Ymchwil newydd yn datgelu gwahaniaethau amlwg yn y modd y dywed cymunedau yn y DU eu bod yn ymdopi
Mae ymchwil newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, yn dangos y gwahaniaeth amlwg yn y ffordd y mae cymunedau ledled y DU yn credu eu bod yn ymdopi o gymharu ag eraill.
Mae'r data'n dangos gwrthgyferbyniadau sylweddol yn nirnadaeth pobl o ansawdd bywyd, cyfleoedd, rhagolygon swyddi a chyflogaeth a mesurau allweddol eraill, megis iechyd a lles, yn seiliedig ar ddaearyddiaeth, dosbarth cymdeithasol, addysg, lefelau amddifadedd lleol ac ethnigrwydd.
Daw'r canfyddiadau o Fynegai Ymchwil Cymunedol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - arolwg blynyddol o dros 8,000 o oedolion ledled y DU a gynlluniwyd i ddarganfod sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau, a'u huchelgeisiau ar eu cyfer.
Yn gyffredinol, mae bron i dri chwarter y bobl yn y DU (72%) yn credu bod eu cymuned leol yn gwneud yn dda am ansawdd bywyd o'i gymharu â chymunedau eraill. Fodd bynnag, mae hyn yn neidio i 78% o bobl yn Ne Orllewin Lloegr, ond mae'n gostwng i 67% ar gyfer y rhai yng Ngogledd Orllewin a Gogledd Ddwyrain Lloegr, gan ostwng ymhellach i 62% ar gyfer y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwyaf difreintiedig[1] y DU.
Pan ofynnwyd am gyfleoedd bywyd, mae'r rhai mewn graddau cymdeithasol uwch (ABC1) yn fwy tebygol o ddweud bod eu cymuned yn gwneud yn dda (76%) na'r rhai o raddau is (67%). Yn yr un modd, mae dros hanner (56%) y bobl a aeth i'r brifysgol yn dweud bod eu cymunedau'n gwneud yn dda am gyfleoedd bywyd, ond mae hyn yn gostwng i 46% i'r rhai na wnaethant raddio o addysg uwch.
Mae'r data hefyd yn datgelu pwysigrwydd bod yn rhan o gymuned – gyda'r rhai sy'n teimlo'n rhan o'u cymuned yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwneud yn dda am gyfleoedd bywyd (58%) ac ansawdd bywyd cyffredinol (79%), na'r rhai nad ydynt yn teimlo'n rhan o'u cymuned leol (29% a 52% yn y drefn honno).
Fodd bynnag, er bod profiadau'n amrywio'n sylweddol, mae pobl yn cytuno i raddau helaeth ar yr hyn sy'n ofynnol i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol. Ymhlith y blaenoriaethau mae ystod dda o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant (53%), mwy o fynediad i dai fforddiadwy (53%) a lefelau is o dlodi ac amddifadedd (52%).
Mae pobl ifanc hefyd yn ganolog i'w meddwl, gyda mwy o glybiau neu weithgareddau ieuenctid i bobl ifanc (39%) ac ysgolion gwell (39%) yn cael eu nodi fel rhai pwysig ar gyfer lleihau anghydraddoldebau.
Wrth edrych yn fwy hirdymor, mae tai (44%), cyfleoedd cyflogaeth (41%) a stryd fawr sy’n ffynnu (44%) ar frig y rhestr o'r newidiadau lleol yr hoffai pobl eu gweld. Ar yr un pryd, mae tua thraean eisiau i'r genhedlaeth nesaf fwynhau aer glanach (34%) a mwy o fannau gwyrdd (32%), ynghyd â llai o draffig/mwy o lwybrau ar gyfer beicio a cherdded (28%) a mwy o fannau cymunedol (25%).
Mae'r canfyddiadau'n cael eu rhyddhau heddiw wrth i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol lansio proses Adnewyddu Strategol a fydd yn llywio sut mae'n cefnogi pobl a chymunedau i'r dyfodol. Mae'n dweud ei fod yn cymryd y cam hwnnw rai blynyddoedd ar ôl i'r strategaeth bresennol fod ar waith ac ar adeg pan fo pethau'n edrych yn wahanol iawn yn y byd. Gydag ymrwymiad i fod yno i bawb, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ceisio defnyddio proses Adnewyddu Strategol i sicrhau y gall barhau i wneud y gwahaniaeth mwyaf i gymunedau, gan helpu i ymateb i wahanol heriau a chyfleoedd y mae cymunedau'n eu hwynebu ledled y DU.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'r ymchwil hwn yn ymwneud â rhoi cymunedau'n gyntaf a gofyn iddynt yn uniongyrchol beth yw eu heriau, eu gobeithion a'u huchelgeisiau heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Gwyddom fod gan ein cyllid rôl hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi cymunedau i ryddhau eu hegni a'u potensial fel y gallant gyrraedd lle yr hoffent fod.
"Mae'n ddechrau sgwrs bwysig. Dyna pam yr ydym yn cychwyn proses Adnewyddu Strategol heddiw a fydd yn llywio sut yr ydym yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau yn y dyfodol a'u cefnogi i lwyddo a ffynnu. Rydym am ddefnyddio gwybodaeth, rhagwelediad, profiadau ac uchelgeisiau cymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bob saith munud rydym yn gallu cefnogi cymuned i ddod â phobl at ei gilydd a gwneud i bethau anhygoel ddigwydd. Mae nawr yn amser cyffrous ac ysbrydoledig i archwilio sut rydym yn adeiladu ar y gorau sydd wedi bod gyda'r gorau sydd eto i ddod."
Mae Middleport Matters, prosiect cymunedol yn Stoke-on-Trent, yn helpu mynd i'r afael â rhai o'r gwahaniaethau a amlygwyd yn yr ymchwil. Wedi'i leoli yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, mae'n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i helpu gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd bywyd i drigolion. Mae Middleport Matters yn dod â phobl o bob rhan o'r ardal at ei gilydd i oresgyn yr heriau sy'n wynebu'r gymuned ac mae'n helpu creu lle diogel a chroesawgar sy’n ffynnu i fyw ynddo ac ymweld ag ef.
I ddysgu rhagor am Adnewyddiad Strategol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chymryd rhan, ewch i puttingcommunitiesfirst.org.uk a defnyddiwch #TNLCOMFUNDStrategyRenew i ymuno â'r sgwrs.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch iddynt, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £3.4 biliwn mewn 72,000 o grantiau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan gefnogi pethau anhygoel i ddigwydd mewn cymunedau ledled y DU.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig