“Rwyf wedi fy ysbrydoli cymaint gan y bobl rwyf wedi eu cyfarfod wrth wirfoddoli i’r Gymdeithas Macwlar, mae wir wedi helpu diagnosis fy hun.”
Gwnaeth y Gymdeithas Macwlar ymgeisio’n llwyddiannus am grant o £300,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru i’w galluogi i barhau i helpu dros 2,500 o bobl sy’n colli’u golwg yng Nghymru.
Mae bron 1.5m o bobl ym Mhrydain gyda chlefyd macwlaidd. Mae’n effeithio ar bobl o bob oedran. Dirywiad macwlaidd yn gysylltiedig ag oedran yw’r cyflwr mwyaf cyffredin, gan effeithio’n gyffredinol ar bobl dros 55 mlwydd oed a’r prif reswm am golli golwg ym Mhrydain gan effeithio dros 600,000 o bobl. Mae Caroline Noall wedi bod yn wirfoddolwr gyda’r Gymdeithas Macwlar ac yn fwy diweddar wedi defnyddio’r gwasanaeth ei hun, dywedodd wrthyf:
“Dechreuais fel gwirfoddolwr oherwydd roedd fy nhad wedi cael dirywiad macwlaidd ac roeddwn eisiau helpu. Ychydig yn ôl, cefais ddiagnosis o ddirywiad macwlaidd yn gysylltiedig ag oedran fy hun ac mae bod yn rhan o’r Gymdeithas Macwlar wedi fy nghadw i fynd. Mae’r bobl rwyf wedi eu cwrdd wrth wirfoddoli wedi fy ysbrydoli gymaint. Rwy’n aelod o’m grŵp lleol ac maen nhw’n cynnig cymaint o wybodaeth a chefnogaeth, ac mae’r llinell gymorth wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu mi i ddeall fy nghyflwr a thriniaeth.
“Fel gwirfoddolwr, roeddwn wedi hyfforddi i gyflwyno “Sgiliau i Weld” sef cwrs a wnawn i helpu pobl i wneud y mwyaf o’u golwg sy’n weddill. Pan ddaeth y pandemig daeth popeth i ben am gyfnod byr, ac yna ailddechreuom a nawr rwyf dal yn cynnig hyfforddiant “Sgiliau i Weld” dros y ffôn. Er ei fod yn anoddach na phan rydych gyda phobl, rydym yn cadw i fynd. Rydw i hefyd yn gwirfoddoli am y gwasanaeth cyfeillgarwch mae’r Gymdeithas yn ei gynnig.”
Bydd y Gymdeithas Macwlar yn gwario’r grant ar adeiladu ar eu prosiect blaenorol i gyflwyno cefnogaeth cymheiriaid ac ymarferol, cyngor a gwybodaeth i bobl yng Nghymru sydd â chlefyd macwlar. Esbonia Maria Storesund, Pennaeth Rhanbarthau i’r Gymdeithas Macwlar pa effaith caiff y grant:
“Mae galw mawr am ein gwasanaethau cefnogaeth, ac mae’r pandemig ond wedi amlygu ymhellach pa mor unig gall colli golwg fod. Mae llawer o rheiny a effeithiwyd gan glefyd macwlar yn hŷn ac yn fregus. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yma i gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ac i’w cysylltu nhw gydag eraill sy’n deall beth maen nhw’n profi.”
“Mae’r arian yma’n chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi pobl gyda chlefyd macwlar yng Nghymru ar amser pan maen nhw angen ein gwasanaethau mwy nag erioed. Hoffem ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, am eu cefnogaeth.”
Ychwanegodd Andrew Owen, Pennaeth Ariannu yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn pob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU, llynedd fe ariannom dros 8,000 o brosiectau ar draws y DU i ddod â chymunedau at ei gilydd, dros 7,500 yn cefnogi iechyd a lles. Mae’r Gymdeithas Macwlar yn esiampl ragorol o ba mor greadigol mae grwpiau wedi ymateb i’r heriau o’r pandemig, maen nhw yn gyson wedi darganfod ffyrdd i gefnogi'r rheiny sy’n dibynnu arnynt. Rwy’n gobeithio bydd y grant yma’n galluogi iddynt i barhau i gynnig y gefnogaeth a’r cyngor mae cymaint o bobl â’r cyflwr yma’n gwerthfawrogi.”
Mae’r Gymdeithas Macwlar yn un o’r 74 cymuned a rhannodd dros £3miliwn £3,300,305) ledled Cymru mis yma, i ddarllen mwy dilynwch y linc yma.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru