Arolwg newydd yn dweud bod dros dri chwarter pobl yng Nghymru yn teimlo'n rhan o'u cymuned leol.
Wrth groesawu blwyddyn newydd, mae ymchwil newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dangos bod dros dri chwarter pobl Cymru yn teimlo'n rhan o'u cymuned leol, a bod diogelwch ar y strydoedd, pobl ifanc ac iechyd meddwl ymhlith eu blaenoriaethau ar gyfer eu cymuned yn 2022:
Mae dros dri chwarter (78%) y bobl a holwyd yng Nghymru yn dweud eu bod yn teimlo'n rhan o'u cymuned, gyda 74% yn dweud bod hynny’n bwysig iddyn nhw.
Pobl ifanc sy’n arwain y ffordd – mae pobl ifanc 18 i 34 mlwydd oed yn fwy tebygol o deimlo'n gysylltiedig â'u cymuned leol, yn fwy tebygol o weld hyn yn bwysig ac yn fwy tebygol o wirfoddoli neu helpu yn 2022.
Blaenoriaethau cymunedol yng Nghymru: mae pobl eisiau cael diogelwch ar y strydoedd (64%), eu hardal leol i edrych yn dda (61%) ac i bobl ifanc gael lleoedd i fynd a phethau i'w gwneud (58%).
O ran lles eu cymuned yn y flwyddyn i ddod, mae lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd (50%), pobl yn gofalu ac yn edrych allan am ei gilydd (49%) a chefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl (41%) yn flaenoriaethau.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymrwymo i gefnogi cymunedau'r DU a dod â phobl at ei gilydd yn 2022.
Mae Mynegai Ymchwil Cymunedol diweddaraf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y bobl sy'n teimlo'n rhan o'u cymuned leol, gyda phobl ifanc yn arwain y ffordd. Er gwaethaf blwyddyn heriol, mae dros dri chwarter (78%) bellach yn teimlo ymdeimlad o gysylltiad â'u cymuned leol – i fyny o 71% y llynedd. Mae teimlo'n rhan o'r gymuned hefyd yn tyfu mewn gwerth, gyda 74% yn dweud bod hyn yn bwysig iddyn nhw o'i gymharu â 66% y llynedd.
Nod yr arolwg blynyddol o dros 1,000 o oedolion yng Nghymru yw darganfod sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau, sydd yn ei dro yn helpu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ymateb.
Mae'n datgelu bod pobl am fod yn fwy gweithgar yn eu cymuned eleni, gydag ychydig o dan hanner oedolion Cymru (45%) yn dweud eu bod yn bwriadu helpu neu wirfoddoli yn eu cymuned leol yn 2022.
Fodd bynnag, gwelir yr ymchwydd gwirioneddol mewn bod yn rhan o’r gymuned ymysg pobl ifanc 18 i 34 mlwydd oed, sy’n fwy tebygol nag unrhyw grŵp oedran arall o deimlo'n rhan o'u cymuned leol (79%), yn fwy tebygol o weld hyn yn bwysig (76%), ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bwriadu gwirfoddoli (73%).
Gallai hyn fod yn ganlyniad cadarnhaol i flwyddyn anodd, a welodd bobl iau yn aros yn agosach at eu cymuned oherwydd cyfyngiadau COVID, gan wneud iddynt deimlo'n fwy cysylltiedig.
Mae'r ymchwil hefyd yn datgelu bod gan bobl ymdeimlad da o'r hyn sydd ei angen ar eu cymuned er mwyn ffynnu a llwyddo yn 2022. O ran yr amgylchedd ffisegol a’r asedau sydd eu hangen ar eu cymuned, mae chwech o bob deg yn dweud bod diogelwch ar y strydoedd (64%) a chadw'r ardal yn edrych yn dda (61%) yn bwysig, ac mae sicrhau bod gan bobl ifanc leoedd i fynd a phethau i'w gwneud (58%) a mynediad i fannau gwyrdd naturiol (52%) hefyd yn bwysig.
Wrth feddwl am les eu cymuned, mae pobl Cymru yn nodi lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd (50%), pobl yn gofalu ac yn edrych allan am ei gilydd (49%), gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl (41%) ac atal trais ymysg pobl ifanc (41%) fel blaenoriaethau lleol yn 2022.
Mae'r ymchwil newydd hwn yn adeiladu ar Adroddiad Effaith diweddar y Gronfa, oedd yn dangos yr ystod eang o ganlyniadau cadarnhaol mae arian y Loteri Genedlaethol yn ei wneud i bobl a chymunedau ledled y DU. Mae'r rhain yn cynnwys gwella miloedd o leoedd a mannau; adeiladu ysbryd cymunedol, balchder ac ymdeimlad o berthyn lleol, a defnyddio 290,000 o wirfoddolwyr bob blwyddyn.
Yn bwysig, mae bron pump o bob deg yng Nghymru (48%) yn dweud y bydd gweithgareddau sy'n dod â phobl at ei gilydd yn bwysig i'w cymuned yn y flwyddyn i ddod. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mae hwn yn faes pwysig a chanolog i grantiau, a bydd cyfoeth o gyfleoedd i bobl ledled Cymru ddod at ei gilydd yn 2022.
Meddai John Rose, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“Yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol sut mae cymunedau Cymru wedi gweithio fel un i gefnogi’i gilydd dros y ddwy flynedd heriol ddiwethaf. Mae canfyddiadau’r arolwg yn dangos pa mor gryf yw’r ymdeimlad cymunedol, ac yn bwysicach byth, ei fod ar gynnydd trwy ein pobl ifanc.
Fel ariannwr mwyaf gweithgaredd cymunedol yn y DU, mae llawer o’r grantiau rydyn ni’n eu dyfarnu ar gyfer cymunedau sydd eisiau gwella’r lleoedd maen nhw’n byw, i ofalu am les meddyliol a chorfforol ei gilydd ac i wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc gyfleoedd cadarnhaol, sy’n cael ei adlewyrchu yn yr ymatebion i’n harolwg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth mae cymunedau ledled Cymru eisiau ei weld yn 2022 a byddwn yn eu cefnogi gyda grantiau er mwyn helpu pobl i ffynnu a llwyddo.”
Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn defnyddio'r canfyddiadau diweddaraf o'r Mynegai Ymchwil Cymunedol, ynghyd â ffynonellau data a mewnwelediad ehangach gan gymunedau a grwpiau a ariennir, i lywio'r ffordd orau o barhau i gefnogi cymunedau ledled Cymru a’r DU.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Yn ystod y pandemig, yn 2020 yn unig, dosbarthodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bron i £1 biliwn i elusennau a sefydliadau cymunedol ledled y DU.
I gael gwybod mwy ewch i http://cronfagymunedolylg.org....
-diwedd-
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru