Adroddiad newydd yn datgelu sut mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn hybu ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol
- Mae’r adroddiad newydd yn archwilio wyth ffordd y gall pobl hybu balchder mewn lle yn eu hardal leol
- Mae hyn yn cynnwys grymuso pobl i ddylunio a llywio lle maen nhw’n byw, gan wneud yr amgylchedd lleol i deimlo’n ddiogel ac edrych yn ddeniadol, a phwysigrwydd cefnogi lleoliadau cymunedol i ffynnu
- Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £3.4 biliwn (72,000 o grantiau) dros y pum mlynedd diwethaf, gan gefnogi gwaith hanfodol mewn cymunedau ledled y DU
- Mae hyn yn gyfystyr ag o leiaf un prosiect ym mhob cymdogaeth leol
- Mae dau draean (66%) o ddeiliaid grant yn rhoi cyfleoedd i bobl gymysgu ag eraill sy’n wahanol iddyn nhw, gan gyfrannu at falchder lleol, gwella iechyd meddwl a lleihau unigrwydd.
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos sut mae cyllid y Loteri Genedlaethol yn trawsnewid y ffordd y mae pobl yn y DU yn teimlo am eu hardal leol, gan hybu eu hymdeimlad o falchder a pherthyn a chefnogi datblygiad cymdogaethau sy’n ffynnu.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgareddau cymunedol yn y DU, wedi buddsoddi dros £3.4 biliwn (72,000 o grantiau) mewn cymunedau dros y pum mlynedd diwethaf, gan gefnogi o leiaf un prosiect mewn bron pob cymdogaeth leol. Mae’r adroddiad, ‘O gymdogion i gymdogaeth: dysgu sut i hybu balchder mewn lle’ yn edrych ar effaith y cyllid hwn a sut mae hyn wedi cyfrannu at ddealltwriaeth well o sut i feithrin a harneisio balchder lleol ac ymdeimlad o berthyn.
Wrth i gymunedau wynebu heriau newydd, fel y costau byw cynyddol ac ail-adeiladu o’r pandemig COVID-19, mae’r ffactorau sy’n cyfrannu at falchder lleol yn dod yn fwyfwy pwysig.
Mae’r adroddiad yn archwilio wyth ffordd y gall pobl hybu balchder mewn lle yn eu hardal, ac mae pob adran yn cynnwys awgrymiadau a mewnwelediadau gan sefydliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Mae rhai o’r syniadau’n cynnwys grymuso pobl i ddylunio a llywio lle maen nhw’n byw, gan wneud i’r amgylchedd lleol deimlo’n ddiogel ac edrych yn ddeniadol, a phwysigrwydd cefnogi lleoliadau cymunedol i ffynnu.
Mae’n amlygu bod grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyfrannu at fuddion cymunedol sy’n hybu balchder mewn lle, gan gynnwys cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â’u cymuned (60%), cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau (56%), a chael ymdeimlad cynyddol o berthyn (42%). Yn y cyfamser, mae dau draean (66%) o’i deiliaid grant yn rhoi cyfleoedd i bobl gymysgu ag eraill sy’n wahanol iddyn nhw, ac mae’r grantiau hynny’n fwy tebygol na’r cyfartaledd i gynyddu cyswllt cymdeithasol, gwella iechyd meddwl, hybu hunanhyder a lleihau unigrwydd.
Lansiwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, David Knott, yn ystod ymweliad ag Upper Norwood Library Hub yn Ne Llundain, un o’r grwpiau cymunedol dan sylw yn yr adroddiad, sydd wedi cynyddu ymdeimlad o berthyn yn ei gymdogaeth yn llwyddiannus.
Gyda chefnogaeth Power to Change a diolch i dros £132,000 o gyllid Loteri Genedlaethol, ffurfiodd y gymuned leol ymddiriedolaeth a dechreuon nhw redeg Upper Norwood Library Hub chwe blynedd yn ôl. Mae bellach yn croesawu 13,000 o bobl trwy’r drysau bob mis, i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gwyliau celfyddydol, sesiynau rhieni a phlant a dosbarthiadau cynhwysiant digidol.
Yn ogystal ag Upper Norwood Library Hub, mae’r adroddiad yn trafod amrywiaeth o brosiectau cymunedol ledled y DU, megis Middlesbrough Environment City, a roddodd hyfforddiant i bobl leol i drawsnewid lonydd cefn blociau tai Fictoraidd Middlesbrough i fod yn fannau cymunedol bywiog yr oedd pobl yn teimlo’n falch ohonynt, a Fun Palaces, sy’n gweld cymunedau ledled y DU’n dod ynghyd i gynllunio a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol yn ystod penwythnos blynyddol ym mis Hydref.
Mae’r digwyddiadau hyn yn digwydd mewn mannau cymunedol, o’r stryd fawr i draethau ac eglwysi i dafarndai, gan helpu i’w agor i bobl o bob cefndir, i greu ymdeimlad o gydberthynas.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’r adroddiad hwn yn adrodd stori bwysig am werth llefydd, mannau a gweithgareddau cyfoethogi sy’n dod â phobl ynghyd, a’r effaith y gall y rhain ei chael ar deimlo’n gysylltiedig â’ch cymuned leol ac yn falch o le rydych chi’n byw.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, codir dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da, ac mae ein hadroddiad newydd yn amlygu enghreifftiau gwych o sut all yr arian hwn helpu cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae fy ymweliad ag Upper Norwood Library Hub wir wedi dod â hyn yn fyw, ac fel rhan o’r adroddiad hwn, fe fydd yn parhau i ysbrydoli a rhoi mewnwelediad i grwpiau cymunedol, awdurdodau a phobl eraill sy’n dymuno cynyddu balchder yn eu hardaloedd lleol hefyd.”
Dywedodd Jenny Irish, Cyfarwyddwr Upper Norwood Library Trust: “Mae cymuned wrth wraidd yr hyn a wnawn, felly rydym ni’n falch i gael ein cydnabod gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel catalydd i hybu balchder lleol. Diolch i gyfraniad sefydliadau fel Power to Change, a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae ein hased cymunedol wedi parhau i dyfu, a heddiw mae’n lle i bobl allu benthyg llyfrau, dysgu sgiliau newydd, cael mynediad at gelf a pherfformiad, ceisio cyngor am dorri costau ynni a gwella eu hiechyd a lles.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Mae dros wyth mewn deg (83%) o’i grantiau o dan £10,000 – gan fynd at grwpiau ac elusennau ar lawr gwlad ledled y DU sy’n dod â’r syniadau anhygoel sy’n bwysig i’w cymunedau yn fyw. I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig