Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn penodi Shane Ryan MBE fel Uwch Gynghorydd
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, wrth ei bodd i gyhoeddi penodiad Shane Ryan MBE fel Uwch Gynghorydd newydd. Mae’r penodiad yn gweld Shane, a dderbyniodd ei MBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn eleni, yn dychwelyd i’r sefydliad lle y bydd yn adrodd i’r Prif Weithredwr ac yn chwarae rôl hollbwysig wrth lywio sut fydd y Gronfa’n cynnig grantiau gwych i bob cymuned.
Mae’r penodiad uwch hwn yn dod ar adeg hollbwysig cyn lansiad strategaeth newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn nes ymlaen yn 2023. Bydd Shane yn gweithio ar draws y sefydliad ac yn agos gyda’r Uwch Dîm Rheoli a’r Bwrdd i lywio agweddau allweddol strategaeth y Gronfa ymlaen, gan sicrhau bod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) a lleisiau, cynhwysiant a chyfleoedd pobl ifanc wrth wraidd ei benderfyniadau.
Mae Shane yn ail-ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o’r Avast Foundation, lle bu’n gweithio fel y Cyfarwyddwr Gweithredol Byd-Eang. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Dirprwy Gyfarwyddwr ac Uwch Bennaeth Partneriaethau yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Phrif Weithredwr yr elusen arobryn, Future Men.
Mae Shane wedi treulio 25 mlynedd yn gweithio gyda chymunedau ac yn parhau i fod yn gynghorydd, siaradwr, ymgynghorydd ac awdur. Mae wedi bod yn Ymgynghorydd Strategol i Uned Ymateb Grenfell ac yn Ymgynghorydd Corfforaethol ar Arweinyddiaeth Foesegol, lles dynion, profiad gweithwyr, ymgysylltiad a mentrau amrywiaeth.
Bydd Shane yn dechrau ei rôl newydd ym mis Chwefror 2023.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae Shane yn cyrraedd ar adeg hollbwysig wrth i ni ddechrau strategaeth newydd i wasanaethu cymunedau orau yn y DU. Bydd ei brofiad helaeth yn hanfodol wrth i ni geisio adeiladu ar ein cynnydd, cyflawni gwelliannau parhaus a chreu newid a fydd yn sicrhau ein bod ni a’n cyllid yn addas i gefnogi cymunedau i’r dyfodol.
“Ein gweledigaeth yw galluogi pob cymuned i fanteisio ar gyllid y Loteri Genedlaethol a datgloi’r potensial anhygoel, yn enwedig ymysg pobl ifanc. Rwyf wrth fy modd i weithio gyda Shane eto ac yn edrych ymlaen at weld beth fydd ei egni, eiriolaeth a chymhelliant entrepreneuraidd yn ein galluogi i gyflawni dros y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Shane Ryan MBE, Uwch Gynghorydd newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’n bleser dychwelyd i’r sefydliad ar yr adeg gyffrous hon. Mae cydnabyddiaeth go iawn fod angen gwneud mwy i sicrhau bod ein holl gymunedau’n gallu manteisio ar gyllid Loteri Genedlaethol trawsnewidiol beth bynnag yw eu pwynt cychwyn.
“Fy rôl i yw cefnogi’r Gronfa wrth iddi geisio sicrhau bod ei gwaith wedi’i wreiddio mewn cymunedau nawr ac yn cael ei llywio ar gyfer heriau’r dyfodol. Yr hyn sy’n allweddol i hynny yw sicrhau bod lleisiau amrywiol, gan gynnwys ieuenctid talentog, yn cael eu hadlewyrchu yn ein meddyliau a phenderfyniadau yn y dyfodol.”
Gan groesawu’r penodiad, dywedodd Stephen Bediako OBE, Cyd-sylfaenydd Pathway Fund, Black Global Trust a The Social Innovation Partnership: “Fel un o gyllidwyr sengl mwyaf daioni cymdeithasol elusennol yn y Deyrnas Unedig, mae’n hanfodol bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bob amser yn ceisio darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i gymunedau ffynnu, gan rymuso cymunedau i weithredu, a’u galluogi i gael effaith ystyrlon ar bobl.
“Mae’n gam cadarnhaol ymlaen, ac yn rhoi sicrwydd, i weld Shane Ryan yn dychwelyd fel Uwch Gynghorydd ar yr adeg hon. Bydd ei brofiad, mewnwelediadau a phersbectif ond yn cryfhau gallu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ymgysylltu a chreu effaith gyda’i randdeiliaid dros y blynyddoedd hollbwysig nesaf. Bydd ymrwymiad Shane i ddulliau arloesol i ddyngarwch a defnyddio arbenigedd pobl ifanc i’r effaith lawn yn gyffrous ar gyfer y dyfodol. Yn benodol, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Shane, arweinwyr y Loteri Genedlaethol a chydweithwyr eraill wrth lywio arloesedd, menter ac ysbryd entrepreneuraidd i gyflawni effaith ar gyfer ein cymunedau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd Yvonne Field, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr The Ubele Initiative a Chynullydd Cenedlaethol The Phoenix Way: “Rwyf wrth fy modd bod Shane Ryan yn dychwelyd i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol; mae wedi dangos ymrwymiad gydol oes a gwirioneddol i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac o ran hil i gymunedau sy’n aml yn profi ymyleiddio ac eithrio.
“Gweithredodd ei sgiliau a phrofiad o greu newid fel catalydd allweddol ar gyfer y Phoenix Fund yn ystod y pandemig. Mae ei gefnogaeth barhaus o’n gweledigaeth wedi gweld ein gwaith yn ffynnu a thyfu i fod The Phoenix Way. Rwyf i a phartneriaid Phoenix yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda Shane a’i gydweithwyr yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros y flwyddyn nesaf.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Dros y 12 mis diwethaf, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r Gronfa wedi dosbarthu bron i £600m trwy dros 14,000 o grantiau, gan roi cyllid trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU.
Mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaeth allweddol i’r sefydliad ac mae eisoes wedi gwneud camau arwyddocaol y mae’n bwriadu adeiladu arnynt. Dros y 5 mlynedd diwethaf, dyfarnwyd dros £606 miliwn i gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynrychioli 21% o’r holl ariannu, a dosbarthwyd £269m trwy bron i 8,000 o grantiau i gefnogi cymunedau lleiafrifol ethnig. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn unig (21/22), rhoddwyd £98m mewn grantiau i gefnogi cymunedau lleiafrifol ethnig – y swm uchaf mewn 7 mlynedd.
Yn ogystal â chefnogi pobl a chymunedau i ymdopi gyda phwysau costau byw, yn 2023 mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn edrych ymlaen at groesawu ceisiadau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau cymunedol i ddathlu pen-blwydd Windrush yn 75 a’r cyfraniad enfawr y mae pobl Windrush a’u teuluoedd wedi’i wneud i’r DU.
Mae’r Gronfa hefyd yn chwilio am geisiadau sy’n bwriadu cefnogi cymuned Wcráin yma yn y DU, gan gydnabod yr heriau a wynebir ganddynt ac adlewyrchu ar y ffaith bod y DU yn cynnal Eurovision ar ran Wcráin eleni.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig