Arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu 34 o gymunedau Cymru i gymryd camau hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd
- Derbyniodd 34 o grwpiau cymunedol ledled Cymru gyfran o £502,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gymryd camau amgylcheddol drwy'r cynllun Hwb i’r Hinsawdd.
- Mae Play it Again Sport yn y Rhondda a Sefydliad Enbarr CIC yn Sir y Fflint yn ddau o'r prosiectau gwych sydd wedi’u hariannu gan y cynllun hwn sy'n ymdrechu i wneud eu cymunedau'n fwy gwyrdd.
- Buddsoddwyd £26 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ers 2016 i gefnogi achosion da amgylcheddol.
Mae 34 o grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun Hwb i’r Hinsawdd dros y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddwyd hyd at £15,000 yr un i'r grwpiau, a dynnwyd o rwydwaith eang ac amrywiol, i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Roedd y cynllun yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau amgylcheddol, sef lleihau ynni neu symud i ynni adnewyddadwy, lleihau defnydd, cynyddu bwyd lleol, a llai o deithio neu deithio mwy effeithiol.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yn y Gronfa, "Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i ddiogelu'r hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn falch o fod yn ariannwr sylweddol o brosiectau sy'n gweithredu ar newid hinsawdd. Ers 2016 yng Nghymru, rydyn ni wedi dyfarnu £26 miliwn drwy 386 o grantiau a oedd yn cynnwys gweithredu amgylcheddol*, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
"Credwn fod gweithredu cymunedol yn ffordd bwerus o ymgysylltu â chymunedau i chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol byd-eang, ac i ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Drwy gymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd, rydyn ni nid yn unig yn gwneud gwelliannau amgylcheddol sylweddol, ond hefyd yn helpu pobl a chymunedau i ffynnu, fel sy’n cael ei ddangos gan y gwaith gwych y mae'r grwpiau Hwb i’r Hinsawdd yn ei wneud."
I nodi Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow, datgelodd ymchwil newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol** fod bron i hanner oedolion Cymru (43%) yn cytuno y bydd COP26 yn eu hysgogi i gymryd mwy o gamau personol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Pan ofynnwyd pwy sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â newid hinsawdd, dywedodd wyth o bob deg o bobl yng Nghymru (80%) mai cymunedau lleol sy’n gyfrifol, tra bod dros hanner (57%) yn dweud eu bod naill ai'n cymryd rhan mewn gweithgareddau i fynd i’r afael â newid hinsawdd sy’n cael ei arwain gan y gymuned ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol, neu y byddan nhw’n ystyried gwneud hynny.
Rhai o'r prosiectau a dderbyniodd arian Hwb i’r Hinsawdd ac sydd eisoes yn gwneud eu cyfraniad i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn eu hardal, yw:
- - Play it Again Sport - menter gymdeithasol yng Nghwm Rhondda yn dileu rhwystrau ariannol i chwaraeon a lleihau eitemau sy'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi drwy werthu dillad ac offer chwaraeon am brisiau gostyngol. Cawson nhw £15,000 i brynu car trydan ac i ddarparu pwynt gwefru cerbydau trydan yn Rhondda Fach, gan gynyddu eu hymrwymiad i gynaliadwyedd ymhellach.
- Sefydliad Enbarr – cwmni budd cymunedol sy'n cefnogi pobl i ddod o hyd i waith yn Sir y Fflint. Nodwyd bod llifogydd yn fater allweddol yn eu hardal a gweithion nhw gydag Adfywio Cymru i weld sut y gallen nhw gasglu dŵr i roi systemau lliniaru llifogydd i ddiogelu cartrefi pobl a bywyd gwyllt lleol, ac i achub y gerddi yn Adeilad John Summers.
- - Y Dref Werdd - prosiect amgylcheddol cymunedol ym Mro Ffestiniog. Fe wnaethon nhw benodi swyddog i redeg siop werdd ddi-wastraff a di-blastig, ac i gasglu gwastraff bwyd o archfarchnadoedd mewn fan drydan i’w ailddosbarthu yn yr ardal. Roedd y swyddog hefyd yn rhan o'u rhaglen plannu coed a gweithgareddau presgripsiwn cymdeithasol, a datblygodd becyn cymorth i'w rannu â phob aelwyd yn yr ardal ar ffurf ffilmiau i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a'r hyn y gallai pawb ei wneud yn ddyddiol.
- - EcoDyfi - sefydliad adfywio ar gyfer Dyffryn Dyfi yn y canolbarth. Sefydlon nhw gynllun rhannu e-feiciau cymunedol, a chynllun i helpu i nodi ble mae cartrefi'n aneffeithlon gan ddefnyddio camera delweddu thermol. Cafodd Swyddog Hinsawdd Biosffer Dyfi ei gyflogi i weithio am ddeuddydd yr wythnos i sefydlu'r cynlluniau hyn, ac i ychwanegu ysgogiad i weithredu hinsawdd ym Machynlleth a gweithgareddau presennol EcoDyfi sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd.
- - Dr Mz - canolfan galw heibio ieuenctid sy'n cael ei rhedeg gan Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed. Paentiodd y bobl ifanc yn Dr.M'z furlun i godi ymwybyddiaeth o faterion newid hinsawdd ar ochr eu hadeilad ac maen nhw wedi bod yn dysgu reidio eu pedwar beic newydd yn ddiogel, er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar deithio llai cynaliadwy.
- - Eglwys Glenwood – newidiodd yr eglwys yng Nghaerdydd eu goleuadau o fylbiau halid metel i fylbiau LED a gosod paneli solar ar eu prif do. Helpodd hyn yr eglwys i leihau costau trydan, ond yn bwysicach, eu hôl troed carbon.
Dywedodd Natasha Burnell, Rheolwr Menter yn Play it Again Sport, "Rydyn ni mor ddiolchgar i gronfa Hwb i’r Hinsawdd am y cymorth i'n helpu i ddod yn fwy cynaliadwy, am ddarparu'r adnoddau yr oedden ni eu hangen, ac am ein hysbrydoli i gynyddu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ymhellach."
Mae Vicki Roskams o Sefydliad Enbarr CIC yn cytuno bod cefnogaeth y Loteri Genedlaethol wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn eu cymuned: "Heb arian y Loteri Genedlaethol fydden ni byth wedi gallu bod yn y sefyllfa rydyn ni ynddi nawr, mae hynny'n wych. Y cyfan ydyn ni yw hwylusydd i'r gymuned, ac rydyn ni’n defnyddio ein sgiliau, ein gwybodaeth a'n rhwydweithiau i wneud i hyn ddigwydd. Hawliodd y gymuned y prosiect hwn a'u syniadau nhw sy'n creu'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol."
Cefnogwyd pob grŵp gan Adfywio Cymru neu Gymunedau Cynaliadwy Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu amgylcheddol i leihau eu hôl troed carbon.
Dywedodd Delyth Higgings o Adfywio Cymru, "Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o'r cynllun hwn drwy gefnogi grwpiau i weithredu. Rydyn ni wedi gweld amrywiaeth o grwpiau'n cymryd rhan – dydy llawer ohonyn nhw ddim 'y rhai arferol' o ran meddwl am newid hinsawdd ac mae'r ystod o gamau maen nhw wedi'u cymryd a syniadau sydd wedi dod drwodd wedi bod yn anhygoel. Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer ohonyn nhw’n adeiladu ar hyn ac yn parhau i wneud mwy os gallan nhw."
Ychwanegodd Owen Callender o Gymunedau Cynaliadwy Cymru, "Mae gweithio'n agos gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac Adfywio Cymru wedi chwyldroi'r gefnogaeth rydyn ni’n gallu ei rhoi i grwpiau cymunedol ledled Cymru – gan droi breuddwydion a syniadau yn gamau ymarferol dros yr hinsawdd.
"Mewn sawl ffordd, Hwb i’r Hinsawdd fu'r gwynt o dan adenydd newid go iawn. Mae sefydliadau a fyddai wedi cael trafferth ariannu gwelliannau arbed carbon wedi gallu gweld eu huchelgeisiau'n dod yn fyw yn yr amser cyflymaf erioed, ac maen nhw eisoes yn gweld yr effaith. Maen nhw bellach yn ddylanwad gwirioneddol ar draws eu cymunedau, gan ysbrydoli eraill i weithredu."
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU.
Os ydych chi wastad wedi bod eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol, beth am edrych ar yr airan grant sydd ar gael gan y Loteri Genedlaethol? I ddysgu mwy am y grantiau sydd ar gael i gefnogi cymunedau i gymryd camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd, edrychwch yma: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/key-initiatives/climate-action-hub
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru