Partneriaethau yn dathlu dros £8.3 miliwn o ariannu y Loteri Genedlaethol i weithio gyda’i gilydd i daclo digartrefedd
Mae tri partneriaeth newydd yng Nghymru yn dathlu ar ôl derbyn dros £8.3 miliwn o arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu taclo digartrefedd. Bydd cynllun newydd i wobrwyo hyd at £3 miliwn o ariannu i fynd i’r afael â digartrefedd gwledig yn cael ei gyhoeddi’n fuan.
Bydd partneriaethau o fudiadau o’r sectorau cyhoeddus, preifat, a’r trydydd sector yn defnyddio grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu taclo digartrefedd. Mae cynlluniau yn cynnwys ymyrraeth cynnar ac atal digartrefedd, gwasanaethau arbenigol yn wybodus am drawma, a chefnogaeth i bobl sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.
Taclo Digartrefedd Ieuenctid yng Nghaerdydd
Bydd elusen digartrefedd Llamau yn arwain partneriaeth, ynghyd â mudiadau eraill gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a mudiadau tai trydydd sector lleol eraill i gyflwyno’r prosiect “My Way Home” gyda grant o £3,383,157.
Bydd y gwaith yn cefnogi pobl ifanc sy’n ddigartref, neu wrth risg o fod yn ddigartref. Mae’r bartneriaeth yn bwriadu sicrhau bod digartrefedd ieuenctid yn medru cael ei daclo yn gynt a gobeithio ei osgoi yn llwyr. Byddant yn darparu cefnogaeth i helpu darganfod a chadw llety.
Esboniodd Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau:
“Hoffem ni gyd ddweud diolch enfawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am godi’r ariannu hael yma i gyflwyno’r prosiect cydweithredol ‘My Way Homes’.
“Ni allwn ddod â digartrefedd i ben os na ddown â digartrefedd ieuenctid i ben, gan fod bron 50% o oedolion yn profi digartrefedd yn gyntaf fel pobl ifanc. Am ormod amser, mae pobl ifanc wedi cael eu gwahaniaethu o ganlyniad i’w hymateb naturiol i’r trawma maen nhw wedi profi. Mae mynediad anhafal i wasanaethau, ac amgylcheddau lle dydy pobl ifanc ddim yn teimlo’n ddiogel a wedi’u meithrin yn golygu eu bod yn ymddieithrio a gall digartrefedd ailadroddus ddigwydd.
“Bydd ‘My Way Home’ yn adnabod pobl ifanc wrth risg o ddigartrefedd er mwyn atal hyn rhag ddigwydd. Lle na allwn osgoi digartrefedd, rydym yn bwriadu gwneud hyn yn brin, cryno, ac anghylchol, darparu ystod ehangach o wasanaethau gwybodus am drawma ac wedi’i seilio ar bobl, fel gall pobl adael digartrefedd tu ôl am byth. Mae Llamau yn gyffroes iawn a’n falch i arwain ar y prosiect arloesol yma, gan weithio’n agos â’n partneriaid gwych i gyflwyno gwir newid i bobl ifanc ledled Caerdydd.”
Mae gan Llamau brofiad eang o gefnogi pobl sy’n profi digartrefedd ac esboniodd un buddiolwr; “Dydyn nhw [Llamau] ddim ond yn cefnogi chi oherwydd eu swydd nhw, ond oherwydd eu bod yn becso. Maen nhw wedi bod trwy broblemau eu hun mewn bywyd a felly’n gallu uniaethu â phobl ifanc. Mae’n ei wneud yn haws i ofyn am gymorth.”
Cyfleoedd hyfforddiant i bobl ledled Gwent
Bydd y bartneriaeth yn cynnwys 23 mudiad gwahanol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth St Giles, Cymorth i Fenywod Cyfannol a phum awdurdod lleol. Bydd y bartneriaeth yn cael ei harwain gan elusen ddigartrefedd a chysgu allan y Wallich ac yn datblygu menter gymdeithasol wedi’i chynllunio gan bobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd ac a fydd yn creu a darparu hyfforddiant a chyfleoedd cyflogadwyedd i bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Maen nhw’n bwriadu darparu gwasanaeth arbenigol i ystod eang o bobl ar draws Gwent sydd ag anghenion cymhleth ac sydd efallai wedi dioddef o drawma.
Bydd y prosiect yn helpu i atal digartrefedd trwy gynyddu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad personol, a thrwy wella cefnogaeth i bobl sydd ei angen fwyaf. Bydd y bartneriaeth yn gweithio’n uniongyrchol â pherchnogion tai preifat i gryfhau’r sefydlogrwydd a safon perthnasau tenantiaeth trwy gynnig cyngor a chefnogaeth.
Dywedodd Gareth Jones, Arweinydd Gweithredu Strategol De-ddwyrain Cymru yn y Wallich: “Mae’r pandemig wedi bod yn her anferth i bobl sy’n profi digartrefedd, ond rydyn ni wedi ymateb i’r galw er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, rydyn ni nawr yn disgwyl i nifer fwy o bobl fod mewn perygl o ddigartrefedd. Rydyn ni yn y Wallich wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau ac awdurdodau lleol sy’n meddwl yr un fath â ni, er mwyn ymdrin â’r heriau ôl-bandemig newydd sydd o’n blaenau.
“Mae’r prosiect hwn yn anelu at atal digartrefedd drwy gynorthwyo pobl i gael gwaith a gwella mynediad at gyngor a chymorth. Drwy atal digartrefedd a chreu cymunedau gwydn, mae gobaith am well dyfodol.”
Ychwanegodd Angela Lee, Cydlynydd Datblydiad Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gwent at Gyngor Bwrdeistrefol Blaenau Gwent: “Drwy adeiladu ar y partneriaethau cryf ar draws asiantaethau yng Ngwent, mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle ffantastig a chwmpas inni i ddatblygu modelau a ffyrdd newydd o gydweithio, er mwyn sicrhau pan mae digartrefedd yn digwydd, bydd yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto.”
Helpu rheiny sydd mwyaf mewn angen yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
Bydd y Wallich hefyd yn arwain ar bartneriaeth £2 filiwn o 24 mudiad sector cyhoeddus, trydydd sector, sefydliadau addysgiadol ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gefnogi pob sydd gyda’r anghenion mwyaf cymhleth. Bydd y prosiect yn gwella’r cyswllt rhwng gwasanaethau cefnogaeth ac yn newid systemau i alluogi pobl i dderbyn cefnogaeth pan a sut fyddan nhw ei angen. Mae’r prosiect yn bwriadu lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ag anghenion cymhleth yn profi argyfwng a digartrefedd trwy ymyrraeth cynnar. Dylai hyn sicrhau bod y gefnogaeth sydd ar gael wedi’i gysylltu ac yn ystyried sefyllfaoedd unigolion a thrawma blaenorol. Bydd y prosiect hefyd yn darparu cyngor ychwanegol, hyfforddiant a chefnogaeth i berchnogion tai sector preifat i'w helpu i gynnal tenantiaethau sefydlog.
Dywedodd Debbie Mottely, Rheolwr Ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot y Wallich: “Rydyn ni’n gwybod y gall ffactorau gwahanol arwain at ddigartrefedd, ond mae iechyd meddwl gwael a digartrefedd yn aml yn gysylltiedig. Yn y Wallich, rydyn ni’n gweithio gyda mwy na 9,000 o bobl bob blwyddyn. Mae llawer ohonyn nhw wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gyda rhywfaint o drawma, trawma cymhleth a thrawma cyfansawdd.
“Bob dydd, rydyn ni’n gweld bod trawma sydd heb gael ei ddatrys yn effeithio ar allu unigolyn i reoli perthnasoedd a chynnal cyflogaeth neu denantiaeth yn sefydlog. Heb ddatrysiad, gall trawma arwain at ddigartrefedd. Mae’r prosiect hwn yn gyfle go iawn i ymdrin â hynny.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru at Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“Mae’r partneriaethau yma’n dangos y rôl hollbwysig mae gweithio ar draws sectorau yn cyfrannu er mwyn taclo digartrefedd. Gall digartrefedd effeithio ar unrhyw un, a gall ddigwydd am amryw o resymau, a rydyn ni’n falch i fedru cefnogi’r nod ar y cyd o wneud digartrefedd, yn brin, fyrhoedlog a anghylchol. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30m bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU ac mae prosiectau fel y rhain yn dangos y gwahaniaeth hanfodol maen nhw’n cyfrannu i gymunedau.”
Yng ngwanwyn 2022 bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi manylion ail rownd y rhaglen a fydd yn cynnig £3m o arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer targedu digartrefedd mewn ardaloedd gwledig.
Esboniodd John Rose, “Rydym yn cydnabod bod y tri phrosiect cryf rydym wedi ariannu mor belled wedi’u lleoli mewn ardaloedd trefol a bod digartrefedd yn broblem sy’n effeithio ar bobl ym mhob rhan o Gymru. Dyma pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dewis ymroi £1.5 miliwn ychwanegol o ariannu Loteri Genedlaethol i helpu fynd i’r afael â’r broblem. Mae hyn yn golygu bydd cyfanswm o £3 miliwn ar gael i dargedu digartrefedd gwledig yn y rownd nesaf, gan ddod â’n cefnogaeth cyfan ar gyfer digartrefedd trwy’r rhaglen bwysig yma i £11.5 miliwn.”
Diwedd
Gallwch lawrlwytho crynodeb byr o'r prosiectau llwyddiannus yma.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru