Cymunedau yng Nghymru’n dod ynghyd ar gyfer ein planed diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol.
Heddiw mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi dros £300,000 i helpu cymunedau yng Nghymru weithredu ar yr argyfwng natur a hinsawdd.
Un o’r grwpiau i dderbyn arian y Loteri Genedlaethol yw Artis Community sy’n derbyn £10,000 i ddatblygu llyfrgell pethau a chaffi trwsio misol ym Mhontypridd. Bydd hyn yn creu cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant a gweithdai sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol a lleihau ein heffaith ar y blaned.
Dywedodd Hannah Hitchins, Rheolwr Cwmni Artis Community: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ein gwobr Gyda’n Gilydd ar gyfer ein Planed. Bydd y llyfrgell pethau a chaffi trwsio misol yn helpu ein cymuned i leihau faint o bethau newydd sydd angen iddyn nhw eu prynu, ac felly’n lleihau faint o wastraff a allai fod wedi cael ei anfon at y safle tirlenwi fel arall.
Bydd yn annog rhannu ac yn grymuso pobl i weithredu’n gadarnhaol ac yn ymarferol yn eu cymunedau. Rydym yn gyffrous iawn am y cyfle hwn ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â phobl.”
Gyda gwobr o £9,920, bydd Men’s Shed Dinbych yn cynnal y prosiect Shedicine gwyrdd, cyfres o hyfforddiant a gweithgareddau i’r gymuned leol archwilio a datblygu datrysiadau a sgiliau ymarferol i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Un elfen o’r prosiect fydd helpu pobl i fwyta deiet sy’n fwy cyfeillgar i’r blaned drwy ddarparu hyfforddiant ar dyfu cynnyrch.
Bydd hefyd yn grymuso aelodau a gwirfoddolwyr i amddiffyn, diogelu a chyfoethogi’r fflora a ffawna drwy ddatblygu a rheoli mannau gwyllt. Bydd y prosiect yn annog rhywogaethau blodau gwyllt brodorol ac yn helpu’r gymuned i adeiladu gwestai i bryfed a gwenyn a blychau i ddraenogod o ddeunyddiau sydd wedi’u hadennill i helpu amddiffyn bywyd gwyllt a pheillwyr.
Bydd Men’s Shed Dinbych hefyd yn darparu hwb hyfforddiant i’r gymuned leol i helpu pobl ddatblygu sgiliau ymarferol, fel uwchgylchu, ail-bwrpasu a thrwsio eitemau a fydd yn eu helpu i leihau eu heffaith ar y blaned.
Dywedodd Nathan Sarea, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer Men’s Shed Dinbych: “Ar ran pawb yma, hoffwn ddiolch i bawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol am ein helpu i ennill ein gwobr Gyda’n Gilydd ar gyfer ein Planed ddiweddar. Fel rhan o’n prosiect Shedicine gwyrdd, a ariennir gan y grant, rydym yn lansio ein grŵp Incredible Edible Dinbych o’n safle i helpu mynd i’r afael â thlodi bwyd.
Rydym hefyd yn treialu sesiynau uwchgylchu â’r Sied Ieuenctid lleol, ac rydym yn defnyddio ein safle helaeth fel hwb rhyngweithiol i archwilio datrysiadau i newid hinsawdd ar lefel leol.”
Gyd gwobr o £10,000, bydd Manage Money Wales ym Mhorth yn ehangu oriau agor eu Siop Rhannu Cymunedol, lle maen nhw’n casglu rhoddion fel dillad, esgidiau, teganau, gemau, llyfrau, gwisgoedd ysgol, dillad chwaraeon, dodrefn bach a bwyd nad yw’n ddarfodus gan y gymuned leol. Mae’r Siop Rhannu Cymunedol yn rhoi’r eitemau am ddim i unrhyw un yn y gymuned sydd eu hangen.
Dywedodd Jennifer Hare, Prif Weithredwr Manage Money Wales: “Mae ein cymuned, yn enwedig yn ystod y pandemig, wedi dangos i ni pa mor hael ydyn nhw. Gyda’n grant, byddwn yn agor ein storfa un diwrnod yr wythnos fel y gall y gymuned leol roi eitemau nad oes eu hangen arnynt mwyach, a gall unrhyw un yn y gymuned ddod a chymryd yr hyn sydd ei angen arnynt.
Bydd ein prosiect yn helpu pobl arbed arian drwy gael eitemau sydd eu hangen arnynt am ddim, dargyfeirio gwastraff o’r safle tirlenwi drwy ailgylchu eitemau a lleihau unigrwydd ac ynysu drwy gynnig lle i bobl wirfoddoli neu fynychu i gymdeithasu. Hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl.”
Yn Nhredegar, mae Sirhowy Hill Woodlands Community Hub yn derbyn £10,000 i greu hwb cymunedol o amgylch meithrinfa goed, gardd gymunedol a datblygu ysgol goedwig i blant. Bydd yr hwb yn cynnal gweithdai i helpu pobl ddatblygu sgiliau a gwybodaeth garddwriaethol am yr amgylchedd naturiol lleol.
Dywedodd Susan Arnold, Trysorydd a Chyfarwyddwr Sirhowy Hill Woodlands Community Hub: “Rydyn ni mor hapus i dderbyn arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer ein prosiect hwb cymunedol. Rhywle y gallwn ni hau, tyfu a dysgu gyda’n gilydd, gan fynd i’r afael â newid hinsawdd yn gynaliadwy drwy dyfu bwyd lleol, organig a maethlon, coed brodorol o ffynonellau lleol. Rhywle y gall pobl ifanc ddysgu i werthfawrogi natur drwy chwarae a hwyl, gan obeithio y byddan nhw’n ei warchod yn y dyfodol.
Mae Cyngor Cymuned Llanedi yn Yr Hendy, Abertawe, yn derbyn £5,900 i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn bodoli ar y llwybr natur. Bydd creu scrapes a phwll dŵr yn gwella bioamrywiaeth yr ardal sydd wedi’i neilltuo ar gyfer natur.
Dywedodd Ruth Taylor-Davies, gwirfoddolwr o Cyngor Cymuned Llanedi: “Mae’r prosiect yn bosibl diolch i haelioni chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynefinoedd newydd o fewn yr ardal werdd wych hon, sydd wrth wraidd ein cymuned. Mae’n eiddo i’r cyngor cymuned ac yn cael ei chefnogi gan grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig.
Mae’r llwybr wedi gwneud camau mawr yn barod wrth wella cynefinoedd i fywyd gwyllt ac ymgysylltu ein cymuned â’r natur ar ei stepen drws.”
Diolch i £305,908 a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd 34 o grwpiau cymunedol ledled Cymru’n cydweithredu gan ganolbwyntio ar y newidiadau bach y gallant eu gwneud yn lleol. Gweler rhestr lawn o’r holl wobrwyon yma.
Wrth gyhoeddi’r arian, dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd yr arian hwn yn galluogi grwpiau cymunedol ledled Cymru i weithredu’n ystyrlon ac yn barhaus ar newid hinsawdd. Gan feddwl yn lleol a chanolbwyntio ar yr hyn mae’n ei olygu iddyn nhw, byddan nhw’n adeiladu ar weithredoedd bach ar y cyd a fydd yn cyfrannu at y mudiad gweithredu hinsawdd ehangach.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiectau hyn yn dod yn fyw dros y misoedd nesaf. Byddan nhw nid yn unig yn gwneud gwelliannau amgylcheddol sylweddol, ond byddan nhw hefyd yn helpu cymunedau i ffynnu.”
Mae’r rhaglen Gyda’n Gilydd ar gyfer ein Planed yn ceisio cefnogi etifeddiaeth o brosiectau hinsawdd parhaus mewn cymunedau ledled y DU. Mae’r rhaglen, a oedd yn cynnig grantiau hyd at £10,000, bellach wedi cau.
Ers 2016, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £397 miliwn drwy fwy na 6,000 o grantiau sy'n cynnwys gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a'r amgylchedd naturiol.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian ar ran chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU**.
-gorffen-
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru