Canmoliaeth i elusen yn Wrecsam sy’n cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial
Heddiw, (Ebrill 7fed), canmolwyd yr elusen WeMindtheGap yn Wrecsam gan Gadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ei gwaith hanfodol yn cefnogi pobl ifanc yn y gymuned.
Ymwelodd Blondel Cluff CBE â’r prosiect heddiw i glywed gan bobl ifanc nad ydynt yn gweithio nac mewn addysg, a adwaenir fel ‘gappies’, am sut y mae WeMindTheGap wedi defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i’w helpu i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd i baratoi a chynllunio ar gyfer eu dyfodol.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae WeMindTheGap yn dyblu faint o bobl ifanc y mae’n eu cefnogi, gyda lleoliadau gwaith â thâl yng Ngogledd Cymru a Manceinion, o 70 i 160 y flwyddyn erbyn 2023. Mae’r profiad gwaith yn dod â chefnogaeth gofleidiol a pharatoad am oes yn dilyn y rhaglen.
Cynhaliwyd yr ymweliad wrth i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, lansio proses Adnewyddu Strategol a fydd yn llywio sut y mae’n cefnogi pobl a chymunedau i’r dyfodol fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i roi cymunedau’n gyntaf. Siaradodd Blondel Cluff CBE â phobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr yn yr elusen am heriau, cyfleoedd, gobeithion ac uchelgeisiau cymunedau.
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’n wych i fod yn Wrecsam heddiw i weld effaith enfawr cyllid y Loteri Genedlaethol ar y gymuned. Mae gwaith WeMindtheGap o gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial mor bwysig ac roedd hi’n wych i glywed am eu huchelgeisiau a’u profiadau wrth iddynt fynd tuag at ddyfodol yr ydym yn gobeithio y bydd yn ddiogel ac yn llwyddiannus. Bydd y math hwn o wybodaeth a mewnwelediad yn llywio sut rydym yn parhau i fuddsoddi mewn cymunedau dros y degawd nesaf, gan wneud popeth y gallwn i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael y tu ôl wrth i’r wlad barhau i ymgodi o’r adeg fwyaf heriol.”
Dywedodd Rachel Clacher CBE, Cadeirydd a Sylfaenydd WeMindTheGap: “Mae grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi darparu cyllid hanfodol sydd wedi ein galluogi i dyfu rhaglenni gan newid dyfodol pobl ifanc yn ein cymunedau. Rydym wrth ein boddau i rannu effaith y cyllid hwnnw a straeon ein pobl ifanc. Gan WeMindTheGap, rydym yn diolch o galon i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”
Graddiodd Chloe Young (23) o Sir y Fflint o’r rhaglen yn 2019, ac mae bellach yn arwain y grŵp alumni WeBelong fel eiriolwr a siaradwr gwadd. Ers iddi orffen y rhaglen, mae Chloe wedi cael swydd yn y cyngor lleol fel gweithiwr cymorth i’r henoed ac yn gweithio tuag at astudio Nyrsio i Oedolion yn y Brifysgol.
Wrth drafod ei chyfnod yn y rhaglen WeMindTheGap, dywedodd Chloe: “Cefais brofiad mewn amrywiaeth o fusnesau i ddod o hyd i’r math o yrfa yr oeddwn am weithio tuag ati. Roedd y cyfleoedd yn ddiddiwedd, ac roedd y chwe mis gyda’r rhaglen WeMindTheGap wedi newid fy mywyd.
“Cymerais bopeth a gynigiwyd i mi gyda dwy law. Dysgais sut i ail-fframio fy meddyliau negyddol i rai cadarnhaol a chroesawais y cyfle i draddodi araith yn ein seremoni raddio, sy’n rhywbeth na fyddwn i erioed yn meddwl y byddwn i’n ei ddweud! Teimlais yn freintiedig ac wrth fy modd i dderbyn cymeradwyaeth sefyll gan y dorf yn dilyn fy stori o fy mrwydrau a chryfderau. Byddaf yn trysori hynny am byth. Dwi wedi cyfarfod â chymaint o bobl anhygoel ac ysbrydoledig trwy WeMindTheGap, gan gynnwys fy hyfforddwr bywyd a wnaeth fy helpu i ragweld dyfodol clir, disglair a chadarnhaol.”
Tra yn Wrecsam, ymwelodd Blondel Cluff CBE â’r prosiect cymunedol Erlas Victorian Walled Garden hefyd. Mae’r grŵp, sy’n cefnogi iechyd a lles pobl ag anableddau, yn defnyddio £50,000 o gyllid y Loteri Genedlaethol i greu Gardd Jiwbilî hollol hygyrch. Bydd yr ardd yn coffáu Jiwbilî Platinwm y Frenhines Ei Mawrhydi gyda thrigolion yn helpu dylunio ac adeiladu’r ardd trwy gyfres o weithdai creadigol a thrafodaethau wedi’u targedu.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch iddyn nhw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £3.4 biliwn mewn 72,000 o grantiau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan gefnogi pethau gwych i ddigwydd mewn cymunedau ledled y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i https://www.puttingcommunitiesfirst.org.uk/?culture=cy-GB
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig