Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymateb i’r argyfwng costau byw gyda blaenoriaethau newydd.
Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol flaenoriaethau newydd ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n ymgeisio am gyllid i gefnogi cymunedau gyda’r argyfwng costau byw. Bydd angen i sefydliadau ddangos sut y byddan nhw’n bodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau sef:
- Cefnogi pobl, cymunedau a sefydliadau sy’n wynebu gofynion a heriau cynyddol fel canlyniad uniongyrchol i’r argyfwng costau byw.
- Cefnogi pobl, cymunedau a sefydliadau gydag effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol yr argyfwng costau byw.
- Cefnogi sefydliadau sy’n profi problemau llif arian o ganlyniad uniongyrchol i’r argyfwng costau byw.
Bydd y Gronfa’n gweithio i sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd lle mae ei angen cyn gynted â phosibl. Mae’r blaenoriaethau newydd yn eistedd ar y cyd â’r blaenoriaethau gwreiddiol a gall grwpiau cymunedol ddewis o dan ba rai y maen nhw’n ymgeisio.
Bydd y Gronfa yn cysylltu â delwyr grant presennol a gweithio gyda’r mudiadau yma i sicrhau hyfywedd eu prosiectau nhw, a bydd ariannu ychwanegol ar gael i brosiectau newydd sy’n edrych i wneud gwahaniaeth.
Mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn cefnogi pawb, gan gynnwys sefydliadau newydd a’r rhai hynny nad ydynt wedi ymgeisio o’r blaen. Bwriedir i’r broses fod yn syml ac mae’r sefydliad yn cynnig llinellau cyngor a sgyrsiau â staff i gefnogi pobl sy’n ymgeisio.
Eglurodd Cyfarwyddwr Cymru, John Rose: "Gwyddom fod yr argyfwng costau byw'n heriol i gymunedau ledled Cymru. Drwy gyflwyno'r blaenoriaethau ariannu hyn ynghyd â'n cynigion cyfredol, a rhoi hyblygrwydd i'n cwsmeriaid, rydym yn gobeithio cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol i ymdopi â'r anawsterau presennol a pharhau i gynnal cyfleusterau a darparu gwasanaethau sy'n hanfodol ar gyfer cymunedau Cymru.
“Byddwn ni'n dal i ddisgwyl i'r prosiectau a ariennir gennym i gael eu harwain gan gymunedau a'r bobl y maen nhw'n eu cefnogi, ac i ystyried mewnbwn y gymuned yn ystyrlon yn ystod pob cam. Bydd y grantiau yr ydym ni'n eu cynnig yn ein helpu i chwarae ein rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a rhoi mwy o sicrwydd i grwpiau cymunedol yn ystod yr adeg bwysig hon."
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at achosion da. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth hanfodol i’w cymunedau trwy’r arian a godir ganddynt, ac rydym ni’n eu diolch am brynu eu tocynnau. Codir tua £30 miliwn yr wythnos at achosion da a bydd yr arian hwn yn helpu pobl i oroesi yn ystod yr adeg anodd hon.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru