Cymunedau ledled y DU yn derbyn £3.4bn o arian parod y Loteri Genedlaethol mewn pum mlynedd
- Hanner ariannu cymunedol y Loteri Genedlaethol (51%) yn mynd i'r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yn Lloegr
- Dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £3.4 BILLION ar draws cymunedau'r DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf
- Yn ystod y pandemig, yn 2020 yn unig, dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bron i £1 biliwn i elusennau a mudiadau cymunedol ledled y DU
- Ar gyfartaledd, bob blwyddyn, roedd prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cefnogi tua 5.2 miliwn o bobl ledled y wlad - gyda gwell iechyd meddwl a mwy o gyswllt cymdeithasol ymhlith y buddion a adroddwyd amlaf
- Mae arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn helpu i fynd i'r afael â'r materion mwyaf brys: gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, cefnogi pobl ifanc, cyflogaeth ac iechyd meddwl.
Dros y tair blynedd diwethaf mae cymaint â hanner (51%, cyfanswm o £568 miliwn) o ariannu'r Loteri Genedlaethol ar gyfer cymunedau wedi mynd i’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yn Lloegr - yn ôl ffigurau newydd a ryddhawyd heddiw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.
Rhwng 2016-17 a 2020-21 dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £3.4 biliwn i gymunedau ledled y DU. Dyfarnwyd £1 biliwn yn 2020 yn unig, wrth i elusennau a grwpiau llawr gwlad ruthro i ymateb i argyfwng COVID-19 a chyfnodau cloi dilynol.*
Daw'r ffigurau o adroddiad sydd newydd ei ryddhau gan y dosbarthwr, Rhoi Cymunedau yn Gyntaf, sy'n nodi'r effaith y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi'i chael ar gymunedau ledled y DU dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae'n dangos bod prosiectau cymunedol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol rhwng 2016-17 a 2020-21 wedi cefnogi ymhell dros 5 miliwn o bobl ledled y wlad bob blwyddyn - gyda 97% o ddeiliaid grant yn nodi gwelliannau yn iechyd meddwl a hunan-barch eu cyfranogwyr yn ogystal â mwy o gyswllt cymdeithasol.
Ar ben hyn, bob mis mae bron i 2 filiwn o bobl yn mwynhau buddion lleoliadau a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol megis parciau a neuaddau pentref.
Cyfrannodd gwasanaethau a ddarperir gan yr elusennau hyn hefyd at gyfoeth o fuddion ledled y gymuned: nododd dros hanner (60%) eu bod wedi darparu mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan yn eu cymunedau lleol, gan gynnig mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Dywedodd tua 42% o brosiectau fod gan bobl fwy o falchder lleol a gwell ymdeimlad o berthyn o ganlyniad i'w gwaith wedi'i ariannu.
Ledled y DU, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn* bob wythnos at achosion da. Mae Rhoi Cymunedau yn Gyntaf yn datgelu bod yr arian hwn yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf brys - gan gynnwys mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd; a chefnogi pobl ifanc, cyflogaeth ac iechyd meddwl.
Ers 2016, mae'r dosbarthwr wedi dyfarnu bron i £400 miliwn trwy fwy na 6,000 o grantiau, gan alluogi gweithredu amgylcheddol ar faterion fel bwyd, gwastraff a defnydd, yn ogystal ag ynni, trafnidiaeth, a'r amgylchedd naturiol. Yn 2019, lansiodd ei raglen fwyaf uchelgeisiol hyd yma sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd: ymrwymiad gwerth £100 miliwn a gyflwynwyd dros 10 mlynedd, mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi cymunedau lleol i gymryd camau ystyrlon yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Yn un o'r arianwyr anstatudol mwyaf o gyfleoedd i bobl ifanc dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi gwerth mwy na £1.2bn o brosiectau ieuenctid lleol. Bob blwyddyn mae'r gefnogaeth hon wedi cael effaith gadarnhaol iawn: Tynnodd 80% o'r prosiectau sy'n gweithio gyda phobl ifanc sylw at welliannau mewn hyder a hunan-barch, tra i bron i ddwy ran o dair (65%) nodi fod pobl ifanc yn adeiladu cyfeillgarwch a pherthnasoedd cryfach.
Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae mentrau a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol wedi helpu mwy na 181,000 o bobl sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Mae'r mwyaf o'r rhain, Building Better Opportunities, wedi cefnogi tua 127,000 o bobl ers 2016 - mae bron i hanner ohonynt yn nodi eu bod yn anabl (49%) a bron i chwarter yn dod o Gymunedau Duon a Lleiafrifol (23%). †
Rhwng 2016-17 dyfarnwyd tua £1.3 biliwn o ariannu'r Loteri Genedlaethol i bron i 17,000 o raglenni a phrosiectau a oedd yn canolbwyntio ar helpu pobl sy'n profi rhai o heriau mwyaf cymhleth ac anodd bywyd, megis digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau. Nododd mwyafrif llethol (91%) y mudiadau sy'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu'r anfanteision lluosog hyn eu bod yn gweld iechyd meddwl gwell ymhlith y cyfranogwyr; dywedodd dwy ran o dair (68%) eu bod yn gweld gwelliannau mewn iechyd corfforol hefyd.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae ariannu'r Loteri Genedlaethol yn newid bywydau. Mae'r adroddiad hwn - y cyntaf i edrych yn gynhwysfawr ar effaith ein hariannu - yn dangos yn glir y gwahaniaeth y mae'n ei wneud mewn cymunedau ledled y DU.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi cefnogi mwy na 72,000 o brosiectau cymunedol trwy dros £3.4 biliwn o grantiau - yn aml yn mynd at y bobl a'r lleoedd lle mae ei angen fwyaf.
“Y flwyddyn nesaf byddwn yn adnewyddu ein strategaeth - mae'r adroddiad hwn yn gosod sylfeini a fydd yn sicrhau y byddwn yn parhau i fod yn ymatebol i gymunedau, gan eu helpu i adfer a ffynnu ar ôl y pandemig. Trwy barhau i dargedu ein hariannu i'r man lle mae ei angen fwyaf a thrwy ddefnyddio ein hadnoddau yn ofalus, byddwn yn sicrhau y bydd arian y Loteri Genedlaethol yn parhau i gael yr effaith fwyaf bosibl ymhell i'r dyfodol.”
Mae Rhoi Cymunedau yn Gyntaf: Ein hadroddiad effaith - 2016-17 i 2020-21 ar gael yma. Daw’r adroddiad yn dilyn penodiad diweddar David Knott yn Brif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chyhoeddi Ymrwymiad y Gronfa i Gymunedau, gan nodi’r hyn y gall elusennau a grwpiau llawr gwlad ei ddisgwyl gan ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.CronfaGymunedolYLG.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig