Dros £10m o gyllid y Loteri Genedlaethol i wella iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru
Heddiw, dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £10.8 miliwn mewn grantiau trwy ei rhaglen Meddwl Ymlaen i naw partneriaeth sy’n cefnogi iechyd meddwl a gwytnwch pobl ifanc ledled Cymru.
Cafodd Meddwl Ymlaen ei ddatblygu ar y cyd â Thîm Llais Ieuenctid Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn rhan graidd o lywio’r rhaglen. O wneud penderfyniadau i asesu ceisiadau, roedd y bobl ifanc yn rhan o’r rhaglen bob cam o’r ffordd.
Bydd prosiect Barnardo’s Gogledd Cymru, Meddwl Ymlaen Gwynedd, a dderbyniodd £1,419,281, yn cyd-gynhyrchu datrysiadau gan arwain at ddyfodol mwy gwydn ac iach yn feddyliol i bobl ifanc 11 i 25 oed yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Bydd y bartneriaeth yn gweithio’n hyblyg i ymgysylltu a grymuso’r gymuned trwy weithgareddau amrywiol i gyd-ddylunio theori o newid. Bydd y rhaglen yn creu pum swydd newydd yn benodol ar gyfer pobl ifanc, ac yn hyfforddi wyth o Arweinwyr Ifanc.
Dywedodd Sarah Crawley, Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru a’r De Orllewin: “Rydyn ni wrth ein boddau i dderbyn cyllid y Loteri Genedlaethol oherwydd bydd yn ein galluogi i roi llais pobl ifanc wrth wraidd gwasanaethau effeithiol i ddiogelu a chefnogi eu hiechyd meddwl, fel y gallan nhw adeiladu gwytnwch a chael dyfodol iach yn feddyliol.”
Dyfarnwyd £1,269,285 i Snakes'n'Ladders, a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, i gefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed sy’n byw yn sir Merthyr Tudful i wella eu gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd y prosiect yn ymgysylltu a grymuso amrywiaeth o bobl ifanc, i’w galluogi i rannu eu profiad byw i hysbysu datblygiad cymorth a gwasanaethau a fydd yn eu helpu i adeiladu gwytnwch a chynnal eu lles meddyliol.
Dywedodd Sue Walker, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Mae’r prosiect hwn yn cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, sydd wedi dod yn fater llawer mwy pwysig iddyn nhw o ganlyniad i’r pandemig. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda’r bobl
ifanc yn ystod y broses ymgeisio ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu’r gwaith hwn, diolch i’r grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.”
Dyfarnwyd £1,226,800 i Brosiect Ieuenctid Ceredigion, Ein Dyfodol Ni, a fydd yn cefnogi pobl ifanc ledled Ceredigion a Gorllewin Cymru. Bydd Partneriaeth Ceredigion yn darparu cyfleoedd i’r bobl ifanc fynegi eu hunain, gan lywio cyfeiriad y prosiect a chyd-gynhyrchu gweithgareddau’r dyfodol i wella gwytnwch a iechyd meddwl pobl ifanc ledled Ceredigion.
Dywedodd Sabina O'Donoghue, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, un o bartneriaid y prosiect: “Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Gwasanaeth Cymorth Aberystwyth i Fyfyrwyr a Thîm Yr Hen Goleg wrth eu boddau i dderbyn y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae ‘Ein Dyfodol Ni’ yn rhoi cyfle unigryw i ni weithio â’n partneriaid ledled Ceredigion i greu newid go iawn. Trwy’r prosiect hwn, ein nod yw gwella cyfeiriadau, llwybrau i gymorth ac argaeledd mannau diogel, cynhwysol. Gallai hyn wneud newid enfawr i iechyd meddwl a lles pobl ifanc o fewn ein cymunedau.”
Mae prosiectau eraill sydd wedi derbyn grantiau’n cynnwys One Voice - New Future a arweinir gan Oasis yng Nghaerdydd, Minding Futures yng Ngwent a arweinir gan ProMo-Cymru, Maniffesto Iechyd Meddwl - Gweithredu ar gyfer ein Dyfodol a arweinir gan Lesiant Rhieni Sengl CIC, HarMINDise a arweinir gan Y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Abertawe, Partneriaeth Meddwl Ymlaen Gogledd-Ddwyrain Cymru a arweinir gan The Venture Ltd yn Wrecsam a Power Up a arweinir gan Platfform for Change. Gallwch weld rhestr lawn y grantiau a ddyfarnwyd yng Nghymru yma.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y cyllid rydyn ni wedi’i gyhoeddi heddiw trwy’r rhaglen Meddwl Ymlaen yn cefnogi prosiectau a fydd yn gwella iechyd a gwytnwch pobl ifanc yng Nghymru. Rydyn ni wrth ein boddau bod y naw partneriaeth hyn yn mynd i fod yn gweithio ledled Cymru i greu newid go iawn i fywydau pobl ifanc.
“Dyluniwyd Meddwl Ymlaen gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer. Yn ôl yn 2020, gweithion ni â thîm amrywiol o bobl ifanc ledled Cymru, a wnaeth waith ymchwil i bryderon pobl ifanc yn eu cymunedau. Dywedon nhw wrthyn ni mai, o’u prif bryderon a diddordebau, iechyd meddwl da a dyfodol gwydn i bobl ifanc yng Nghymru oedd eu blaenoriaeth bwysicaf. Bydd Meddwl Ymlaen yn helpu cyflawni hynny.”
Dywedodd Eva Roke, 23, peiriannydd ac aelod o Dîm Llais Ieuenctid Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Rwy’n falch fy mod wedi helpu creu Meddwl Ymlaen.
Mae mor bwysig oherwydd pobl ifanc, fy nghyfoedion, yw’r dyfodol. Ni fydd y peirianwyr, gwyddonwyr a’r artistiaid i fynd i’r afael â newid hinsawdd, stopio llwgu a hybu morâl. Mae ymgynghori â phobl ifanc a’u cefnogi yn y rhaglen bwysig hon wedi bod yn brofiad gwych. Bydd y cyllid hwn gan y Loteri Genedlaethol yn gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl ifanc nawr a chenedlaethau’r dyfodol.”
I ddysgu rhagor am grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, neu i ymgeisio, ewch i tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru