John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd
Wrth glywed y newyddion am gael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Cymru):
“Rwyf wrth fy modd i dderbyn y wobr hon. Mae hi wedi bod yn anrhydedd gweithio i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ers 2003, ac yn yr amser hwnnw, bod yn dyst i’r gwaith anhygoel a wneir gan gymunedau diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol. Mae hi wedi bod yn bleser cyfarfod â’r bobl ysbrydoledig sy’n cynnal y prosiectau a ariennir gennym, sy’n cyffwrdd â bywydau pobl a’r cymunedau a gefnogir ganddynt ledled Cymru.”
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bawb yr wyf wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y blynyddoedd yn y sector gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat yng Nghymru, ond yn benodol i’r tîm anhygoel o gydweithwyr yn Y Gronfa.”
Mae John wedi mwynhau gyrfa amrywiol. Wedi hyfforddi fel cogydd cyn teithio’n rhyngwladol, aeth John ymlaen i astudio Systemau Amgylcheddol a Hydrobioleg Gymhwysol ym Mhrifysgol Cymru, cyn mynd ati i weithio i elusen amgylcheddol. Ymunodd â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2003. Mae’n arwain tîm y Gronfa yng Nghymru, yn ogystal ag arwain strategaeth amgylcheddol DU cyfan y Gronfa. Mae’n angerddol dros gymunedau ac yn wirfoddolwr brwd lle mae’n byw gyda’i deulu ym Machen, Caerffili.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru