Mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn agor i geisiadau, gyda hyd at £8 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer cymunedau sy’n canolbwyntio ar natur a newid hinsawdd
Heddiw, mae Cronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gwneud hyd at £8 miliwn ar gael i brosiectau cymunedol ledled y DU sy’n canolbwyntio ar y cyswllt rhwng natur a hinsawdd.
O heddiw, mae grwpiau’n gallu ymgeisio am gyllid y Loteri Genedlaethol hyd at £1.5 miliwn dros ddwy i bum mlynedd i gefnogi partneriaethau DU-cyfan sy’n seiliedig ar le sy’n defnyddio natur i annog mwy o weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned a helpu cymunedau i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn disgwyl i’r rhan fwyaf o brosiectau dderbyn rhwng £300,000 a £500,000, ond mae grantiau datblygu rhwng £50,000 a £150,000 dros 12 i 18 mis hefyd ar gael i’r cymunedau hynny sydd am ddatblygu syniadau cychwynnol.
Mae ymchwil gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dangos fod dros hanner o bobl (54%) yn y DU yn poeni am effaith yr hinsawdd ar eu cymuned leol.* Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’r 48 o brosiectau sy’n rhan o’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd ar hyn o bryd, cronfa £100 miliwn deng mlynedd sy’n cefnogi pobl a chymunedau i leihau eu hôl-troed carbon i gyrraedd sero net, gan helpu pobl a chymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae deiliaid grant y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn gweithio gyda’i gilydd, yn rhannu eu dysgu ac yn gyfranogwyr gweithredol mewn mudiad ehangach o newid.
Dywedodd Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Gwyddom fod gan gymunedau rôl fawr i’w chwarae o ran yr argyfwng hinsawdd, ac rydym yn gyffrous i dderbyn ceisiadau i’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd unwaith eto i gefnogi gweithredu hinsawdd.
“Rydym ni’n bwriadu darparu cyllid y Loteri Genedlaethol i brosiectau ledled y DU sy’n archwilio cysylltiadau dyfnach â natur, yn newid ymddygiad ac yn dod â natur yn ôl i’r llefydd yr ydym ni’n gweithio ac yn byw ynddynt, gan helpu cymunedau i leihau neu addasu i effeithiau newid hinsawdd.”
Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn asesu ceisiadau i’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd ar sail dreigl ac yn adolygu’r ffocws thematig o natur a hinsawdd tua diwedd y flwyddyn.
Ers 2017, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu dros £410 miliwn gyda mwy na 7,000 o grantiau sy’n ymwneud â gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a’r amgylchedd naturiol. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos ledled y DU at achosion da.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig