Llawenydd i'r elusen golwg UCAN Productions ar ôl derbyn £165,000 o arian y Loteri Genedlaethol
Mae UCAN Productions yn dathlu ar ôl llwyddo i dderbyn dros £165,000 o arian y Loteri Genedlaethol i sefydlu rhwydwaith cymorth cymheiriaid i gyfoedion ar gyfer pobl â nam ar eu golwg a fydd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a gyflwynir drwy weithdai perfformio a chelfyddydau creadigol.
Bydd o leiaf 50 o oedolion a phobl ifanc yn elwa o'r gyfres o weithdai dan arweiniad cymheiriaid fydd yn cael eu cyflwyno gan staff a gwirfoddolwyr â nam ar eu golwg, a bydd rhwydwaith cymorth cymheiriaid helaeth yn cael ei ddatblygu i gynyddu hyder corfforol a lleisiol buddiolwyr. Bydd gweithdai a gweithgareddau penodol yn cynnwys themâu megis creu a rhedeg podlediadau, cyfarfodydd rhwydwaith drama, clwb llyfrau a ffilm, a hyrwyddo hunan-eiriolaeth.
Mae Hannah Matthews wedi bod yn aelod o UCAN ers pan oedd yn 10 mlwydd oed a bydd yn gweithio ar y prosiect newydd fel swyddog cefnogi cymheiriaid i gyfoedion. Esboniodd Hannah, "Mae UCAN Productions wedi fy nghefnogi ers i mi fod yn 10 mlwydd oed drwy roi pob math o gyfleoedd i mi a nifer cynyddol o ffrindiau sydd, fel fi, i gyd â nam ar y golwg.
Ar ôl bod yn rhan o ddatblygu prosiect Rhwydwaith UCAN, sydd ar gyfer pobl ifanc ddall a rhannol ddall dros 18 mlwydd oed yng Nghymru, ni allaf aros i helpu eraill i roi cynnig ar bethau newydd, dysgu sgiliau newydd ac yn bwysicaf oll gwneud ffrindiau newydd."
Bydd y grant hwn yn caniatáu i'r sefydliad adeiladu ar brosiect blaenorol a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd yn ystod y cyfnod clo i gefnogi pobl â nam ar eu golwg i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, lleihau unigedd, a chyflwyno gweithdai meithrin hyder.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, "Mae gwaith UCAN Production yn enghraifft glir o'n cred bod cymunedau'n ffynnu pan fydd pobl yn arwain. Mae dros £30 miliwn yr wythnos yn cael ei godi ar gyfer achosion da ledled y DU diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Rydym yn falch iawn o ariannu gwaith anhygoel UCAN a gwyddom o brosiectau blaenorol eu bod yn gwneud gwahaniaeth hanfodol i bobl ifanc â nam ar eu golwg"
Mae UCAN Productions yn un o 60 o sefydliadau ledled Cymru i dderbyn cyfanswm o £3.7 miliwn yn ystod y mis diwethaf, lawrlwytho'r rhestr lawn.
I ddod o hyd i wybodaeth am wneud cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grantiau i helpu eich cymuned i ffynnu, ewch i tnlcommunityfund.org.uk neu ffoniwch 0300 123 0735.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru