25 miliwn yn bwriadu ymuno â dathliadau’r Jiwbilî Platinwm ledled y DU yn yr haf eleni
Bydd Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines yn uno cymunedau’r DU, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn debygol o fynychu digwyddiadau i ddathlu, yn ôl ymchwil newydd
Bydd Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines yn chwarae rôl fawr wrth ddod â’r DU ynghyd unwaith eto yn dilyn y pandemig, yn ôl ymchwil newydd a ryddhawyd heddiw. Mae’r canfyddiadau, gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, yn dangos bod hanner (51%) o oedolion y DU, o bosibl 25 miliwn o bobl, yn debygol o ymuno â’r dathliadau yn eu cymuned leol.
Mae dros chwech mewn deg (64%) yn gweld y digwyddiad unwaith mewn oes fel cyfle i’r wlad ddod ynghyd, tra bod 50% yn ei weld fel cyfle i aduno â phobl yn eu hardal yn dilyn COVID. Dathlu yw trefn debygol y dydd gydag ond pedwar mewn deg (40%) ledled y DU yn dweud eu bod yn annhebygol o fynychu digwyddiad cymunedol.
Bydd bron chwech mewn deg (58%) yn defnyddio’r penwythnos Jiwbilî Platinwm coffaol i dreulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau. Mae hyn yn cynyddu i 66% ymysg pobl ifanc (18-24 oed).
Yn ogystal â chroesawu agweddau dathliadol y Jiwbilî Platinwm, mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr hefyd yn cydnabod yr hwb i dwristiaeth (62%) y bydd yn ei ddarparu yn y DU, tra bod 71% yn croesawu gŵyl y banc ychwanegol sydd wedi cael ei chymeradwyo eleni, a hynny heb syndod.
Mae’r canfyddiadau’n dod o Fynegai Ymchwil Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – arolwg blynyddol o dros 8,000 o oedolion ledled y DU a ddyluniwyd i ddysgu sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau, a’u huchelgeisiau ar eu cyfer.
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’n galonogol gweld y bydd yr adeg bwysig hon yn helpu uno pobl a chymunedau ledled y DU, yn enwedig ar ôl wynebu heriau’r pandemig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu cefnogi digwyddiadau a phrosiectau ledled y DU i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm. Bydd y rhain yn helpu dod â phobl ynghyd a chreu cyfleoedd pellach i gymunedau gysylltu, cryfhau a ffynnu - rydym wrth ein boddau bod pobl yn gyffrous i gymryd rhan ac yn edrych ymlaen at weld amrywiaeth o gymunedau’n cymryd rhan.
Yn gynharach eleni, dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £4.5 miliwn i 91 o brosiectau o’i Chronfa Jiwbilî Platinwm. Wedi’i lansio ym mis Tachwedd 2021, er anrhydedd i 70 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus Ei Mawrhydi, gwnaed grantiau o hyd at £50,000 i grwpiau cymunedol ledled y DU i ddod â phobl ynghyd a chreu etifeddiaeth barhaus ar gyfer cymunedau.
Un o’r grwpiau sydd wedi elwa yw Friends of Skelton Grange yn Leeds, sydd wedi derbyn £50,000 o gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer ei brosiect Jiwbilî Platinwm ‘Queen of Spades’. Trwy raglen wirfoddoli a dysgu amgylcheddol, bydd yn datblygu ardal o safle Skelton Grange nad yw’n cael ei defnyddio, o’r enw ‘Lost World’ yn lleol, a’i gwneud yn hygyrch i’r cyhoedd.
Dros gyfnod o 70 diwrnod o weithredu cymunedol, bydd gwirfoddolwyr o bob oedran yn ymgymryd â gweithgareddau cadwraeth i glirio llwyni, creu llwybrau, plannu coed a dolydd, gosod cychod gwenyn a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt. Mae’r grŵp hefyd yn bwriadu ymgysylltu â 1,000 o oedolion a phlant, gan ddod â nhw ynghyd i’w haddysgu am y byd naturiol trwy ddysgu ymarferol, chwarae a chelf yn yr awyr agored.
Dywedodd Caroline Crossley, Aelod Pwyllgor ar gyfer Friends of Skelton Grange: “Mae’r Jiwbilî Platinwm yn ddigwyddiad arwyddocaol, ac mae’r adeg yn rhoi cyfle gwych i’n cymuned ddod ynghyd a dathlu mewn amgylchedd lleol poblogaidd. Mae Skelton Grange yn le anhygoel - 70 mlynedd yn ôl, roedd yn safle gorsaf bŵer newydd ei gomisiynu. Mae’r ardal wedi cael ei hadfywio dros y 30 mlynedd diwethaf gan bobl leol o dir diffaith diwydiannol i warchodfa natur a chanolfan amgylcheddol boblogaidd. Mae’n gyfle perffaith i edrych nôl ar newidiadau a chynnydd dros y 70 mlynedd diwethaf, ac i’n cymuned gydnabod yr hyn y maen nhw wedi’i gyflawni.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd ein prosiect yn darparu’r positifrwydd, sgiliau a phrofiadau sydd wir eu hangen ar ein cymuned leol, sydd wedi cael amser anodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Hoffem i’r prosiect nodi trobwynt, gan alluogi pobl i fwynhau pwrpas cyffredin o ofalu am eu hamgylchedd lleol a dysgu ohono.”
Mae gweithgareddau eraill a fydd yn derbyn cyfran o gyllid y Jiwbilî Platinwm yn cynnwys gemau chwaraeon i bobl ag anafiadau i’r ymennydd yng ngorllewin Lloegr, cefnogaeth arddwriaethol i gyn-filwyr yng Nghymru, rhannu sgiliau ymysg cenedlaethau yn yr Alban i leihau gwastraff a llygredd a digwyddiadau cymunedol amlddiwylliannol yn ne Llundain.
Bydd penwythnos y Jiwbilî Platinwm hefyd yn cael ei ddathlu gyda Chinio Mawr y Jiwbilî o Ddydd Iau 2 – Ddydd Sul 5 Mehefin, 2022. Fel rhan o raglen ddwy flynedd o weithgareddau a gefnogir gan £2.3 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol, bydd y fersiwn Jiwbilî hon o’r digwyddiad Cinio Mawr blynyddol yn dod â miloedd o gymunedau ynghyd a helpu pobl i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm gan ddod i adnabod eu cymdogion.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk/welsh
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig