddiolchgar i'r Loteri Genedlaetholl am gefnogi ein gwaith - mi fydd GwyrddNi yn gynllun arloesol, sy'n adeiladu ar llwyddiant ein mudiadau cymunedol. Mae'n dangos mae gweithredu o fewn ein cymunedau yw'r ffordd orau i daclo'r her fwyaf sydd o'n blaenau, sef newid hinsawdd.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae pobl yn deall yr effaith y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein cymunedau. Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhan o'n hymrwymiad i gefnogi pobl a chymunedau i arwain y gwaith o fynd i'r afael â'r hinsawdd lle maent yn byw i weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
"Fel yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU rydym yn gwybod mai cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall a gweithredu ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Dyna pam mae'n wych gweld Datblygiadau Egni Gwledig, a chymunedau ar draws Gwynedd, yn arwain y gwaith o ddiogelu'r amgylchedd diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol."
Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhan o Strategaeth Amgylcheddol y Gronfa sydd wedi gweld buddsoddiad sylweddol gan y Loteri Genedlaethol drwy brosiectau a arweinir gan y gymuned sy'n canolbwyntio ar weithgareddau sydd nid yn unig yn gwella'r amgylchedd ond yn ei ddefnyddio i wella bywydau pobl a chymunedau.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Ers mis Ebrill 2013, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu mwy na £340 miliwn i brosiectau amgylcheddol, drwy 4,796 o grantiau.
Gall cymunedau gael rhagor o wybodaeth am strategaeth amgylcheddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer sut y gallant wneud newidiadau yn eu cymuned drwy glicio yma.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru