Genedlaethol wedi’i wobrwyo i gefnogi goroeswyr cam-drin domestig yn Abertawe
Mae Cymorth i Ferched Abertawe wedi croesawu’r newyddion eu bod wedi ymgeisio’n llwyddiannus am £499,988 o ariannu y Loteri Genedlaethol 988 i gefnogi menywod, plant a phobl ifanc sy’n wynebu cam-drin domestig yn Abertawe.
Mae’r elusen wedi gweld cynnydd mewn cam-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19. Mae’r prosiect newydd yn cynnig mwy o gefnogaeth i bobl wrth i’r broses adfer ddechrau ac wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo leihau. Dros y tair blynedd nesaf, bydd ‘DAISE (Domestic Abuse Information, Support and Empowerment) Family Support’ yn cynnig darpariaeth ar ffurf cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i fenywod, ac yn cynnig cymorth mewn argyfwng a chynllunio diogelwch i blant a phobl ifanc.
Dywedodd Frances Williams o Gymorth i Ferched Abertawe “Fel gweithiwr o fewn ein gwasanaeth DAISE (Domestic Abuse Information, Support and Empowerment) Family Support, rwy’n darparu cefnogaeth hanfodol i blant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin domestig. Mae’r gefnogaeth yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc edrych ar eu profiadau o gam-drin domestig a dysgu am ei effaith, gan roi’r sgiliau iddyn nhw archwilio sut mae’n effeithio ar eu credoau, gwerthoedd ac ymddygiad nawr.”
Bydd staff Cymorth i Ferched Abertawe yn ffurfio’r tîm gwasanaethau cymunedol newydd ‘cyd-gynhyrchu gan oroeswyr’, gyda goroeswyr o drais ynghlwm â dylunio a darparu’r rhaglenni a gweithgareddau. Ychwanegodd Frances:
“Rydym yn defnyddio dull a arweinir gan y plentyn neu’r person ifanc ac yn eu cefnogi â’r materion sydd fwyaf pwysig iddyn nhw, gan alluogi iddyn nhw siarad yn gyfrinachol am sut maen nhw’n teimlo. Rydym yn hyrwyddo perthnasau iach, yn codi ymwybyddiaeth am gam-drin domestig ac yn cefnogi plant a phobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel.”
Eglurodd un defnyddiwr gwasanaeth o Gymorth i Ferched Abertawe, “Roedd o gymorth i mi oherwydd mae gen i rywun i siarad â nhw. Helpodd i mi beidio â chadw popeth y tu fewn. Rwy’n teimlo y gallaf siarad â’r gweithiwr am unrhyw beth.
“Mae’r gefnogaeth wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw cysylltu â rhywun os oes wir angen hynny arnaf.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru: “Rydym yn gwybod am y gwaith pwysig y mae Cymorth i Ferched Abertawe yn ei wneud i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig yn Abertawe, ac rydym yn falch o allu ariannu eu gwaith hanfodol.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn at achosion da bob wythnos ledled y DU ac mae prosiectau fel hyn yn dangos y gwahaniaeth enfawr y maen nhw’n ei wneud i gefnogi cymunedau i lwyddo a ffynnu.”
Un o 104 o brosiectau ledled Cymru yw hwn sydd wedi cael eu gwobrwyo yn ystod y mis diwethaf gyda chyfanswm o £4,056,838 o gyllid a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. I ddarllen y rhestr lawn cliciwch i lawrlwytho dogfen.
-gorffen-
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru