£170,000 o arian y Loteri Genedlaethol yn mynd i gefnogi cymunedau yng ngogledd-ddwyrain Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar leihau gwastraff
Mae Resource Denbighshire CIC wedi derbyn y newyddion da y bydd £170,856 o arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi pobl a chymunedau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Y nod yw darparu ffordd ymarferol i gymunedau gymryd camau lleol ar leihau'r angen unigol am ddefnydd, lleihau gwastraff a newid arferion drwy adeiladu diwylliant o rannu ac atgyweirio – gan feithrin gweithredu hinsawdd rhyng-gysylltiedig yn y gymuned. Bydd y prosiect yn cael ei werthuso i ddeall effaith y gwasanaeth symudol ar fuddion cymunedol a lleihau gwastraff.
Bydd yr arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, yn canolbwyntio ar leihau gwastraff drwy ddatblygu dealltwriaeth o ddulliau economi gylchol. Mae'r prosiect, Resourceful North-East Wales: Borrow, Share, Repair: Library of Things (LoT), wedi'i ddatblygu gan awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn Llangollen, Yr Wyddgrug a Rhuthun a bydd yn cysylltu sgiliau ar draws cymunedau yn Sir Ddinbych i ddarparu llyfrgell symudol sy’n cael ei rannu.
Bydd y prosiect 12 mis yn archwilio effaith cyflwyno prosiect gweithredu hinsawdd drwy'r Bws Benthyg, a fydd yn cario eitemau trydanol, offer llaw, ac eitemau gardd a chartref. Bydd y gymuned leol yn gallu rhoi eitemau nad oes eu hangen arnyn nhw bellach a bydd cwsmeriaid yn benthyg eitemau am ffi fach.
Bydd Crest Cooperative yn cefnogi'r prosiect i brynu a gwasanaethu offer ac eitemau cartref ail-law yn barod i'w benthyg gan y Bws Benthyg. Bydd beic cargo trydan hefyd yn teithio ar fwrdd y Bws, yn barod i gefnogi benthycwyr i gludo eitemau yn ôl i'w cartrefi. Bydd Drosi Bikes, sefydliad cymunedol yn Llangollen, yn darparu'r beic a'r gwasanaeth a byddant yn hyfforddi gwirfoddolwyr i'w ddefnyddio. Bydd y llyfrgell deithiol hefyd yn cefnogi digwyddiadau caffi trwsio lleol drwy ddarparu offer i gymunedau a darparu cyfleoedd hyfforddi i aelodau'r gymuned a gwirfoddolwyr mewn gweithgareddau trwsio.
Dywedodd Janine Cusworth, Cyfarwyddwr Rheoli yn Resource Denbighshire CIC: "Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn y cyllid hanfodol hwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y grant yn ein galluogi ni a'n partneriaid i gymryd camau cadarnhaol dros yr hinsawdd drwy wasanaeth symudol unigryw a diddorol. Bydd y prosiect yn cysylltu cymunedau gwledig ar draws gogledd-ddwyrain Cymru drwy weithredoedd benthyca, rhannu ac atgyweirio - rhannu adnoddau a lleihau gwastraff."
Dywedodd Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rydyn ni’n gwybod bod gan gymunedau rôl fawr i'w chwarae wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Dyna pam, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ein bod yn falch o fod yn cefnogi camau gweithredu sy’n cael eu harwain gan y gymuned i fynd i'r afael â gwastraff a defnydd. Bydd y prosiect hwn yn dod â phobl at ei gilydd i greu cymdeithas wastraff is, a fydd nid yn unig yn ein helpu i gyrraedd sero net, ond hefyd yn cefnogi cymunedau i lwyddo a ffynnu."
Daw'r ariannu cymunedol newydd hwn wrth i ymchwil diweddar gan y Loteri Genedlaethol* ganfod bod pedwar o bob pump o oedolion yng ngogledd Cymru (78%) yn credu mai cymunedau lleol sy'n gyfrifol am weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod hanner (50%) yn yr un ardal yn poeni am effaith yr hinsawdd ar eu cymuned leol.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae 21 o brosiectau sy'n canolbwyntio ar wastraff a defnydd ac yn cael eu harwain gan y gymuned yn derbyn arian gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd ledled y DU. Cronfa £100 miliwn yw hon sy'n anelu at leihau ôl troed carbon cymunedau a chefnogi symudiadau a arweinir gan y gymuned, sy'n dangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain y ffordd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ers 2016, rydym wedi dyfarnu £397 miliwn drwy fwy na 6,000 o grantiau sy'n cynnwys gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a'r amgylchedd naturiol. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ledled y DU ar gyfer achosion da.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru