£6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn mynd i gefnogi cymunedau'r DU i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy leihau gwastraff
Mae dros £6 miliwn heddiw [25 Ionawr] wedi'i ddyfarnu i gymunedau ledled y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae'r cyllid, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, wedi mynd i 21 o brosiectau a arweinir gan y gymuned sy'n canolbwyntio ar wastraff a defnydd.
Daw'r grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyllidwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU. Maent yn cynnwys £150,000 i Circular Fashion Economy, yn Norwich, i ehangu ei chysyniad siop cyfnewid dillad llwyddiannus ar draws Norfolk, a £150,000 i Groundwork South and North Tyneside i greu diwylliant 'trwsio ac ailddefnyddio' o fewn y gymuned leol. Mae Communities’ Reduce, Reuse and Recycle yng Nghaeredin hefyd yn elwa o £150,000 o arian y Loteri Genedlaethol – gan ei alluogi i gefnogi pobl leol i leihau eu harferion gwastraff a defnydd wrth ddargyfeirio eitemau o safleoedd tirlenwi.
Daw'r arian cymunedol newydd hwn wrth i ymchwil diweddar gan y Loteri Genedlaethol* ganfod bod pedwar o bob pump o oedolion yn y DU (79%) yn credu mai cymunedau lleol sy'n gyfrifol am weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Canfu'r ymchwil hefyd fod hanner (54%) y bobl yn poeni am effaith yr hinsawdd ar eu cymuned leol.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rydym yn gwybod bod gan gymunedau rôl fawr i'w chwarae wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Dyna pam, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ein bod yn falch o fod yn cefnogi camau gweithredu a arweinir gan y gymuned i fynd i'r afael â gwastraff a defnydd. Bydd y prosiectau hyn yn dod â phobl at ei gilydd i greu cymdeithas wastraff îs, a fydd nid yn unig yn ein helpu i gyrraedd sero net, ond hefyd yn cefnogi cymunedau i lwyddo a ffynnu."
Circular Fashion Economy, Norwich
Un o'r prosiectau i dderbyn arian y Loteri Genedlaethol yw Circular Fashion Economy, yn Norwich, a fydd yn defnyddio £150,000 i adeiladu ar ei siop lwyddianus cyfnewid dillad. Bydd y prosiect, sy'n cael ei redeg gan New-U Enterprises Ltd, yn cynnal digwyddiadau cyfnewid dillad ar draws Norfolk, gan helpu i leihau gwastraff a gwneud cyfnewid dillad ac ategolion yn fwy hygyrch a chynhwysol. Mae'n gobeithio cynnwys dros 15,000 o bobl leol a rhoi dros 80,000 o eitemau o ddillad yn ôl i'w dosbarthu, gan osgoi tirlenwi. Bydd y prosiect hefyd yn cynnal 'Cynhadledd Gynaliadwy' leol i arddangos sut y gall trigolion, busnesau ac elusennau Norfolk leihau gwastraff.
Dywedodd Sue Buffon, Prif Swyddog Gweithredol Circular Fashion Economy: "Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol, bydd y Circular Fashion Economy yn galluogi mwy o bobl i leihau eu gwastraff tecstilau. Drwy annog y cyhoedd yn ehangach i roi dillad wedi'u defnyddio yn ôl i gylchrediad am rywbeth yn gyfnewid, rydym yn cynnig profiad siopa amgen sy'n rhoi cyfle i bawb yn y gymuned gyfrannu at leihau effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd."
Groundwork South and North Tyneside, Tyneside
Bydd bron i £150,000 o arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi Groundwork South and North Tyneside i gyflwyno gwasanaeth gwastraff swmpus newydd, gan gynnwys siop fanwerthu ail law a gweithdai sgiliau adfer a grëwyd mewn partneriaeth â Chyngor De Tyneside. Mae'r grŵp yn gobeithio creu 'economi gylchol' – gan ymestyn cylch bywyd eitemau a chyfarpar fel oergelloedd drwy ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu cynhyrchion cyhyd â phosibl.
Dywedodd Alene Lee, Rheolwr Busnes a Chyllid yn Groundwork South and North Tyneside: "Fel cymdeithas, rydym yn gyflym i chwilio am eitemau newydd, yn enwedig o ran angen dodrefn newydd ac eitemau cartref. Fodd bynnag, gyda'r arian newydd hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn ddatblygu ein safle dodrefn cartref ail law ac annog pobl i ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau."
Communities’ Reduce, Reuse and Recycle, Caeredin
Wedi'i leoli yng Nghaeredin, mae Communities’ Reduce, Reuse and Recycle – partneriaeth rhwng Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Caeredin a Lothians Cyfyngedig (ELREC) a Rhwydweithio Gwasanaethau Allweddol (NKS) – heddiw yn derbyn £150,000 i weithio gyda chymunedau lleiafrifoedd ethnig lleol, gan eu helpu i newid eu harferion gwastraff a defnydd.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Jean-Matthieu Gaunand (ELREC) & Naina Minhas (NKS): “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Gobeithiwn annog a chefnogi cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaeredin i leihau gwastraff, cynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio, a symud i ddefnydd mwy cynaliadwy. Bydd ein dau sefydliad yn cydweithio â chymunedau lleiafrifoedd ethnig lleol ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sesiynau trwsio ac addasu dillad, dosbarthiadau gwnïo, digwyddiadau siop gyfnewid, sioeau ffasiwn, dosbarthu parseli bwyd wedi'u hachub i deuluoedd sy'n agored i niwed, sesiynau coginio bwyd dros ben, gweithdai uwchgylchu a chompostio, ymweliadau addysgol, a mwy!”
Mae'r 21 dyfarniad heddiw wedi'u hariannu drwy Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CAF) a ariennir gan y Loteri Genedlaethol - cronfa £100 miliwn sy'n anelu at leihau ôl troed carbon cymunedau a chefnogi symudiadau a arweinir gan y gymuned sy'n dangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Dyma'r ail gylch ariannu drwy CAF, a ddyfarnodd 23 o grantiau yn 2020.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer syniadau sy'n dod i'r amlwg i ymgysylltu â gwahanol gymunedau ac i brofi dulliau newydd. Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i ddysgu o'r cyllid hwn i helpu i lunio'r hyn sy'n digwydd nesaf gyda'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd a bydd yn archwilio ac yn myfyrio ar y ffyrdd y mae pobl a chymunedau'n gweithredu yn yr hinsawdd drwy gydol y rhaglen.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 2016, rydym wedi dyfarnu £397 miliwn drwy fwy na 6,000 o grantiau sy'n cynnwys gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a'r amgylchedd naturiol. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ledled y DU ar gyfer achosion da.
I gael gwybod mwy ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
Rhestr lawn o 21 o brosiectau'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd:
Sefydliad arweiniol | Enw’r prosiect | Lleoliad | Y swm a ariennir |
Action West London | Acton Market Partnership Waste and Consumption Reduction Project | Acton a Ealing, Llundain | £157,484 |
North West Play Resource Centre | Climate:Culture:Circularity | Derry/ Londonderry, Gogledd Iwerddon | £149,362 |
Groundwork South and North Tyneside Limited | Bulky Waste Sustainability Hub - Repair and Reuse Solutions | De Tyneside | £149,964 |
New-U Enterprises Ltd | Circular Fashion Economy | Norfolk | £150,000 |
LESS (Lancaster District) CIC and Lancaster District Community & Voluntary Solutions | Closing loops: stimulating a regenerative food economy in North Lancashire | Lancaster District | £1,496,371 |
Edinburgh and Lothians Regional Equality Council Limited and Networking Key Services Limited | Communities’ Reduce, Reuse and Recycle | Caeredin a Lothians | £150,000 |
Incredible Surplus CIC | Compost Culture | Birmingham | £165,000 |
The Restart Project | Fixing Factories for youth learning, skills and waste prevention | Camden a Brent, Llundain | £190,221 |
Brighton & Hove Food Partnership | Food Use Places | Brighton | £125,930 |
Canal & River Trust | Homegrown Homespun | Lancashire | £142,700 |
Civic Ltd | Library of Things in Cambridgeshire | Peterborough | £148,422 |
Incredible Edible Lambeth | Make Compost Lambeth | Lambeth, Llundain | £150,000 |
Daisy Chain Project Teesside | Re-dress Climate Change | Teesside | £156,476 |
Resource Denbighshire CIC | Resourceful North East Wales: Borrow, Share, Repair: Library of Things | Gogledd Ddwyrain Cymru | £170,856 |
The Somers Town Community Association | Somers Town Climate Action Market | Camden, Llundain | £149,982 |
Cultivate Cornwall CIC | TeX Innovation | Cernyw | £204,350 |
The Real Junk Food Project Brighton C.I.C | The Fitzherbert Community Hub surplus food project | Brighton | £140,000 |
Keep Scotland Beautiful | Highland Community Waste Partnership | Ucheldiroedd yr Alban | £1,498,568 |
Global Action Plan | The Schools Good Life Challenge | Hammersmith a Fulham, Llundain | £222,426 |
Fuse Youth Cafe Glasgow | The Shettleston 100 | Glasgow | £136,819 |
Cherwell Collective CIC | Waste Innovation Station Headquarters | Rhydychen | £150,000 |
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig