Dros hanner oedolion y DU yn pryderu am effaith newid yn yr hinsawdd ar eu cymuned leol
Mae ymchwil newydd yn dangos bod dros hanner (54%) oedolion y DU yn poeni am sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eu cymuned leol, ac mae hyn yn eu sbarduno i weithredu yn yr hinsawdd a arweinir gan y gymuned:
- · Cyfrifoldeb: er bod bron i naw o bob deg (88%) yn dweud mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae pobl yn cydnabod bod gan unigolion (82%) a chymunedau (79%) rôl allweddol hefyd
- · Cymryd rhan: mae mwy na hanner (55%) oedolion y DU yn dweud eu bod naill ai'n cymryd rhan mewn gweithredu yn yr hinsawdd a arweinir gan y gymuned ar hyn o bryd neu'n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol neu y byddant yn ystyried gwneud hynny yn y dyfodol
- · Mae mwy na phedwar o bob deg (44%) yn dweud bod pandemig COVID-19 wedi gwneud pwysigrwydd mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn bwysicach yn bersonol iddynt
- · Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu dros £397 miliwn mewn dros 6,000 o grantiau ar gyfer gweithredu amgylcheddol - mae'n dweud y gall gweithredu yn yr hinsawdd gymunedol wneud gwahaniaeth.
Wrth i'r DU baratoi i gynnal COP26, mae ymchwil newydd* allan heddiw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU, yn dangos bod dros hanner (54%) oedolion y DU yn poeni am sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eu cymuned leol.
Mae'r arolwg o dros 8,000 o bobl ledled y DU yn dangos bod realiti'r hyn a allai ddeillio o newid yn yr hinsawdd yn taro adref i lawer ohonom, ond ar yr un pryd mae ymdeimlad pobl o gyfrifoldeb personol ac sydd am weithredu, boed yn unigol neu gyda'n gilydd, hefyd yn dechrau.
Er bod bron i naw o bob deg (88%) yn dweud mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae cydnabyddiaeth uchel iawn am rôl unigolion a chymunedau hefyd. Mae dros wyth o bob deg (82%) yn dweud bod gan unigolion gyfrifoldeb, tra bod 79% yn dweud yr un peth am gymunedau lleol.
Yn bwysicach na hynny, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod pobl am gymryd cyfrifoldeb personol am liniaru'r effaith ar eu cymuned - mae mwy na hanner (55%) yn dweud eu bod naill ai'n cymryd rhan mewn gweithredu yn yr hinsawdd a arweinir gan y gymuned ar hyn o bryd neu eu bod yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol neu y byddant yn ystyried gwneud hynny.
Dywed saith o bob deg (71%) eu bod yn ailgylchu mwy, tra bod tua hanner (52%) yn defnyddio offer a goleuadau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon gartref neu wedi inswleiddio eu cartrefi (51%). Yn ddiddorol, mae mwy na phedwar o bob deg (44%) yn dweud bod pandemig COVID-19 wedi gwneud pwysigrwydd mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn bwysicach iddynt yn bersonol.
Meddai Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'r ymchwil hwn yn dangos bod pobl yn dod yn fwyfwy ymwybodol y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt hwy a'u cymuned. Ond cydnabyddir hefyd fod gan unigolion a chymunedau rôl hanfodol i'w chwarae, ochr yn ochr ag ymateb y Llywodraeth a busnes.
"Fel ariannwr mwyaf y DU o weithgarwch cymunedol, rydym yn falch iawn o gefnogi'r ymdrech hon gydag arian y Loteri Genedlaethol. Mae'r prosiectau gweithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned yr ydym wedi'u cefnogi yn dangos i ni fod rhai datblygiadau arloesol gwych yn digwydd sy'n dod â phobl a chymunedau at ei gilydd mewn ffordd gadarnhaol iawn. Mae'n amlwg bod sawl ffordd y gall pobl a chymunedau ledled y DU gymryd camau yn yr hinsawdd felly byddwn yn annog pobl sy'n poeni am y mater hwn neu sy'n pryderu am effaith newid yn yr hinsawdd ar eu cymuned i gymryd rhan."
Un grŵp cymunedol sydd eisoes yn cefnogi cymunedau lleol i weithredu yn yr hinsawdd diolch i arian y Loteri Genedlaethol yw Bude Together, sy'n cael ei redeg gan Dîm Cymunedol Arfordirol Bude yng Nghernyw.
Mae'r prosiect yn defnyddio bron i £200,000 o arian y Loteri Genedlaethol i gynnal ymchwil yn yr ardal arfordirol i ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Bydd yr ymchwil yn helpu'r gymuned i flaenoriaethu dulliau posibl o liniaru'r bygythiadau amgylcheddol a lleihau ôl troed carbon y dref. Mae'r prosiect yn cefnogi uchelgais yr ardaloedd i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 a bod yn ardal dwristiaeth gynaliadwy flaenllaw.
Meddai Rob Uhlig, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd cyngor y dref ac aelod o Dîm Cymunedol Arfordirol Bude (BCCT): “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn helpu i sicrhau bod ein cymuned, ein heconomi, ein trigolion a'n busnesau yn gallu dod o hyd i'r ffyrdd gorau o ddiogelu ein ffordd werthfawr o fyw a'n harfordir hardd rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd."
Prosiect arall sy'n cymryd camau gweithredu yn yr hinsawdd a arweinir gan y gymuned diolch i arian y Loteri Genedlaethol yw Partneriaeth Ynni Nottingham (NEP), sy'n gweithio ochr yn ochr â Meadows Ozone Energy Services (MOZES), i redeg prosiect Green Meadows. Mae'r bartneriaeth yn defnyddio £1.5 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ar draws y Meadows i weithredu a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae prosiect Green Meadows yn cefnogi pobl leol y Meadows gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r offer sydd eu hangen arnynt i gael cartrefi mwy effeithlon o ran ynni. Gan ddefnyddio offer fel y Banc Gwybodaeth yn Llyfrgell Meadows a sesiynau dysgu cymunedol mewn Ysgolion Cynradd lleol, mae ardal Meadows yn gobeithio arwain trawsnewidiad Nottingham i Ddinas Ddi-garbon Net erbyn 2028. Gyda phrosiectau ar y gweill megis hyfforddiant sgiliau cartref gwyrdd ac archwiliad ynni, mae'r Prosiect Green Meadows yn gobeithio gweithredu fel catalydd ar gyfer ardaloedd eraill, yn Nottingham ac ar draws Canolbarth Lloegr, i ymgymryd â'r her o leihau eu hôl troed carbon.
Meddai Philip Angus, Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Ynni Nottingham (NEP): "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu cymryd camau tuag at ddod yn gymuned fwy gwydn o ran newid yn yr hinsawdd yn y Meadows a chwarae ein rhan i helpu Nottingham i gyrraedd ei tharged Net Zero Carbon 2028."
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU*. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 2016, rydym wedi dyfarnu £397 miliwn drwy fwy na 6,000 o grantiau sy'n cynnwys gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a'r amgylchedd naturiol.
I gael gwybod mwy ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig