Dros £4 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol wedi’i ddyfarnu i grwpiau cymunedol ledled Cymr
Mae 81 o brosiectau cymunedol yn dathlu derbyn cyfran o £4,221,789 o gyllid y Loteri Genedlaethol a godwyd diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r grwpiau cymunedol hyn yn gofalu am eu cymunedau drwy gynnig cefnogaeth emosiynol trwy wasanaeth therapi ar-lein a gweithgareddau am ddim er mwyn gwella lles corfforol.
Gyda chefnogaeth grant £423,075, bydd Solva Care yn Sir Benfro’n darparu cefnogaeth uniongyrchol i gymunedau er mwyn bodloni eu hanghenion a fynegir. Bydd y prosiect yn adeiladu ar waith eu prosiect “Together for Change” trwy gefnogi cymunedau i gynnwys cynaliadwyedd fel rhan o brosiectau i wella lles cymunedol. Byddan nhw hefyd yn cefnogi gweithredu cymunedol a phenderfyniadau trwy brosiectau mentora, gweithdai a digwyddiadau sy’n dod â chymunedau ynghyd i gefnogi ei gilydd.
Dywedodd Jessie Buchanan, Cydlynydd Together for Change ragor wrthym am y prosiect: “Crëwyd Together for Change gan yr elusen ar lawr gwlad fach Solva Care. Cafodd ei sefydlu ar sail y gred er mwyn i gymunedau ffynnu a chael dyfodol, mae angen iddyn nhw gysylltu, adeiladu ar eu cryfderau a rhannu pŵer. Rydym wrth ein boddau i dderbyn y grant hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a fydd yn ein galluogi i barhau â’n gwaith gyda chymunedau a sefydliadau partner. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu pobl i gynhyrchu, rhannu a defnyddio gwybodaeth am y cymunedau a gweithredu cymunedol, fel bod yr amodau gorau’n cael eu creu i bawb fyw’n dda.”
Derbyniodd Epilepsy Action Cymru grant £328,875 i ddarparu gwasanaeth therapi siarad dwyieithog ar-lein. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol i oedolion ag epilepsi yng Nghymru. Bydd y gwasanaeth am ddim, yn hygyrch ac yn briodol ar gyfer anghenion unigol, gan gynnig sesiynau un wrth un a therapi grŵp. Mae Epilepsy Action Cymru yn cefnogi pawb sy’n byw gydag epilepsi, yn codi ymwybyddiaeth ac yn ymgyrchu am effaith y cyflwr niwrolegol hwn ar y rhai hynny sy’n cael eu heffeithio a’u teuluoedd.
Mynegodd Jan Paterson, Rheolwr Epilepsy Action Cymru ei chyffro am y cyllid gan ddweud: “Rydym wrth ein boddau i dderbyn dros £328,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’n helpu i lansio ein Gwasanaeth Lles yng Nghymru. Mae epilepsi’n effeithio ar dua 32,000 o bobl yng Nghymru ac yn gallu cael effaith ysgubol ar fywydau pobl a’u teuluoedd. Mae siarad â rhywun yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a helpu pobl i deimlo’n llai unig. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn darparu mynediad amserol i therapi siarad i bobl sy’n cael eu heffeithio gan epilepsi ledled Cymru.”
Derbyniodd Samariaid Casnewydd a Gwent grant £9,200 i gynyddu eu capasiti i ddarparu cefnogaeth emosiynol gyfrinachol, anfeirniadol i bobl sy’n profi teimladau o ofid a thrallod. Bydd eu lleoliad yn cael ei adnewyddu er mwyn darparu mwy o le i wirfoddolwyr gefnogi’r rhai hynny sydd mewn angen.
Dywedodd rheolwr prosiect gwirfoddol, Sharon Beckett:
“Roedd gwirfoddolwyr yn Samariaid Casnewydd a Gwent yn hynod gyffrous i ddysgu eu bod wedi derbyn swm gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a fydd yn helpu adnewyddu eu hadeilad newydd. Roedd hi’n hyfryd cael y lefel hon o gefnogaeth sy’n golygu y gall Casnewydd a Gwent ehangu eu gwasanaethau ar gyfer pobl mewn trallod. Bydd yr adeilad newydd, ar Lôn Waters yng nghanol Casnewydd, yn cael ei ddefnyddio i ateb galwadau, e-byst a sgyrsiau gwe 24/7. Bydd ystafell gymunedol lle bydd croeso i elusennau a sefydliadau ei defnyddio fel hwb a phwynt cyfarfod.
Derbyniodd The Big Skill CIC ym Mhowys grant £10,000 i gynnal pedwar gweithdy crefft ac ailgylchu pum wythnos o hyd lle gall cyfranogwyr ennill cymhwyster unwaith y mae’r cwrs yn cael ei gwblhau. Gall hyn arwain at leoliadau gwaith mwy hirdymor. Bydd hyn yn cynyddu lles y buddiolwyr, hyrwyddo rhyngweithiad cadarnhaol a chynyddu dealltwriaeth amgylcheddol gan helpu pobl i ennill sgiliau hanfodol newydd.
Dywedodd Trevor Stringer, Cadeirydd Big Skill CIC; “Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi lansiad ein prosiect Crafts, Chat & Reciprocity. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect mewn pum canolfan wahanol, gan gynnig pum cwrs Agored Cymru achrededig, o weithdai helyg yn Muse Aberhonddu i'r grefft draddodiadol ‘line & wash’ yn Aberdâr. Rydym ni’n chwilio am gyfranogwyr sy’n gallu buddio o’r cyfoethogiad sgiliau mewn sesiwn crefftau a sgwrsio cyfeillgar yn ogystal â chanolfannau a sefydliadau/busnesau sy’n gallu cynnig lleoliadau blasu.’
Derbyniodd Bowel Cancer Support North Wales yn Wrecsam grant £1,200 i barhau i gynnal grwpiau cymorth i’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio gan ganser y coluddyn. Mae’r grwpiau cymorth hyn yn galluogi pobl i gyfarfod ag eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan Ganser y Coluddyn ac yn gallu siarad yn rhydd ac mewn amgylchedd diogel. Mae’r grŵp hefyd yn cynnal diwrnodau ymwybyddiaeth mewn lleoliadau lleol i hyrwyddo Ymwybyddiaeth am Ganser y Coluddyn, pwysigrwydd sgrinio a diagnosis cynnar.
Dywedodd Janet Lonsdale, Trysorydd Bowel Cancer Support North Wales: “Diolch i’r grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, byddwn ni’n gallu parhau i gynnal ein grŵp i gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan Ganser y Coluddyn a chodi ymwybyddiaeth ohono yn ein cymuned leol”.
Bydd Raw Performance ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu sesiynau ffitrwydd awyr agored am ddim ym Mhort Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, gan weithio i gefnogi pobl yn y gymuned o bob oedran sy’n dioddef o salwch corfforol neu feddyliol gwael. Bydd gweithgareddau’r prosiect yn annog pobl i fod yn fwy actif yn gorfforol, deall pwysigrwydd maeth a bwyta’n dda i gefnogi lles eu hunain.
Rhoddodd Louise Simons, cyfranogwr Raw Performance, ganmoliaeth i’r prosiect gan ddweud: “Prosiect gwych yw hwn gyda chymaint o fanteision da, gan wella
iechyd, ffitrwydd a lles meddyliol pawb sy’n mynychu. Mae fy mab 13 oed wrth ei fodd yn mynychu, nid yw wedi dod o hyd i fath o chwaraeon y mae’n ei fwynhau felly mae’n wych ei fod wedi dod o hyd i rywbeth y mae’n ei garu.”
Dymunodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, longyfarchiadau i’r holl sefydliadau, gan ddweud:
“Rydym ni’n falch i fod y cyllidwr gweithgarwch cymunedol mwyaf yn y DU, gan gefnogi grwpiau ac elusennau ar lawr gwlad sy’n gwneud pethau gwych, fel Solva Care a The Big Skill CIC. Mae’r Gronfa’n ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n dod â phobl ynghyd i gefnogi eu cymunedau, creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu datblygu sgiliau newydd. Heb gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da fel hyn drwy gydol y DU, ni fyddai prosiectau o’r fath yn gallu cyrchu’r gefnogaeth ariannol hon.”
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru