Mae pobl yn y DU yn dweud y bydd y pandemig yn newid eu hymddygiad ac yn arwain at hwb mwy hirdymor mewn ysbryd cymunedol
Mae'r arolwg yn datgelu gwersi a ddysgwyd o flwyddyn o gyfnodau clo
- Dywed tri chwarter o bobl yn y DU (77%) y bydd y pandemig yn newid eu hymddygiad, gyda ffocws newydd ar fwynhau pleserau syml (40%), ffrindiau a theulu (33%) ac ail-werthuso blaenoriaethau bywyd (28%)
- Cred bron hanner (48%) y bydd ysbryd cymunedol yn well yn yr hirdymor yn sgil y pandemig - dim ond 13% sy'n dweud y bydd yn waeth
- Cred 46% y bydd COVID yn cael effaith bositif ar faint mae pobl yn gofalu am eraill ac am yr amgylchedd (40%) – llawer uwch na chanran y rhai sy'n meddwl y bydd y rhain yn gwaethygu
- Caredigrwydd yn dychwelyd: gwelodd pobl fanteision go iawn mewn bod yn rhan o gymuned dros y flwyddyn heriol ddiwethaf, ond y budd mwyaf oll oedd medru rhoi cefnogaeth i bobl eraill (37%)
- Gallai hyn fod yn adeg arwyddocaol ar gyfer ysbryd cymunedol yn y DU, yn ôl Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae ymchwil newydd a gyhoeddir heddiw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr gweithgareddau cymunedol mwyaf y DU, yn awgrymu y gallai'r pandemig fod yn adeg o newid sylweddol i'r DU, gan beri i bobl wneud newidiadau parhaus i sut y maent yn byw eu bywydau a'r cysylltiadau y maent yn eu hadeiladu gyda chyfeillion, teulu a'r gymuned ehangach.
Wrth i'r DU ddod yn nes at flwyddyn ers y cyfnod clo, dywed tri chwarter o bobl (77%) y byddant yn newid eu hymddygiad o ganlyniad i'r pandemig, gyda phwyslais ar fwynhau bywyd symlach a mwy diymffrost yn sgil COVID. Ymysg y newidiadau allweddol mae mwynhau'r pleserau syml mewn bywyd yn fwy (40%), treulio mwy o amser gyda ffrindiau a theulu (33%) ac ail-werthuso blaenoriaethau bywyd (28%).
Daw'r canfyddiadau o Fynegai Ymchwil Gymunedol sydd newydd gael ei lansio - arolwg blynyddol o dros 7,000 o oedolion ar draws y DU a ddylunnir i gael syniad o sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau a'u pryderon allweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Caiff y Mynegai ei ddefnyddio gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i brofi a gwella'r hyn a ddysgir o'r miloedd o brosiectau a grwpiau y mae'n eu hariannu bob blwyddyn.
Nid yw'n syndod bod yr argyfwng COVID wedi rhoi pwyslais trymach ar iechyd, gyda thros chwarter (28%) o'r rhai a atebodd yn dweud eu bod yn bwriadu bod yn fwy iach yn y dyfodol. Mae profiadau'r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi gwneud i bobl eisiau bod yn fwy cymdogol (24%), caredig (21%) ac ystyriol at yr amgylchedd (21%).
Mae pobl yn obeithiol hefyd y bydd newidiadau ymddygiad a achoswyd gan y pandemig yn cael eu lledaenu. Cred bron hanner (48%) y bydd ysbryd cymunedol yn well yn yr hirdymor yn sgil y pandemig - dywed 13% yn unig y bydd yn waeth - ac mae llawer yn cytuno y bydd y pandemig yn cael effaith bositif ar faint mae pobl yn gofalu am eraill (46%) ac am yr amgylchedd (40%).
Dros y flwyddyn heriol ddiwethaf, rhoddodd bod yn rhan o gymuned ymdeimlad cysurus i bobl o ‘rydym i gyd yn hyn gyda'n gilydd’ (41%). Gallent weld buddion go iawn mewn bod yn rhan o gymuned, gan gynnwys cael pobl gerllaw i helpu (35%), ymdeimlad o gysylltiad ag eraill (34%) ac ymdeimlad gostyngol o unigedd (32%).
Fodd bynnag, y budd mwyaf oll oedd medru rhoi cefnogaeth i eraill (37%), sy'n cadarnhau bod helpu eraill neu wirfoddoli'n creu ei wobrwyon ei hun.
Mae'r ymchwil yn cyflwyno pleidlais o hyder haeddiannol ar gyfer y miloedd lawer o bobl a gamodd i'r adwy i helpu eu cymunedau yn ystod y pandemig - dywed un o bob deg (10%) yn unig nad ydynt yn credu bod gwaith grwpiau a phrosiectau cymunedol lleol wedi helpu a chefnogi pobl yn ystod y pandemig.
Meddai Faiza Khan MBE, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Mewnwelediad yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae blwyddyn o argyfwng wedi troi'r sbotolau ar gymunedau a newid y ffordd rydym yn gweld ac yn gwerthfawrogi nhw. Rydym wedi profi buddion cefnogaeth, caredigrwydd a bod yno ar gyfer ein gilydd, a gweld dros ein hunain y cryfderau a grëir gan gymunedau. Mae ein hymchwil yn awgrymu y bydd gwersi a ddysgir trwy'r pandemig yn para'n hir ac y gallent newid sut yr ydym yn rhyngweithio â'n gilydd yn y dyfodol.
“Fel ariannwr gweithgareddau cymunedol mwyaf y DU bu'n fraint i ni weld o lygad y ffynnon sut mae pobl a grwpiau wedi camu i'r adwy i gefnogi eu cymunedau trwy'r heriau a achoswyd gan y pandemig. Mae'r canfyddiadau'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym yn parhau i'w glywed a'i ddysgu ganddynt, a byddant yn helpu i gyfeirio ein hariannu yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd y gwerthfawrogiad hwn o'n cymunedau'n parhau, ac y bydd hyd yn oed yn fwy o bobl yn cael eu hannog neu eu cymell i gymryd rhan."
Meddai'r Farwnes Barran, Gweinidog dros Gymdeithas Sifil: “Yr un peth y mae'r 12 mis diwethaf wedi'i ddysgu i ni yw pwysigrwydd cysylltiadau cymdeithasol. Mae'r pandemig Covid-19 wedi profi ein cryfder a'n cydnerthedd ond mae hefyd wedi dangos i ni na ellir tanamcangyfrif grym ysbryd cymunedol. Wrth i ni symud allan o'r pandemig, rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i annog pobl i greu cysylltiadau trwy'r pethau y maent yn eu mwynhau neu gyda chyfleoedd yn eu hardal leol, ac i gefnogi eraill i wneud hynny hefyd. Gallai hyn gael effaith enfawr ar deimladau pobl o unigrwydd ac unigedd.”
Rhywun sydd wedi camu i fyny i helpu ei gymuned yn ystod y pandemig yw Ian Knowles, sy'n byw yn Stoke on Trent ac a ddechreuodd wirfoddoli dros y prosiect Staffordshire Sight Loss Association (SSLA) a ariennir gan y Loteri Genedlaethol y llynedd.
Meddai Ian; “Gwnaeth colli fy ngolwg effeithio'n fawr ar fy hyder a symbyliad i fynd allan a chwrdd â phobl newydd a chreu cyfeillgarwch, nes i mi ymuno â SSLA fel aelod. Ymunais â'r grŵp yn 2019, gan fynychu sesiynau cymdeithasol, clybiau ioga a grwpiau llyfrau wyneb yn wyneb - fe helpodd hynny oll i mi adennill fy hyder a theimlo'n bositif eto.
“Ar ddechrau'r pandemig, roeddwn eisiau gwneud mwy i helpu pobl sydd â chyflyrau tebyg i mi, felly ymrestrais i fod yn un o wirfoddolwyr ymgyfeillio SSLA dros y ffôn. Rwy'n gwneud galwadau rheolaidd i aelodau eraill i wirio i mewn a rhoi gwybod iddynt fod rhywun yma sy'n gwybod sut maen nhw'n teimlo. Rwyf eisiau cymryd hynny gam ymhellach ymlaen ac erbyn hyn rwy'n hyfforddi gyda SSLA i fod yn Ymgynghorydd Hawliau Lles i gynnig cefnogaeth gyda llenwi ffurflenni a cheisiadau, a rhoi cyngor ar ddod o hyd i waith."
Gwirfoddolwr ysbrydoliaethus arall yw Caroline Moyes Matheou a gamodd i fyny yn ystod y pandemig fel gwirfoddolwr ffôn yn Abbey Community Centre, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn Kilburn, Llundain.
“Rwyf wedi bod yn gwneud galwadau ffôn fel gwirfoddolwr ers mis Mehefin, ar y dechrau roeddwn i'n estyn allan i tua 160 o bobl bod 2/3 wythnos er mwyn gwirio i mewn a gweld sut maen nhw, gan sicrhau bod ganddynt y bwyd a meddyginiaeth sydd eu hangen arnynt. Mae rhai'n hapus gyda galwad gyflym, ond rwy'n cysylltu ag eraill yn fwy rheolaidd ac am sgyrsiau hirach. Rwy'n hynod o falch o fod y llais cyfeillgar 'na iddyn nhw ar ben arall y llinell,” esboniodd Caroline.
Dros y naw mis diwethaf, mae Caroline wedi bod yn gwneud newidiadau rheolaidd i aelodau ac yn falch o fod yn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau'n lleol. Diolch i arian gan y Loteri Genedlaethol, symudodd y ganolfan gymunedol eu gwasanaethau ar-lein ac maent yn parhau i gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol barhaus i dros 600 o bobl hŷn yn yr ardal trwy eu cynllun ymgyfeillio.
“Mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod andros o anodd i lawer o bobl, ac i rai mae'n bosib mai fi yw'r unig berson y maent yn siarad â nhw dros gyfnod o nifer o wythnosau. Yr ymadrodd yr wyf yn ei glywed bob tro y gwnaf y galwadau ffôn hyn yw 'diolch am ofalu' ac er ei fod yn swnio'n ddramatig byddaf yn ei glywed tua phum niwrnod y dydd gan bobl, maent yn wirioneddol ddiolchgar bod rhywun yn gwirio arnynt ac ar gael i siarad os bydd ei angen arnynt.
“Mae'n eithaf anodd cymathu'r lefel honno o unigrwydd, ond dyna pam mae gwaith yr Abbey mor werth chweil, rydym yn rhoi cymorth go iawn i wella iechyd meddwl pobl a lleihau unigrwydd trwy ein gwasanaeth ffôn. I ddechrau roedd fy ngalwadau'n cynnig cymorth unffordd ond erbyn hyn rwyf wedi cael sgyrsiau go iawn, ac er bod rhai'n drist iawn, mae llawer yn codi'r galon hefyd.”
I gael mwy o wybodaeth am Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a'r arian sydd ar gael i gefnogi cymunedau, ewch i www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/covid-19
Click here to read the full Community Research Index report.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig