Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn agor i ymgeiswyr, ledled y DU, sy'n ceisio mynd i'r afael â gwastraff a defnydd cynaliadwy yn eu cymunedau
Heddiw [24 Chwefror], mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi lansio'r ail rownd o geisiadau ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd ac adroddiad newydd i ddangos ac ysbrydoli camau gweithredu a arweinir gan y gymuned ar newid hinsawdd.
Bydd y cylch ariannu hwn yn gweld £8 i £10 miliwn ar gael i'w ddatblygu a grantiau llawn ledled y DU. Fel yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes wedi ymrwymo bron i £20 miliwn i brosiectau sy'n cefnogi gweithredu yn yr hinsawdd dan arweiniad y gymuned fel rhan o'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Yn ogystal â hyn, mae'r Gronfa'n archwilio sut i ymgorffori gweithredu ar yr amgylchedd a'r hinsawdd drwy gydol ei phortffolios ariannu, megis ei grantiau ariannu amgylcheddol sy'n cael eu treialu yng Nghymru ar hyn o bryd.
Yn y rownd hwn, bydd y Gronfa Gweithredu hinsawdd yn canolbwyntio ar gefnogi prosiectau sy'n mynd i'r afael â gwastraff a defnydd cynaliadwy. Mae amrywiaeth eang o ddulliau a arweinir gan y gymuned yn cael eu rhoi ar waith ledled y DU i symud tuag at fod yn gymdeithas wastraff is, a nod y Gronfa yw nodi a chefnogi'r cyfleoedd gorau ar gyfer gweithredu ar raddfa gymunedol.
Mae'r rownd hwn yn canolbwyntio'n benodol ar brosiectau sydd â'r potensial i uwch-raddio, sy'n edrych ar hen broblem mewn ffordd newydd, sy'n archwilio mecanweithiau ariannu arloesol i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy, yn archwilio naratifau i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac yn mynd i'r afael â newid ymddygiad ac yn amlwg yn pwyntio at y potensial ar gyfer newid systemig.
Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn awyddus i ymgeiswyr allu nodi effaith carbon eu prosiect, gyda syniadau a dulliau gweithredu yn edrych ar themâu fel manwerthu a traul, trwsio ac ailddefnyddio, ffasiwn gynaliadwy, gwastraff bwyd ac ail-ddychmygu llifau gwastraff.
Daw'r ail rownd ariannu hwn ar ôl i 23 o ddeiliaid grantiau, ledled y DU, gael eu cyhoeddi yn 2020, fel rhan o'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol; cronfa ddeng mlynedd £100 miliwn a fydd yn lleihau ôl troed carbon cymunedau ac yn cefnogi symudiadau a arweinir gan y gymuned a all ddangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd. Bydd grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi'r 23 prosiect, sy'n rhannu dros £19.5 miliwn, i gydweithio, rhannu dysgu a bod yn gatalyddion ar gyfer newid ehangach a thrawsnewidiol.
Ar yr un pryd, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd yn lansio adroddiad "Pŵer Torfol", sef y cyntaf mewn cyfres, a ysgrifennwyd gan y Gronfa ar y cyd ag Ashden,gyda'r nod o ddangos ac ysbrydoli camau gweithredu a arweinir gan y gymuned ar newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cyhoeddiad cyntaf hwn yn amlinellu maint yr her a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd, yn gosod allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU yn eu cyd-destun, ac yn cyflwyno'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Yna, mae'n amlinellu pwysigrwydd, a photensial, gweithredu yn yr hinsawdd a arweinir gan y gymuned, megis y cyd-fanteision ac yn cynnig cyngor ar sut i sefydlu prosiect a arweinir gan y gymuned.
Dywedodd Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld cymunedau ledled y DU yn dod at ei gilydd ac yn cyflwyno ymatebion effeithiol i'r argyfwng yn gyflym ac yn briodol. Rydym yn hyderus - gyda phobl yn arwain - y gall cymunedau gymryd camau yn yr hinsawdd ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd. O atgyweirio ac ailddefnyddio gwastraff bwyd, o fynd i'r afael â diwylliant o traul i rannu'n ddwfn ar ffrydiau gwastraff unigol, gwyddom fod ystod eang o ddulliau a arweinir gan y gymuned eisoes yn cael eu gweithredu ledled y DU wrth ymdrin â'r mater hwn.
"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym bellach yn dod â'r cymunedau hyn at ei gilydd fel eu bod yn dangos sut y gall pobl gydweithio i fynd i'r afael ag allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â chymdeithas sy'n gynyddol wastraffus, dysgu oddi wrth ein gilydd a chael effaith o fewn a thu hwnt i'w cymunedau."
Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhan o Strategaeth Amgylcheddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd wedi gweld buddsoddiad sylweddol gan y Loteri Genedlaethol drwy brosiectau a arweinir gan y gymuned sy'n canolbwyntio nid yn unig ar weithgareddau sydd yn gwella'r amgylchedd ond yn ei ddefnyddio i wella bywydau pobl a chymunedau. Ers mis Ebrill 2013, mae'r Gronfa wedi dyfarnu mwy na £450 miliwn i brosiectau sydd ag elfen amgylcheddol, drwy dros 7,500 o grantiau.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £41 biliwn wedi'i godi ar gyfer mwy na 565,000 o achosion da ledled y DU ers 1994. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da yn y DU. Mae'r Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi pobl, prosiectau a chymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig