Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn lansio proses Adnewyddu Strategol
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, wedi lansio proses Adnewyddu Strategol a fydd yn llywio sut mae’n cefnogi pobl a chymunedau i lwyddo a ffynnu yn y dyfodol.
Mae hyn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Gronfa i roi cymunedau’n gyntaf. Bydd y broses 18 mis yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid ac yn darparu sawl man cyswllt i bobl ymuno â sgyrsiau am heriau, cyfleoedd, gobeithion ac uchelgeisiau cymunedau amrywiol y DU.
Bydd hyn yn helpu llywio sut y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi mewn cymunedau yn y dyfodol, yn ogystal â’r gefnogaeth ehangach y mae’n ei chynnig.
Mae’r cyllidwr, sydd wedi dosbarthu £3.4 biliwn yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig, yn annog pobl i ymuno â’i Adnewyddiad Strategol, gan ddweud y bydd yr holl ymatebion yn cael eu croesawu ac yn ei helpu i ddysgu, archwilio ac adeiladu syniadau mawr.
Fel y cyfryw, mae wedi cychwyn rhaglen ddofn, strwythuredig o ymgysylltiad a gweithgareddau eraill a ddyluniwyd i ddenu amrywiaeth eang o bobl i’r sgwrs. Mae hefyd wedi lansio gwefan meicro a hashnod, #TNLCOMFUNDStrategyRenew, lle y gall pobl ymuno â’r sgwrs.
Mae ymchwil a ryddhawyd heddiw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn awgrymu bod y sgwrs hon yn dod ar adeg amserol. Mae canfyddiadau o’i Fynegai Ymchwil Cymunedol – arolwg blynyddol o dros 8,000 o oedolion yn y DU a ddyluniwyd i ddysgu beth yw teimladau ac uchelgeisiau pobl ar gyfer eu cymunedau – yn dangos gwahaniaeth mawr yn y ffordd y mae cymunedau yn y DU’n credu y maen nhw’n gwneud o gymharu ag eraill.
Mae’n datgelu cyferbyniadau sylweddol yn nirnadaeth pobl o ansawdd bywyd, cyfleoedd, rhagolygon swyddi a chyfleoedd a mesurau allweddol eraill, fel iechyd a lles, yn seiliedig ar ddaearyddiaeth, dosbarth cymdeithasol, addysg, lefelau amddifadedd lleol ac ethnigrwydd.
Yn gyffredinol, mae bron tri chwarter o bobl yn y DU (72%) yn credu bod eu cymuned leol yn gwneud yn dda o ran ansawdd bywyd o gymharu â chymunedau eraill yn y DU. Mae hyn yn neidio i 78% o bobl yn Ne Orllewin Lloegr, ond yn disgyn i 67% yn y Gogledd Orllewin a’r Gogledd Ddwyrain ac i 62% ar gyfer y rhai hynny sy’n byw mewn ardaloedd mwyaf difreintiedig[1] y DU.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’r ymchwil hwn yn ymwneud â rhoi cymunedau’n gyntaf a’u gofyn yn uniongyrchol beth yw eu heriau, gobeithion ac uchelgeisiau heddiw ac ar gyfer y dyfodol. Gwyddom fod gan ein hariannu rôl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi cymunedau i ryddhau eu hegni a photensial fel y gallant gyrraedd lle yr hoffent fod.
“Mae’n ddechrau sgwrs bwysig. Dyma pam rydym ni’n cychwyn ar broses Adnewyddu Strategol heddiw a fydd yn llywio sut rydym ni’n parhau i fuddsoddi mewn cymunedau yn y dyfodol ac yn eu cefnogi i lwyddo a ffynnu. Hoffem ddefnyddio gwybodaeth, rhagwelediad, profiadau ac uchelgeisiau cymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bob saith munud rydym ni’n gallu cefnogi cymuned i ddod â phobl ynghyd a gwneud pethau gwych i ddigwydd. Mae’n adeg gyffrous ac ysbrydoledig i edrych ar sut rydym ni’n adeiladu ar y gorau sydd wedi bod gyda’r gorau sydd eto i ddod.”
Fel rhan o’r lansiad, ymwelodd David â Middleport Matters, prosiect cymunedol yn Stoke-on-Trent sydd mewn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad. Mae’n defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i helpu gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd bywyd i’r trigolion. Mae Middleport Matters yn dod â phobl ledled yr ardal ynghyd i oresgyn heriau a wynebir gan y gymuned ac yn helpu creu lle diogel a chroesawgar sy’n ffynnu i fyw ynddo ac ymweld ag ef.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch iddyn nhw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £3.4 biliwn mewn 72,000 o grantiau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan gefnogi pethau anhygoel i ddigwydd mewn cymunedau ledled y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i puttingcommunitiesfirst.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig