Neges gan David Knott, Prif Weithredwr newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Heddiw mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi fy mhenodiad yn Brif Weithredwr newydd. Mae'n anrhydedd i mi arwain y mudiad anhygoel hwn, ond ychydig yn frawychus hefyd, gan fod hi'n teimlo bod angen ein cenhadaeth - helpu pobl a chymunedau i ffynnu a llewyrchu - mwy nag erioed o'r blaen ac mae ein hariannu yn cael ei wneud ar adeg dyngedfennol i gymunedau.
Ymunais â'r mudiad tua diwedd 2020. Rwyf wedi dysgu mai ni yw'r ariannwr cymunedol mwyaf ledled y DU a bod ein hariannu yn gwneud gwir wahaniaeth. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi cefnogi mwy na 72,000 o brosiectau cymunedol trwy dros £3.4bn o grantiau. Rydyn ni yma er budd pawb, gan ddod ag ymagwedd leol i gyrraedd pobl a chymunedau. Gan weithio gyda phartneriaid yn lleol ac yn genedlaethol rydym yn gallu lledaenu arfer da a dyfnhau effaith ymhellach. Mae hyn yn ein gwneud ni'n fwy nag ariannwr yn unig, gan chwarae rhan weithredol wrth guradu a rhannu tystiolaeth, dysg a mewnwelediad.
Rydym yn falch ein bod wedi sefyll gyda chymunedau yn ystod pandemig ofnadwy'r 18 mis diwethaf. Ym mhob rhan o'r wlad, fe symudom yn gyflym i ymateb i'r argyfwng, gan sicrhau cynnydd o 40% mewn dyfarniadau ledled y DU, gydag arian y Loteri Genedlaethol yn gweithio ochr yn ochr ag arian ychwanegol ar ran Llywodraethau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bellach gellir gweld y gwahaniaeth y mae hyn wedi'i wneud. Ledled y DU, fe gyrhaeddon ni 10.9 miliwn o bobl. Yn Lloegr, mae gwerthusiad annibynnol yn dweud wrthym nid yn unig fod hon yn flwyddyn hynod lwyddiannus, ond bod ein model gweithredu wedi sicrhau gwerth cryf am arian. Roedd hyn yn achubiaeth i'r mwy na 4,000 o elusennau a oedd yn gallu parhau i weithredu, gan gynnig gwasanaethau rheng flaen hanfodol a helpodd y rhai mwyaf agored i niwed ar adeg o angen mawr.
Fel y Prif Weithredwr newydd, rwy'n falch o'r ymdrech anhygoel hon a phroffesiynoldeb ac agwedd gadarnhaol y staff a'i gwnaeth yn bosibl. Ar yr un pryd, mae ymateb y cymunedau rydyn ni'n eu cefnogi yn fy narostwng. Mae'r pandemig wedi dod â ffocws craff i rywbeth rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod ei fod yn wir, ond yn rhy aml wedi'i guddio o'r golwg - mai cymunedau yw calon ein cenedl, yn llawn y cysylltiadau â phobl a lleoedd sy'n rhoi ystyr, pwrpas ac ymdeimlad o berthyn i ni.
Mae gennym ran fawr i'w chwarae yn yr oes newydd hon o adnewyddu cymunedol. Ar bob cam o'r ffordd gallwch chi ddibynnu arnom i roi cymunedau yn gyntaf. Mae'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu ers blynyddoedd lawer yn dal yn wir - byddwn ni'n agored i bob cymuned, gan barchu eu man cychwyn. Byddwn yn defnyddio ein hariannu i ddod â phobl a chymunedau ynghyd. Byddwn yn cefnogi syniadau gan gymunedau. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y wybodaeth y bydd cymunedau'n ffynnu ac yn llewyrchu pan fydd pobl yn arwain.
Heddiw rydym yn cyhoeddi Rhoi Cymunedau yn Gyntaf - Ein Hymrwymiad. Mae'n nodi'r hyn y gall ein partneriaid ei ddisgwyl gennym ni dros y flwyddyn i ddod. Ni allaf aros i weld y nifer fawr o brosiectau cymunedol anhygoel y byddwn yn eu cefnogi, ac i fod yn rhan o adegau pwysig lle byddwn yn helpu i ddod â phobl ynghyd, megis y Jiwbilî Platinwm, Gemau'r Gymanwlad a Gŵyl 2022, ffocws mawr ar draws y teulu ehangach y Loteri Genedlaethol.
Wrth i ni edrych ymlaen, yn fwyfwy hyderus a chlir ynghylch ein pwrpas, i gyd-fynd â'r angerdd hwn am y gwahaniaeth a ddaw yn sgil ein gwasanaeth rhaid i ni hefyd ymrwymo i fod y gorau y gallwn fod yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Yn fy nghyfnod yma, rwyf wedi gweld yr hyn sy'n wych am y mudiad hwn, ond gwn hefyd ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i ddysgu a thyfu. Lle mae pethau y gallem eu gwneud yn well, fe welwch fi'n gwrando, yn dysgu ac yna'n helpu'r mudiad i weithredu.
Bydd tegwch a chynhwysiant wrth wraidd y mudiad hwn, o ran sut rydym yn ariannu a sut rydym yn ymddwyn fel cyflogwr. Bydd y rhain yn feysydd blaenoriaeth wrth i ni symud ymlaen - rwyf am sicrhau ein bod y gorau y gallwn fod.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig