Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn penodi Prif Weithredwr newydd ac yn adnewyddu ei hymrwymiad i gymunedau
Mae heddiw yn nodi dechrau pennod newydd ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gyda phenodiad Prif Weithredwr newydd a chyhoeddi ymrwymiad o'r newydd i gymunedau.
Heddiw mae ariannwr cymunedol mwyaf y DU wedi cyhoeddi y penodwyd David Knott yn Brif Weithredwr newydd. Bydd y cam hwn yn ei weld yn cymryd y llyw yn barhaol ar ôl gweithredu fel Prif Swyddog Gweithredol dros dro ers mis Mehefin eleni.
Ymunodd David â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Hydref 2020 a daw â phrofiad sylweddol mewn cymdeithas sifil a gwasanaeth cyhoeddus. Cyn ymuno â'r Gronfa Gymunedol, roedd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Sifil ac Ieuenctid, yn gyfrifol am bolisi ar elusennau, gwirfoddoli, pobl ifanc, dyngarwch, asedau segur, buddsoddi mewn effaith a busnes dan arweiniad cenhadaeth.
Mae hefyd wedi gweithio'n rhyngwladol, gan gynghori ar lywodraethu a pholisi cyhoeddus mewn dros ddwsin o wledydd, ac yn y sector preifat.
Yn gam cyntaf o dan ei arweinyddiaeth, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi Rhoi Cymunedau yn Gyntaf - Ein Hymrwymiad i Gymunedau. Ar ôl 18 mis a gafodd eu dominyddu gan ddarparu cefnogaeth argyfwng, mae hyn yn nodi'n glir yr hyn y gall deiliaid grantiau a phartneriaid eraill ei ddisgwyl dros y flwyddyn i ddod ac yn anfon neges gref bod yr ariannwr yn parhau i ganolbwyntio ar y ffordd orau i gefnogi cymunedau, yn enwedig wrth iddynt ailadeiladu ar ôl y pandemig.
Mae David hefyd wedi cymryd y cam o amlinellu ei weledigaeth i grantïon a budd-ddeiliaid eraill mewn datganiad a gyhoeddwyd ar wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol heddiw.
Dywed David Knott, Prif Weithredwr newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi cefnogi mwy na 72,000 o brosiectau cymunedol trwy dros £3.4 biliwn o grantiau. Mae'r arian hwn yn newid bywydau pobl a chymunedau, a dyna pam rwy'n falch iawn o arwain Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i'r bennod newydd, gyffrous nesaf.
“Wrth i ni ailadeiladu ar ôl y pandemig, fy ymrwymiad yw rhoi cymunedau yn gyntaf. Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yno i gefnogi pobl a chymunedau i ffynnu a llewyrchu, a byddwn yn ailddyblu ein hymdrechion i gael yr effaith fwyaf bosibl y gallwn ledled y DU. Wrth i ni wneud hyn, bydd tegwch a chynhwysiant wrth wraidd ein mudiad. Y rhain fydd fy meysydd blaenoriaeth wrth i ni symud ymlaen - bod yno i'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu trwy fod y gorau y gallwn fod."
Dywed Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Rwy’n falch iawn o groesawu David Knott fel y Prif Weithredwr newydd. Bydd yn arwain ein mudiad ymlaen ac yn sicrhau ei fod yn hyderus, yn atebol ac yn bwrpasol.
“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da - mae’n fraint bod yn gyd-geidwaid dibynadwy o’r arian cyhoeddus hwn ac i fod yn cefnogi cymunedau wrth iddynt gychwyn adfer wedi cyfnod heriol lle dangoswyd gwir werth cymuned mewn modd mor amlwg. Byddwn yno i gefnogi - gan roi cymunedau yn gyntaf ym mhopeth a wnawn. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni allu dangos y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud a defnyddio tystiolaeth effaith i lunio ein cyfeiriad yn y dyfodol.”
Yn ystod y pandemig, yn 2020 yn unig, dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bron i £1 biliwn i elusennau a mudiadau cymunedol ledled y DU.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.CronfaGymunedolYLG.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig