Hwb £4.5 miliwn gan y Loteri Genedlaethol i gymunedau ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines Ei Mawrhydi ledled y DU
Heddiw (Dydd Llun 21 Mawrth), mae £4.5 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol wedi cael ei ddyfarnu i gymunedau ledled y DU er mwyn iddynt allu dod ynghyd i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines Ei Mawrhydi.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, wedi datgelu’r 91 o brosiectau cymunedol dylanwadol a fydd yn derbyn cyfran o’r arian.
Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau chwaraeon i bobl sydd wedi cael anaf i’r ymennydd (ABIs) yng ngorllewin Lloegr, cefnogaeth arddwriaethol i gyn-filwyr yng Nghymru, rhannu sgiliau ymysg cenedlaethau yn Yr Alban i leihau gwastraff a llygredd a digwyddiadau cymunedol amlddiwylliannol yn ne Llundain.
Mae’r cyllid hanfodol hwn wedi cael ei ddyfarnu o’r Gronfa Jiwbilî Platinwm, a lansiwyd ym mis Tachwedd y llynedd fel rhaglen £3.5 miliwn gyda grantiau hyd at £50,000 ar gael i 70 o sefydliadau, i ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus Ei Mawrhydi.
Gan fod y Jiwbilî Platinwm yn ffurfio rhan o #Dathlu2022, blwyddyn arwyddocaol o ddathlu a balchder cenedlaethol, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo £1 miliwn ychwanegol i 21 o grwpiau cymunedol pellach i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu dod ynghyd i nodi’r adeg bwysig hon.
Mae Headway Worcestershire wedi derbyn £50,000 i gynnal y ‘Gemau i Bobl sydd wedi cael Anaf i’r Ymennydd’ cyntaf. Bydd y gemau arloesol hyn yn gweld pobl ag anafiadau i’r ymennydd yn cymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau chwaraeon yn profi eu priodoleddau corfforol ac yn meithrin eu sgiliau bywyd, galluoedd creadigol ac ymwybyddiaeth wybyddol. Gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan, bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o anafiadau i’r ymennydd yn y gymuned ehangach. Bydd y ‘Queen Elizabeth II Games for People with an Acquired Brain Injury’ yn cael eu cynnal yn yr haf eleni yng Nghaerwrangon, mewn ymateb i’r hyn y mae’r elusen yn ei ystyried fel anghyfiawnder yn y byd chwaraeon, gan nad yw pobl sy’n profi ABIs yn gallu cystadlu yn y Gemau Paralympaidd os nad ydynt yn dangos anabledd corfforol amlwg.
Dywedodd Mandie Fitzgerald, Prif Weithredwr Headway Worcestershire: “Bydd yr Acquired Brain Injury Games yn ffordd hwylus o gydnabod sgiliau a thalentau arbennig y bobl yr ydym yn eu cefnogi, gan sicrhau hefyd bod pobl ag anafiadau i’r ymennydd yn gwybod am y gefnogaeth werthfawr y mae Headway Worcestershire ac elusennau eraill yn ei chynnig yn y gymuned. Hoffem ddiolch o galon i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ein helpu i gynnal y digwyddiad hwn fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî Platinwm, ac am roi’r cynnig i ni addysgu a hysbysu’r gymuned ehangach am effeithiau anafiadau i’r ymennydd.”
Diolch i £50,000, bydd Valley Veterans yng Nghwm Rhondda, Cymru yn cefnogi ei rwydwaith o dros 140 o gyn-filwyr gyda gweithgareddau garddwriaethol yn ymwneud â cheffylau a garddio. Bydd prosiect Equi-Growth y grŵp yn helpu gwella iechyd a lles meddyliol a chorfforol pobl, gan leihau unigrwydd ac ynysu. Bydd cyn-filwyr hefyd yn dysgu sgiliau newydd wrth ofalu am y ceffylau, a byddant yn gofalu am flodau a llysiau’r rhandir, y gellir eu defnyddio i goginio prydau iach gartref.
Grŵp arall a fydd yn buddio yw Croydon Refugee Community yn ne Llundain. Mae wedi derbyn grant £50,000 i ddod â phobl o bob oedran ynghyd o wahanol gymunedau ethnig lleiafrifol i rannu a dathlu eu treftadaeth, traddodiadau a bwydydd diwylliannol, fel ffordd o nodi’r Jiwbilî Platinwm. Bydd hyn yn creu cysylltiadau ar draws cenedlaethau, diwylliannau, ieithoedd a ffyrdd o fyw i rannu sgiliau a dysgu gan ei gilydd, gan leihau unigrwydd ac ynysu a gwella lles.
Yn yr Alban, mae’r <b>Group for Recycling in Argyll and Bute Trust</b> (GRAB Trust) wedi derbyn bron £50,000 <b>i ddod â phobl ifanc a’r genhedlaeth hŷn ynghyd i leihau gwastraff</b> yn yr ardal leol. Byddant yn rhannu sgiliau sy’n buddio’r amgylchedd â’i gilydd – bydd pobl hŷn yn dangos pobl ifanc sut i bobi, uwchgylchu dillad a dodrefn a thyfu llysiau, tra bydd pobl ifanc yn cynnig eu gwybodaeth am feganiaeth, yn ogystal â’r syniad o gyfarfod â ffrindiau i rannu a chyfnewid dillad diangen. Bydd gwirfoddolwyr yn cynnal digwyddiadau’n ymdrin â’r themâu hyn i annog y gymuned ehangach i gymryd rhan. Nid yn unig y bydd hyn yn lleihau llygredd a gwastraff sy’n mynd i’r safle tirlenwi, ond bydd yn meithrin cyfeillgarwch rhwng cenedlaethau a fydd yn parhau y tu hwnt i’r Jiwbilî Platinwm.
Dywedodd Graham Love, Rheolwr Cyffredinol y GRAB Trust: “Bydd Cronfa’r Jiwbilî Platinwm yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl yn Argyll a Bute yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Bydd y GRAB Trust yn gweithio mewn cymunedau i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm a helpu lleihau faint o wastraff sy’n mynd i’r safle tirlenwi. Mae ymchwil* yn dangos bod 30% yn taflu eitemau cartref y gallent fod wedi cael eu rhoi, eu gwerthu neu eu hail-ddefnyddio ac nid yw un mewn bob pump o bobl 16 i 24 oed yn gwybod sut i ailgylchu neu roi eitemau. Mae ein prosiect ‘Waste No More!’ i bawb, boed yn ifanc neu’n hen - gan ddod â phobl ynghyd i rannu eu sgiliau ar draws cenedlaethau. Rydym yn edrych ymlaen at annog pawb i greu, trwsio, uwchgylchu ac ail-bwrpasu - gan fanteisio ar adnoddau sydd eisoes yn bodoli a gofalu am y blaned.”
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chadeirydd Pwyllgor Ariannu’r DU: “Rydym ni’n falch o chwarae rôl allweddol yn y flwyddyn bwysig hon o ddathlu ledled y Deyrnas Unedig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym ni’n cefnogi sefydliadau ym mhob cwr o’r wlad sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ac yn dod â phwrpas a balchder i’w cymunedau. Y grwpiau cymunedol hyn sy’n crynhoi ysbryd y Jiwbilî Platinwm yn berffaith, gan greu etifeddiaeth o newid cadarnhaol sy’n galluogi pobl i lwyddo a ffynnu.”
Dywedodd Nadine Dorries, Ysgrifennydd Diwylliant y DU: “Mae Jiwbilî Platinwm y Frenhines ei Mawrhydi yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd a bydd y cyllid hwn yn chwarae rôl bwysig i helpu mwy na 90 o grwpiau cymunedol i gymryd rhan i ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth ymroddedig.”
Bydd penwythnos y Jiwbilî Platinwm hefyd yn cael ei ddathlu gyda Chinio Mawr y Jiwbilî o Ddydd Iau 2 Mehefin – Ddydd Sul 5 Mehefin, 2022. Fel rhan o raglen ddwy flynedd o weithgareddau a gefnogir gan £2.3 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol, bydd y fersiwn Jiwbilî hwn o’r Cinio Mawr blynyddol yn dod â miloedd o gymunedau ynghyd ac yn helpu pobl i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm wrth ddod i adnabod eu cymdogion.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn** yr wythnos at achosion da ledled y DU.
Mae grantiau hyd at £10,000 o raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol - sy’n dyfarnu bron £80 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol ym mhob rhan o’r DU bob blwyddyn - o hyd ar gael i ddigwyddiadau cymunedol drwy gydol 2022 i ddathlu blwyddyn y Jiwbilî Platinwm.
I ddysgu rhagor, ewch i www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig