Yn ôl i'r Ardd gyda grant gan y Loteri Genedlaethol
Yn ôl i'r Ardd gyda grant gan y Loteri Genedlaethol
Mae Gardd Furiog Erlas yn Wrecsam wedi gwneud cais llwyddiannus am grant o bron i £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wella'r cyfleusterau yn yr ardd lle maent yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i ddatblygu eu hyder a gwella eu lles corfforol. Mae James yn un o'r gwirfoddolwyr ac am yr wyth mlynedd diwethaf mae wedi bod yn mynd ddwywaith yr wythnos.
Dywedodd James wrthym:
"Dwi wrth fy modd yn dod i Ardd Furiog Erlas, dwi'n dda am chwynnu! Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn yr awyr agored gyda fy ffrindiau."
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yn Wrecsam yn defnyddio'r grant i helpu eu cymuned i addasu, adfer a ffynnu, drwy ail-adeiladu llwybrau, gwelyau blodau wedi'u codi, a chael gwared ar hen boly-twnnel wedi'i ddifrodi a chodi un newydd, gyda meinciau wedi'u codi fel y gall pawb gymryd rhan mewn gweithgareddau garddio eto, wrth ochr y gwirfoddolwyr.
Meddai Ann Morton, Codwr Arian Elusennol yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas:
"Erbyn hyn mae gennym bron pawb yn ôl yn y gerddi, yn gweithio gyda'u ffrindiau, ac yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd. Dioddefodd ein pobl yn fawr yn ystod y pandemig, er ein bod yn cadw mewn cysylltiad â phawb mewn gwahanol ffyrdd. Mae ein defnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr a staff yn edrych ymlaen at gael poly-dwnnel newydd i weithio yn y flwyddyn nesaf. Mae'r grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mor bwysig, gallwn ailadeiladu perthnasoedd a chydweithio'n ddiogel yn ein gerddi muriog heddychlon a therapiwtig. Rydym yn gobeithio dechrau'r prosiect ym mis Ionawr 2022."
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
"Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU ac mae wyth o bob deg o'n grantiau am dan £10k – gan fynd i grwpiau llawr gwlad ac elusennau ledled y DU, yn union fel Gardd Furiog Erlas. Gwyddom fod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan y gymuned leol. Rydym yn edrych ymlaen at weld mwy fyth o bobl yn dychwelyd a darganfod sut mae Arian y Loteri Genedlaethol yn helpu James a'r bobl eraill sy'n cymryd rhan yn y prosiect i barhau i ffynnu, yn y lleoliad awyr agored hardd hwn."
Mae Gerddi Muriog Erlas yn un o'r 48 prosiect sy'n dathlu'r mis hwn, a dderbyniodd gyfran o fwy na £3.3 miliwn o grantiau a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol. I ddarllen am y projectau eraill, dilynwch y ddolen hon.
I ddod o hyd i wybodaeth am wneud cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant i helpu eich cymuned i ffynnu, ewch i cronfagymunedolylg.org.uk neu ffoniwch 0300 123 0735.
-diwedd-
Ffoto -Llun o James yn gweithio yn y poly-dwnnel, cyn i’r un newydd ddod i gymryd ei le
Nodiadau i olygyddion:
Mae'r grant i Ardd Furiog Erlas am £9,268 ac mae'r cyfanswm a ddyfarnwyd mewn grantiau y mis hwn yn £3,313,515.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru