£50,000 o arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer dyfodol digidol Sir Gaerfyrddin
Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin yn derbyn £49,353 o arian y Loteri Genedlaethol i wella eu darpariaeth cymorth digidol ar gyfer grwpiau'r sector gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin.
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin yw'r asiantaeth gymorth ar gyfer dros 800 o grwpiau gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin. Maent yn un o 14 o sefydliadau ledled y DU sy'n derbyn cyfran o £600,000 o arian y Loteri Genedlaethol o'r Gronfa Seilwaith Newydd.
Yn ystod pandemig COVID-19, mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin wedi profi newid dramatig yn y ffordd y gall gynnig ei wasanaethau'n ddiogel i grwpiau gwirfoddol. Byddant yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i allu mynd i'r afael ag anghenion newydd sefydliadau lleol wrth iddynt addasu i gymdeithas ôl-COVID-19.
Wrth groesawu'r grant, dywedodd Marie Mitchell, Prif Swyddog Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin: "Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn i gryfhau Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin a'r sector gwirfoddol ledled Sir Gaerfyrddin ac i sicrhau bod y sector yn ffynnu yn y dyfodol".
Dywedodd Ruth Bates, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'r sector gwirfoddol wedi cael effaith anhygoel i gefnogi pobl a chymunedau drwy'r pandemig, yn enwedig gan fod llawer o grwpiau wedi gorfod addasu eu gwaith i'w gyflawni ar-lein.
"Rwy'n falch iawn y bydd cannoedd o grwpiau lleol yn Sir Gaerfyrddin yn elwa o'r prosiect hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol."
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos i achosion da yn y DU sy'n chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi pobl, prosiectau a chymunedau yn ystod y cyfnod heriol hyn.
I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a'r arian sydd ar gael i gefnogi cymunedau ewch i tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/, galwch 029 2168 0214 neu e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru