£3.4 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i wella lles mewn cymunedau ledled Cymru
Bydd cymorth ychwanegol ar gael i wella lles ac iechyd meddwl wrth i ni groesawu'r flwyddyn newydd yn ochelgar, diolch i fwy na £3.4 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a gyhoeddwyd heddiw.
Mae Rose's Way Foundation, sydd wedi'i leoli yng Nghaerffili, yn un o 68 o grwpiau o Gymru sy'n derbyn dyfarniadau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddant yn defnyddio £10,000 i gyflwyno sesiynau iechyd meddwl i blant mewn ysgolion ledled Cymru gan ddefnyddio offer fel llyfrau dewiniaid pryder ac eirth lles. Cyd-sylfaenodd Catherine Coundley-Jeans ac Andrew Jeans elusen Rose’s Way Foundation i gefnogi plant a theuluoedd, ar ôl colli eu merch fach, Rose, ym mis Chwefror y llynedd ar ôl brwydr fer gyda chanser A.T.R.T. Dywedodd Andrew Jeans:
"Rydym wedi cyffroi i ddechrau #WellBeingRosesWay ac i helpu i gefnogi plant ifanc a'u lles iechyd meddwl. Drwy weithio gyda'r Worry Wizard, byddwn yn dod â phlant ifanc oedran ysgol gynradd yng Nghymru ar daith o bryder i les. Rydym eisoes wedi cefnogi pum ysgol, a chyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gallwn bellach ehangu'r prosiect hwn i weithio gyda 25 ysgol arall."
Yng Ngheredigion, bydd WOW Wales One World Film Festival Ltd yn defnyddio ei £9,520 i gynnal gweithdai animeiddio ar-lein ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu a'r gymuned ehangach, gan gynyddu eu hyder a'u lles yn ystod cyfyngiadau COVID-19. Dywedodd Jan Kench, partner prosiect Gŵyl Ffilm WOW, gwirfoddolwr gyda Mencap Ceredigion a chydsylfaenydd Clwb Animeiddio Ceredigion
"Mae dod at ein gilydd fel grŵp i fod yn greadigol bob amser yn beth da, ond o dan yr amgylchiadau presennol, mae'n llawer iawn mwy na hynny. Mae rhedeg clwb animeiddio ar-lein yn ein helpu i gadw pobl mewn cysylltiad a gyda'n gilydd yn ystod y pandemig. Mae'n fuddsoddiad mawr yn iechyd meddwl pobl, yn achubiaeth. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd."
Yn y cyfamser yng Ngwynedd, bydd Eryri Cydweithredol yn darparu gwasanaeth cyfeillio rhithiol a chefnogaeth mewn TG sylfaenol i'r rhai sy'n profi unigedd gyda'i grant o £9,999. Dywedodd Gwenda Hughes, Cyfarwyddwr
"Roeddem yn falch iawn o glywed bod ein cais diweddar am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn llwyddiannus. Rydym nawr yn edrych ymlaen at lansio E-Sgwrs, ein gwasanaeth sgwrsio cyfeillgar rhithiol i unigolion sy'n byw yng Ngwynedd. Bydd y gwasanaeth ar gael yn ddwyieithog a bydd yn cefnogi pobl i gysylltu â'u cymunedau lleol ac i wneud iddyn nhw deimlo fel eu bod yn cael eu cynnwys yn ddigidol."
Bydd Opera Dinas Abertawe yn cyd-gynhyrchu cynhyrchiad cerddorol gyda Men's Sheds Cymru gyda'i £10,000, i dynnu sylw at y manteision iechyd meddwl cadarnhaol y gall y grŵp eu cynnig, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Ar ôl cyfweld aelodau'r Sheds, crëwyd y libretto yn seiliedig ar eu straeon - sy'n adlewyrchu nid yn unig y trafferthion maen nhw wedi'u hwynebu, ond hefyd y cryfder a'r hiwmor sydd wedi’u helpu i oresgyn eu problemau. Dywedodd Robert Visintainer, Swyddog Prosiect Men’s Sheds Cymru
"Mae'r holl broses wedi bod yn hwyl ac yn greadigol. Rydym yn edrych ymlaen at wneud mwy gyda'n gilydd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf."
Bydd Burry Port Plant Dewi yn darparu rhaglen o weithgareddau a gwasanaethau i deuluoedd â phlant hyd at 11 oed ym Mhorth Tywyn, Pen-bre, Cydweli a'r ardaloedd cyfagos. Gyda'i £299,162, byddant yn cyflwyno sesiynau allgymorth a chymorth o bell i wella lles corfforol ac emosiynoll a sgiliau rhianta teuluoedd dros dair blynedd, gan gynnwys grwpiau babanod, sesiynau chwarae rhieni a phlant bach a chyrsiau rhianta. Byddant hefyd yn helpu plant gyda sesiynau iaith, clwb gwaith cartref a sesiynau sgiliau bywyd. Dywedodd Shan Cheesman, Rheolwr Canolfan Burry Port Plant Dewi – Tŷ Mair:
"Yn y cyfnod digynsail hwn, mae cefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi rhoi achubiaeth i wasanaethau i deuluoedd, gan ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth addas i'r diben i gymunedau lleol."
Bydd Cwtch Baby Bank yn defnyddio £9,672 i ddosbarthu eitemau babi hanfodol fel teganau, dillad a bwyd i deuluoedd sy'n cael anawsterau ariannol o ganlyniad o COVID-19. Dywedodd Clare Bird, Rheolwr Dosbarthu:
"Mae banc y babanod yn adnodd gwerthfawr iawn i'r gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd bregus yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae fy rôl, a ariennir diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cynnwys cydlynu rhoddion gan aelodau o'r cyhoedd, paratoi bwndeli ar gyfer cleientiaid, a goruchwylio gwaith ein naw gwirfoddolwr."
Bydd CIC Morrello’s Marvels yng Nghasnewydd yn creu bocsys ffisiotherapi i gleifion sydd wedi dioddef strôc, trawiad ar y galon neu COVID-19 gyda'i grant o £7,982. Bydd y blychau ffisiotherapi yn helpu cleifion i wella hyd y gorau o'u gallu gartref. Dywedodd Gill Hurley:
"Roeddem yn falch iawn o dderbyn y dyfarniad i’n prosiect peilot. Bydd cleifion yn cael set wedi'i theilwra o ymarferion wedi'u cynllunio ar eu cyfer gan ffisiotherapydd, a bydd pob blwch yn cynnwys yr offer sydd ei angen, gan gynnwys porth bach Facebook gyda chamera sy'n dilyn symudiadau'r cleifion fel y gall eu therapydd eu gweld yn ymarfer corff. Mae'n wych gallu helpu cleifion COVID-19 gyda'u hadferiad ac rydym yn llawn cyffro am ddechrau'r flwyddyn newydd gyda'r prosiect newydd cadarnhaol hwn."
Dywedodd Ruth Bates, Cyfarwyddwr Dros Dro Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
"Mae elusennau a sefydliadau mewn cymunedau ledled Cymru wedi chwarae rhan anhygoel o ran sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi ac yn cadw mewn cysylltiad drwy gydol y pandemig, ac yn parhau i wneud hynny wrth i ni groesawu'r flwyddyn newydd yn ochelgar. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r Gronfa wedi gallu gwneud cyfraniad sylweddol i helpu cymunedau i ymateb i heriau COVID-19, gyda £32.5 miliwn yn cael ei ddyfarnu i 966 o brosiectau cymunedol ledled Cymru yn 2020."
Darllenwch am bob un o'r 68 grant gwerth £3,431,842 a ddyfarnwyd ym mis Rhagfyr 2020 yma. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. I gael gwybod mwy am wneud cais am grant i helpu eich cymuned i addasu, adfer a ffynnu, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru