Grantiau y Loteri Genedlaethol ar gyfer Arweinwyr Profiad o Lygad y Ffynnon i arwain cymunedau mewn cymdeithas ôl-COVID-19
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi grantiau ar gyfer tri phrosiect a fydd o fudd i bobl yng Nghymru fel rhan o'i rhaglen Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon. Bydd y prosiectau hyn yn defnyddio dulliau unigryw i helpu cymunedau i fynd i'r afael â materion cymdeithasol mewn ymateb i COVID-19.
Bydd Jukebox Collective yng Nghaerdydd yn defnyddio £56,114 i greu amser, lle a chyfle i feithrin arweinwyr ifanc. Bydd pobl ifanc yn datblygu sgiliau strategol a datblygu, ac yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr i barhau i weithio ar sector diwylliannol mwy cyfartal, newydd ac wedi'i adnewyddu, ac i barhau i ddatblygu cyfleoedd i gymunedau lleiafrifol yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Lauren Patterson, o'r prosiect: "Rydym wedi cyffroi i groesawu'r grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddwn yn gallu buddsoddi mewn aelod o'n cymuned, gan ddyrchafu eu sgiliau a'u talent tra'n symud tuag at ein gweledigaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arweinwyr artistig i adlewyrchu amrywiaeth y Gymru gyfoes fodern."
Mewn mannau eraill, mae CIC Cymoedd Creadigol yn grŵp o arweinwyr profiad o lygad y ffynnon sydd wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon. Byddant yn defnyddio £56,114 i roi cyfleoedd arwain a datblygu i bobl ddifreintiedig o Rondda Cynon Taf a Merthyr Tudful drwy'r celfyddydau creadigol.
Yn olaf, bydd Changing Tunes yn defnyddio £54,699 i sefydlu label record yn benodol ar gyfer cyn-garcharorion, gan eu hannog i dorri'n rhydd o stigma eu gorffennol a sefydlu eu hunain yn y diwydiant cerddoriaeth. Bydd y label recordio wedi'i leoli ym Mryste a bydd yn cefnogi pobl o bob rhan o Dde Cymru yn ogystal â De Orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr.
Dywedodd Cameron Harper, Swyddog Gweithredol Red Tangent Records; "Rydyn ni eisiau sefydlu label record gyda gwahaniaeth, bydd yn gweithredu fel deorydd i gerddorion, gan roi cymorth datblygiadol wedi'i deilwra iddyn nhw fel y gallant ddatblygu eu gwaith a ffynnu mewn diwydiant sy'n newid.
"Mae'r label record mor bwysig am lawer o resymau; un mae'n rhoi cyfle i bobl gael eu cydnabod am eu sgiliau a'u galluoedd a heb gael eu barnu yn ôl eu gorffennol gan nad oes unrhyw un am gael ei adnabod fel carcharor neu gyn-garcharor am byth. Law yn llaw â hynny, rwy'n gobeithio y bydd yn newid persbectif pobl o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn gyn-garcharor - mae pobl yn cael eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd ac yn gwneud dewisiadau anodd - ond mae pawb yn dal i haeddu dyfodol cadarnhaol. Rwy'n credu mai dyna neges fwyaf pwerus y label hon."
Dywedodd Ruth Bates, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon yn defnyddio eu harbenigedd unigryw i arwain newid cymdeithasol a helpu eu cymunedau i ffynnu. Mae hyn yn hanfodol yn yr ymateb i COVID-19 ac yn y pen draw. Gwyddom fod cefnogi'r rhai sydd â phrofiad uniongyrchol i ddod yn arweinwyr yn alluogwr allweddol i gymdeithas sifil wneud mwy, helpu mwy o bobl, ac i'r sector barhau i gael effaith gadarnhaol."
Maent ymhlith 49 o sefydliadau ledled y DU sy'n derbyn cyfran o £2.5 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i ymgorffori'n well y rhai sydd â phrofiad o lygad y ffynnon wrth gyflawni eu gweithgareddau i gefnogi pobl yn eu cymunedau yn ystod, ac ar ôl COVID-19.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn yr wythnos at achosion da. Yn ystod 2020 dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £32.5 miliwn i 966 o brosiectau cymunedol ledled Cymru.
I ddarganfod mwy ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru