Caru'n Cynefin: IKEA UK a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi bron i £1.5 miliwn mewn grantiau i gefnogi cymunedau a llefydd mwy cysylltiedig a gwydn
Heddiw [14 Hydref], mae Cronfa Gymunedol y Loteri ac IKEA UK yn cyhoeddi bron i £1.5 miliwn o gyllid i 330 grŵp cymunedol ledled y DU i ysbrydoli, galluogi a chyrchu pobl i fuddsoddi yn eu cymuned leol fel ymestyniad o'u cartref.
Mae'r bartneriaeth sydd dan brawf rhwng ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol a manwerthwr dodrefn i'r cartref mwyaf y byd, yn cefnogi cymunedau lleol ledled y DU gyda grantiau o hyd at £5,000 i adeiladu'n ôl yn well ac yn wahanol wrth iddynt adfer wedi pandemig COVID-19. Mae'r rhaglen Caru'n Cynefin yn datblygu ar egni a chreadigedd cymunedau yn dod at ei gilydd yn ystod yr argyfwng i gefnogi ei gilydd a'r nod yw eu hysbrydoli i weithredu dros fyw'n iach a chynaliadwy, gan ddysgu gan ei gilydd a magu cysylltiadau ystyrlon.
Mae'r prosiectau'n amrywio o gefnogi pobl mewn profedigaeth yn Northumberland i weithdai celfyddydol amgylcheddol ym Mryste a dosbarthiadau bocsio yn helpu iechyd corfforol a meddyliol yn Bolton, ac mae'r cwbl yn cefnogi cymunedau a llefydd mwy cysylltiedig a gwydn.
Dywedodd Emma Ackerman, Cyfarwyddwr Strategaeth Cyllid yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Wrth i ni ddod yn ôl ar ein traed wedi pandemig COVID-19, mae'n amlwg y gallwn ddatblygu ar yr egni a'r creadigedd yr ydym wedi'u gweld i wneud cymunedau yn gryfach a bywyd bob dydd yn well. Rydym wrth ein bodd ein bod, ynghyd ag IKEA a chyfranwyr y Loteri Genedlaethol, wedi gallu cefnogi hyn ledled y DU gyda'n partneriaeth dan brawf a'r cyllid a gafodd ei gyhoeddi heddiw.”
Dywedodd Hege Saebjornsen, Ymgynghorydd Partneriaeth yn Ingka Group: "Mae argyfwng COVID-19 wedi dangos pa mor fregus yw'r byd, gan bwysleisio'r angen am wytnwch cyfunol - i'n cymdogaethau, ein cymunedau a'n planed. Drwy'r rhaglen hon, mae gennym gyfle i wneud byw'n iach a chynaliadwy yn hygyrch a fforddiadwy i bawb gan fanteisio hefyd ar sgiliau, egni a brwdfrydedd cymunedau i gymryd rhan mewn gwneud gwahaniaeth bob dydd."
Yn Northumberland, bydd Nature's Living Room CIC yn gweithio gyda theuluoedd mewn profedigaeth yn yr ardal i gefnogi gyda'u galar drwy eco-therapi a chymorth gan gymheiriaid. Mae'r grŵp yn defnyddio bron i £5,000 mewn cyllid i gynnal y sesiynau yn yr Ysgol Goedwig, gan gynnig lle diogel i deuluoedd allu siarad a rhannu atgofion o'u hanwyliaid a chael cefnogaeth ar gyfer eu llesiant meddwl.
Dywedodd Deni Riach, Cyfarwyddwr Nature’s Living Room CIC: “Rydym yn hynod falch gyda'r cyllid newydd hwn a fydd yn ein helpu i ddwyn ynghyd teuluoedd mewn profedigaeth sydd wedi colli aelod o'u teulu neu'r rhai sy'n dod i delerau ag aelod o'r teulu sy'n derfynol wael. Gyda diolch i gyfranwyr y Loteri Genedlaethol ac IKEA, gallwn roi cyfle i deuluoedd gwrdd â phobl sydd wedi cael profiadau tebyg a chefnogi ei gilydd drwy eu galar, gan fwynhau'r effeithiau cadarnhaol sy'n dod law yn llaw â bod mewn byd natur.”
Bydd The Lamplighters ym Mryste yn defnyddio £5,000 o gyllid i adfywio ac ailddylunio gardd y tŷ crwn - ased cymunedol poblogaidd. Bydd y prosiect yn dod â phobl ynghyd drwy ddigwyddiadau celfyddydol ecolegol i gefnogi cysylltiadau cymdeithasol gwell, darparu addysg ar fioamrywiaeth a gwella llesiant meddwl a chorfforol.
Bydd y Metro Community Boxing Gym yn Bolton yn defnyddio grant o £5,000 i ddarparu mwy o ddosbarthiadau bocsio allgymorth ar draws y gymuned. Mae'r sesiynau yn dwyn ynghyd pobl o bob oedran ac yn helpu i wella iechyd meddwl a chorfforol preswylwyr lleol.
Dywedodd Leigh Alexander, Ysgrifennydd a Chyfarwyddwr Metro Community Boxing Gym: "Rydym yn hynod falch bod cyfranwyr y Loteri Genedlaethol ac IKEA yn cefnogi ein prosiect newydd i roi mynediad i bobl ledled Bolton at ddosbarthiadau bocsio. Bydd y cyllid hwn drwy Caru'n Cynefin yn ein helpu ni i gynyddu'r sesiynau bocsio yr ydym yn eu cynnig yn y gymuned, ac yn y pendraw, helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol mwy o bobl."
Ochr yn ochr â'r cyllid, mae bob grŵp cymunedol a gyflwynodd gais – pa un ai a gawsant gyllid ai peidio – wedi'u gwahodd i ymuno â chymuned gefnogol. Mae'r rhaglen dysgu a chefnogi rithiol hon wedi'i chreu gan Ymddiriedolaeth Participatory City. Bydd y gymuned gefnogol yn golygu bod cymunedau sy'n cymryd rhan yn gallu datblygu gallu a gwybodaeth yn well mewn perthynas â gweithredu dros y gymuned, byw'n gynaliadwy ac iach, creu ar y cyd, a chyfranogiad. Yn ogystal, bydd ymchwilwyr o Brifysgol Middlesex a Phrifysgol Surrey yn cefnogi'r bartneriaeth er mwyn deall sut all cyllid grant a chymuned gefnogol a rhannu gwybodaeth helpu i gyflawni effaith ystyrlon a pharhaus.
Mae'r cyfanswm o £1.5 miliwn o gyllid sydd ar gael fel rhan o Caru'n Cynefin yn cynnwys £1 miliwn gyda diolch i gyfranwyr y Loteri Genedlaethol a £500,000 gan IKEA UK. Yn ogystal, cyfrannodd IKEA UK £200,000 at greu'r rhaglen ddysgu ac at ariannu'r prosiect ymchwil.
Mae Caru'n Cynefin dan brawf i brofi sut mae partneriaeth rhwng ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol y DU yn gweithio gyda'r manwerthwr dodrefn i'r cartref mwyaf yn y byd.
Er mwyn rhannu dysg a dealltwriaeth gychwynnol yn sgil y prawf hwn gyda'r rhai sydd â diddordeb, gan gynnwys arianwyr a busnesau eraill, mae IKEA UK a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dechrau Lab Dysgu. Os hoffech gymryd rhan yn y Lab Dysgu, cysylltwch â – cassie.robinson@tnlcommunityfund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig