Cymunedau’n dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines ledled y DU diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol
Daeth cymunedau ledled y DU ynghyd dros benwythnos y Jiwbilî Platinwm i ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus Ei Mawrhydi y Frenhines, gyda channoedd o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal diolch i gefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU.
Roedd disgwyl i hyd at 25 miliwn o bobl ymuno â dathliadau yn eu cymuned leol dros benwythnos gŵyl y banc, yn ôl ymchwil diweddar* gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Diolch i £4.5 miliwn o gyllid Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd i 91 o brosiectau cymunedol dylanwadol ledled y DU trwy Gronfa’r Jiwbilî Platinwm, fel rhan o gyfraniad ehangach o £22 miliwn tuag at y Jiwbilî Platinwm gan y Loteri Genedlaethol, darparwyd cyfleoedd i bobl ddod ynghyd i nodi’r achlysur pwysig hwn.
Cynhaliwyd un o’r digwyddiadau dathliadol hyn yn Rochester ar Ddydd Iau 2il o Fehefin, lle ymunodd Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Blondel Cluff CBE, ag Intra Arts, grŵp a dderbyniodd £50,000 i ddod â phobl ynghyd ar gyfer y Jiwbilî Platinwm. Lansiodd y digwyddiad ddechrau prosiect dwy flynedd i ddathlu ‘Breninesau lleol’ – menywod hanesyddol a chyfoes sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym Medway.
Dywedodd Xtina Lamb, Cyfarwyddwr Intra Arts: “Roeddem ni’n hynod falch i lansio The Cut Of Her Cloth – prosiect sy’n amlygu menywod arweiniol, o’r gorffennol a’r presennol, sydd wedi byw yn nhrefi Medway neu sydd â chysylltiad cryf â nhw, ac wedi arloesi mewn ffyrdd a wnaeth wahaniaeth i fywydau pobl. Roeddem wrth ein boddau i gael Blondel Cluff CBE yma i ymuno â’n dathliadau, wrth i ni ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ein galluogi i nodi’r achlysur unigryw hwn gyda lansiad prosiect mor arbennig. Ar ôl anawsterau’r blynyddoedd diweddar, roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau diwrnod creadigol, sgyrsiau a cherddoriaeth gyda’i gilydd. Mae eu brwdfrydedd wedi ein cyffroi wrth i ni ddechrau cynnal y prosiect dwy flynedd hwn ac rydym yn edrych ymlaen at y ffyrdd y bydd yn dod â chymaint o rannau o’n cymuned ynghyd.”
Cynhaliodd People and Animals UK, sydd wedi derbyn bron £50,000 o gyllid y Loteri Genedlaethol, de parti ar Ddydd Mercher 1af o Fehefin ar ei fferm yn Norfolk. Roedd y gymuned leol yn gallu cymryd rhan gan drin ceffylau, bwydo defaid a gwehyddu helyg
Dywedodd Katie Bristow, Cyfarwyddwr People and Animals UK: “Rydym wedi bod mor lwcus i gael cyllid y Loteri Genedlaethol i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm. Rydym ni’n datblygu ‘Walks to Wellbeing’ – prosiect rhwng cenedlaethau lle’r ydym ni’n ehangu’r fferm gyda llwybrau cerdded. Rydym ni’n cefnogi’r rhai hynny sy’n byw â dementia, eu gofalwyr a’u partneriaid, trwy eu hannog i ddod, gweithio gyda’n pobl ifanc ac oedolion, integreiddio â’r gymuned gan weithio gyda’n hanifeiliaid, garddio, gwneud gwaith pren a chrefftio. Diolch o galon i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am roi’r cyfle i ni ddod â’n cymuned ynghyd, hen ac ifanc, i weithio gyda’n gilydd a gwneud hwn yn lle gwell i fod.”
Roedd digwyddiadau eraill yn cynnwys parti stryd yn Redbridge, Llundain, a gynhaliwyd gan Empowering Deaf Society a ddaeth â’r cymunedau byddar a chlywed lleol ynghyd, a gweithgareddau creadigol gan Dingy Butterflies i deuluoedd yn Gateshead, gan gynnwys teithiau cerdded ym myd natur, gan helpu pobl i ddysgu rhagor am wenyn a’r amgylchedd.
Fel rhan o’u grant o bron i £45,000, cynhaliodd Enbarr Foundation CIC ‘Operation Street Party’ yn Sir y Fflint, Cymru ar Ddydd Sadwrn 4ydd o Fehefin. Roedd y digwyddiad yn cynnwys gwirfoddolwyr y grŵp yn cymryd rhan mewn cerfluniau pren, gyda’r bwriad o greu a chwblhau cerflun mawr o goron a draig. Cynhaliwyd gweithgareddau garddio, celf a chrefft a gemau stryd o’r 1950au hefyd yn ogystal â cherddoriaeth fyw, gan ddod â channoedd o bobl leol ynghyd.
Mae Headhunters Railway Museum yn Enniskillen, Gogledd Iwerddon, a dderbyniodd £10,000 o gyllid y Loteri Genedlaethol, yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol am ddim yn Fermanagh o Ddydd Iau 2il i Ddydd Sul 12fed o Fehefin. Mae hyn yn cynnwys seremoni goleuo, diwrnod hwyl i’r teulu gydag arddangosfa Lluoedd Arfog, Cinio Mawr y Jiwbilî ac arddangosfa o’r enw ‘Our Coronation Story’, sy’n dangos dillad unigryw o seremoni’r coroni, cofroddion, atgofion gan bobl leol, a’r dillad a wisgwyd gan Ei Mawrhydi y Frenhines pan ymwelodd â Gogledd Iwerddon yn 2012 ar gyfer y Jiwbilî Diemwnt.
Yn yr Alban, nododd de parti Jiwbilî Mad Hatters ar Ddydd Sul 5ed o Fehefin ddechrau prosiect gan The Glencorse Community Association. Wedi’i leoli ym Midlothian, derbyniodd dros £49,000 i droi ardal adfeiliedig yn ‘Queen’s Jubilee Legacy Tea Garden’ lle y bydd amrywiaeth o weithdai addysgiadol am fywyd gwyllt lleol, tyfu cynnyrch a lleihau carbon yn cael eu cynnal. Bydd yr ardd hon hefyd yn cynnwys man chwarae naturiol i blant, pwll bywyd gwyllt sy’n ddiogel i blant a man ymlacio i bobl ag anghenion synhwyraidd ychwanegol.
Rhan allweddol o benwythnos y Jiwbilî Platinwm oedd Cinio Mawr y Jiwbilî, a gefnogwyd gan £2.3 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol. Daeth y fersiwn Jiwbilî hon o’r digwyddiad Cinio Mawr blynyddol â miliynau o bobl ynghyd, gan helpu cymunedau ledled y DU i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm.
Cynhaliwyd un o ddigwyddiadau Cinio Mawr y Jiwbilî yn The Oval yn Llundain ar Ddydd Sul 5ed o Fehefin, lle ymunodd Blondel Cluff CBE a Phrif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, David Knott â Thywysog Cymru a Duges Cernyw i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm, ar y cyd â gwirfoddolwyr ysbrydoledig sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn eu cymunedau.
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Roedd hi’n wych i rannu’r adeg hon i anrhydeddu’r Jiwbilî Platinwm gyda chymaint o gymunedau a grwpiau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Ein hamcan gyda chyllid y Jiwbilî Platinwm oedd nid yn unig i ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth ffyddlon Ei Mawrhydi y Frenhines, ond i helpu adeiladu etifeddiaeth o’r achlysur pwysig hwn i gymunedau ledled y DU. Diolch i waith caled grwpiau cymunedol ymroddedig a chefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu dangos pŵer ysbryd cymunedol y genedl, yr wyf i’n ffyddiog y byddwn yn adeiladu etifeddiaeth aruthrol arno.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn** yr wythnos at achosion da ledled y DU.
Mae grantiau hyd at £10,000 gan raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol - sy’n rhoi bron i £80 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol ym mhob rhan o’r DU bob blwyddyn - yn dal i fod ar gael i ddigwyddiadau a arweinir gan y gymuned drwy gydol 2022 i ddathlu blwyddyn y Jiwbilî Platinwm.
I ddysgu rhagor, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig