New report reveals benefits of £650 million investment into community spaces over past five years
- Buddsoddwyd £650 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, y Llywodraeth a thrydydd parti mewn seilwaith cymunedol dros y pum mlynedd diwethaf
- Mae'r arian hwn wedi cefnogi'r sector gwirfoddol a chymunedol i ymgymryd â 10,000 o waith adnewyddu adeiladau a 900 o brosiectau seilwaith hygyrchedd
- Mae 1,500 o neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol wedi derbyn £120 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn ystod y pum mlynedd diwethaf – dyna bedwar fesul awdurdod lleol
- Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi helpu cymunedau i gaffael 600 o leoedd a oedd yn bwysig iddynt ac a allai fod wedi'u colli fel arall yn ystod y pum mlynedd diwethaf
- Derbyniodd 300 o fusnesau cymunedol arian brys gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ystod y pandemig.
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU, yn datgelu'r gwahaniaeth enfawr a wnaed i fywydau pobl drwy wella hygyrchedd mannau cymunedol hanfodol.
Mae'r adroddiad, a enwir yn Connections Make Communities, yn archwilio effaith £650 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol, y Llywodraeth a thrydydd parti a ddyfarnwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ystod y pum mlynedd diwethaf*. Mae hyn wedi gweld elusennau a grwpiau cymunedol yn gwella mannau cymunedol ledled y DU, o neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol i ganolfannau hamdden a siopau sy'n eiddo i'r gymuned.
Mae'r buddsoddiad hwn wedi ariannu bron i 10,000 o waith adnewyddu adeiladau i wneud y mannau hyn yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch a chyfforddus i gymunedau lleol, yn ogystal â bron i 900 o brosiectau seilwaith hygyrchedd, gan ddarparu gwelliannau fel lifftiau a rampiau, fel y gall pob aelod o gymuned fwynhau eu cyfleusterau lleol.
Er bod gwneud adeiladau'n fwy hygyrch yn gorfforol yn hanfodol, mae'r ariannwr hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ystyried ystod ehangach o addasiadau er mwyn sicrhau bod lleoedd yn gwbl gynhwysol. Diolch i £100,000 o arian y Loteri Genedlaethol, mae Community First wedi dod â mwy na 350 o bwyllgorau neuaddau pentref at ei gilydd ar draws Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, gan sicrhau bod y lleoedd hyn yn parhau i fod wrth galon cymunedau. Mewn ymgais i leihau unigrwydd, mae'r grŵp wedi creu canllaw ar gyfer neuaddau pentref sy'n ystyriol o ddementia, sy'n cynnwys cyngor ar sut i wneud dyluniad a chynllun adeilad yn groesawgar i bobl sy'n byw gyda dementia.
"Mae neuaddau pentref yn achubiaeth ac yn aml gallant fod yn un o'r ychydig leoedd y gall pobl ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau", meddai Mark Herriott, Rheolwr Cyffredinol yn Communities First. Dyma pam mae 1,500 o neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol wedi derbyn arian hanfodol gan y Loteri Genedlaethol yn ystod y pum mlynedd diwethaf* ledled Cymru a Lloegr. Ar gyfartaledd, mae hynny'n bedwar adeilad cymunedol fesul ardal awdurdod lleol, sef cyfanswm o bron i £120 miliwn.
Power To Change yw buddsoddiad mwyaf yr ariannwr mewn menter gymunedol – ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd gyda gwaddol o £150 miliwn yn 2015 i gyflymu twf ac effaith busnesau cymunedol. Yn ystod ei bum mlynedd cyntaf, dyfarnwyd dros £85 miliwn i bron i 1,300 o fusnesau cymunedol gan gynnwys siopau, tafarndai a ffatrïoedd. Aeth dwy ran o dair (67%) o hyn i'r 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Lloegr, gan wneud gwahaniaeth eithriadol i fywydau pobl mewn cymdogaethau lle mae adeiladau cymunedol yn prysur ddiflannu.
Ymatebodd trigolion lleol Norwich i gau ffatri Mwstard Colman yn 2018 drwy sefydlu ymgyrch i ddechrau Norwich Mustard, busnes a arweinir gan y gymuned, gyda'r nod o gadw cynhyrchu mwstard yn rhan o hunaniaeth y ddinas. Codwyd £6,000 mewn codi arian torfol, ac roedd Power To Change yn cyfateb iddo. Erbyn hyn, mae gan y fenter sy'n eiddo i'r gymuned 140 o gyfranddalwyr sy'n aelodau ac mae'n ymfalchïo mewn gwneud Norwich yn lle gwell i fyw a gweithio - gan gyflogi'r rhai sydd bellaf o'r farchnad swyddi a datblygu eu sgiliau a'u profiad.
Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod yr ariannwr, dros y pum mlynedd diwethaf*, wedi helpu cymunedau i gaffael bron i 600 o asedau a oedd yn bwysig iddynt ac a allai fod wedi'u colli fel arall, o neuaddau pentref a thafarndai i orsafoedd ynni a datblygiadau tai. Er mwyn mynd i'r afael ag anghenion lleol ac adeiladu cydnerthedd cymunedol yn wyneb heriau economaidd, rhoddodd yr ariannwr arian brys i dros 300 o fusnesau cymunedol yn ystod y pandemig, fel y gallent barhau i redeg a pharhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Dywedodd Faiza Khan MBE, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Mewnwelediad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr effaith y mae arian a fuddsoddir mewn asedau cymunedol yn ei gael ar fywydau pobl ledled y DU. Mae lleoedd fel neuaddau pentref, caffis cymunedol a chanolfannau hamdden wrth galon ein cymunedau ac maent yn ganolbwynt i bobl ddod at ei gilydd, gwneud cysylltiadau ac adeiladu cyfeillgarwch a rhwydweithiau cymorth. Mae'r mannau hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu cymunedau i ffynnu a byddant yn bwysicach nag erioed wrth i gymunedau ailadeiladu o'r pandemig."
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi £36 miliwn** bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol y llynedd, dyfarnodd dros hanner biliwn o bunnoedd (£588.2 miliwn) o arian sy'n newid bywydau i gymunedau ledled y DU. I gael gwybod mwy ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig