Rhoi Cymunedau yn Gyntaf
Ein Hymrwymiad i Gymunedau.
Mae'r DU yn parhau i addasu i newidiadau a heriau a achoswyd gan y pandemig. Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, rydym am fod yn glir ynghylch yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.
Mae'r ymrwymiadau canlynol yn rhai DU-gyfan - maen nhw'n dweud wrthych chi beth fydd ein hymagwedd gyffredinol at ariannu. Bydd ein cynnig ariannu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Phortffolio'r DU yn dangos i chi sut rydym yn rhoi'r ymrwymiadau hyn ar waith yn ymarferol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.
1. Mae ein hymrwymiad i bobl a chymunedau yn parhau i fod yn gyson
Dyma ein haddewid gyntaf i chi - y gallwch chi, lle bynnag rydych chi wedi'ch lleoli yn y DU, ddisgwyl i'n hariannu barhau i gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu a llewyrchu. Roeddem yn falch o ddarparu cefnogaeth trwy gydol argyfwng COVID, a byddwn yn falch o fod yma i chi wrth i gymunedau adfer, ailadeiladu a thyfu.
Mae'r galw am ein hariannu yn parhau i fod yn uwch nag erioed. Er na allwn ariannu pob prosiect neu syniad gwych, fel yr ariannwr mwyaf o weithgaredd cymunedol yn y DU gallwch ddibynnu arnom:
- I fod yn agored i bob cymuned a pharchu eu man cychwyn. Rydym yn gwybod bod gan ein hariannu ran i'w chwarae wrth greu cymdeithas decach rhwng ac o fewn cymunedau ledled y DU. Byddwn yn helpu i sicrhau'r un lefel o gyfle trwy sicrhau bod ein hymagwedd yn hyblyg, yn gymesur ac yn wybodus.
- I ddefnyddio ein hariannu i ddod â phobl a chymunedau ynghyd. Byddwn yn parhau i ariannu'r lleoedd, mudiadau a'r bobl sy'n ganolog i wneud i hyn ddigwydd. Gyda mwy na 10 miliwn o wirfoddolwyr yn camu ymlaen yn ystod y pandemig - rydyn ni'n gwybod bod pŵer yn ein cymunedau.
- I gefnogi syniadau gan gymunedau. Bydd ein gwaith yn cael ei arwain gan y wybodaeth, pan fydd pobl yn arwain, bod cymunedau'n ffynnu ac yn llewyrchu. Byddwn yn sicrhau bod ein hariannu yn cael ei lywio'n ystyrlon gan brofiad dysgedig, ymarferol o lygad y ffynnon, yn ogystal â'r mewnwelediad a'r wybodaeth sydd gennym ni ac eraill.
2. Rydym wedi ymrwymo i degwch a chynhwysiant
Mae arian y Loteri Genedlaethol i bawb. O ran cyflawni hyn, ein timau, sydd wedi'u lleoli mewn cymunedau ledled y DU, yw ein hasedau mwyaf. Bydd eu gwybodaeth, sgiliau, presenoldeb a chysylltiadau cymunedol yn parhau i sicrhau bod ein harian yn parhau i ymateb i amryw gryfderau ac uchelgeisiau gwahanol gymunedau. Ein gweledigaeth yw un o gymunedau ffyniannus lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael yr un cyfle. Rydym ni ein hunain yn gymuned. Yn hynny o beth, rydym yn disgwyl gweithio gyda'n gilydd yn unol â'r un gwerthoedd a dyheadau a fynegir wrth i ni wneud grantiau ac ymgysylltu ynghyd ag yn ein proffil cyhoeddus.
3. Rydym wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth
Rydym yn gwybod bod arian y Loteri Genedlaethol yn newid bywydau - byddwn yn defnyddio ein hadnoddau yn dda, fel bod arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf posibl. Bydd data ac effaith yn llywio ein strategaeth ac, fel rhan o hyn, byddwn yn ailddyblu ein hymdrechion i fesur, deall a rhannu beth sy'n gweithio, pam, a lle mae heriau a chyfleoedd yn codi.
Byddwn yn archwilio ffyrdd newydd o wireddu'r cyfraniad y mae'r Loteri Genedlaethol yn ei wneud mewn cymunedau diolch i'r rhai sy'n chwarae. Byddwn yn gweithio i wneud y cyfraniad hwnnw'n fwy gweladwy a hygyrch i fwy o gymunedau, gan helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl ddod o hyd i'r cyfoeth o wasanaethau sydd ar stepen eu drws a'u mwynhau - diolch i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
4. Rydym wedi ymrwymo i'n rôl fel ariannwr cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar faterion cymdeithasol allweddol
Fel ariannwr cenedlaethol byddwn yn berthnasol ac yn canolbwyntio ar y rôl a'r cyfraniad a chwaraewn ar y materion a'r blaenoriaethau cymdeithasol allweddol sy'n wynebu cymunedau'r DU.
- Rydym yn targedu ein hariannu i'r man lle mae ei angen fwyaf - dros y pum mlynedd diwethaf aeth hanner ein hariannu i'r 30% o ardaloedd lleol ledled y DU sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd.
- Rydyn ni'n un o'r ariannwr pennaf o gyfleoedd i bobl ifanc y tu allan i'r ysgol - dros y pum mlynedd diwethaf rydyn ni wedi cefnogi gwerth mwy na £1.2 biliwn o brosiectau ieuenctid lleol.
- Rydym yn gweithio i gefnogi cymunedau ar weithredu yn yr hinsawdd a'r amgylchedd - dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi dyfarnu bron i £400m trwy 6,000 o brosiectau ac wedi adnewyddu ein hymrwymiad i iechyd ein planed gyda Chronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100m.
Byddwn yn cyhoeddi Adroddiad Effaith sy'n archwilio'r hyn rydyn ni'n ei wybod ac yn dysgu am y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud yn y meysydd hyn. Wrth edrych ymlaen, byddwn yn gweithio gyda chymunedau, budd-ddeiliaid a llywodraethau i sicrhau bod ein gwerth ychwanegol yn canolbwyntio lle mae fwyaf perthnasol, gan wneud y gwahaniaeth mwyaf y gallwn, diolch i'r sawl sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol.
Ar ôl cyfnodau hir ar wahân a gyda mwy o barch a dealltwriaeth o rôl hanfodol cymunedau yn y DU, rydym yn cydnabod pwysigrwydd dathlu cymunedol. Yn 2022, ochr yn ochr ag aelodau eraill o deulu’r Loteri Genedlaethol, byddwn yn ariannu dathlu adegau cenedlaethol, megis Gemau’r Gymanwlad a’r Jiwbilî Platinwm. Mae'r adegau hyn yn darparu llwyfan i gymunedau ddod at ei gilydd, ond hefyd i ddangos eu cyfraniad trwy brosiectau a all greu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
5. Rydym wedi ymrwymo i ymateb nawr a siapio'r dyfodol
Ein hymrwymiad olaf i chi yw hyn. Byddwn yn parhau i fod yn ymatebol i gymunedau, gan gydnabod hefyd y rôl bwysig sydd gennym ni a'n hariannu i'w chwarae wrth lunio'r dyfodol. Byddwn yn uchelgeisiol ac yn datblygu arferion arloesol sy'n caniatáu i ni, ac eraill, gyflawni hyn.
Byddwn yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod ein hariannu, ni waeth ei ffocws, yn tynnu ar wybodaeth, mewnwelediad a rhagwelediad. Byddwn yn ymrwymo i bartneriaethau strategol a chydweithrediadau meddylgar i wneud y gorau o arbenigedd pobl eraill a’r cryfderau a’r sgiliau sydd ganddyn nhw i'w cynnig. Byddwn yn sicrhau bod ein gwybodaeth, profiad a rhwydweithiau yn cael eu rhannu lle gallant helpu eraill.
Mae'r ymrwymiadau hyn i'r cymunedau rydyn ni yma i'w gwasanaethu a'r partneriaid cymdeithas sifil rydyn ni'n gweithio ochr yn ochr â nhw. Wrth i gychwyn adfer ar ôl y pandemig, byddwn yn gweithio i adnewyddu ein strategaeth gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu ein hymrwymiadau ac yn bwrpasol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Wrth wneud hynny, fel erioed, mae dyfeisgarwch, arloesedd ac angerdd y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu yn parhau i'n hysbrydoli a darostwng.
Ym mhopeth a wnawn, byddwn yn Rhoi Cymunedau yn Gyntaf.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig