Croeso i 2023 – neges ar gyfer y Flwyddyn Newydd gan David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Croeso i 2023. Wrth i ni gychwyn ar Flwyddyn Newydd, hoffwn i adlewyrchu ar y flwyddyn a fu ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.
Bu 2022 yn flwyddyn gythryblus arall. Ar ôl dwy flynedd o fyw trwy pandemig byd-eang, dechreuodd y gwrthdaro mawr yn Wcráin a gwelsom bwysau costau byw cynyddol yn effeithio ar gymunedau yn y DU.
Ymysg yr heriau hyn, roedd adegau o obaith. Wrth i gyfyngiadau’r pandemig leihau, dechreuom fwynhau’r llefydd, mannau ac achlysuron eto sy’n dod â ni ynghyd fel pobl ac yn rhyddhau pŵer anhygoel cymuned.
Gwnaethom ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines Ei Mawrhydi, galaru ei marwolaeth, a dathlu llwyddiannau chwaraeon mawr gyda’n gilydd.
Roedd Y Loteri Genedlaethol yna bob cam o’r ffordd, bob tro.
Crynodeb o’r Flwyddyn yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
2022 oedd fy mlwyddyn lawn gyntaf fel Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Codir £30 miliwn at achosion da bob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, a dros y flwyddyn ddiwethaf, cefais y cyfle i weld y gwahaniaeth anhygoel y mae’r arian hwnnw yn ei wneud.
Teithiais ledled y DU a gwrando a dysgu gan waith ysbrydoledig a diflino elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr. Yn y pedair gwlad, mewn dinasoedd, trefi a phentrefi gwledig, gwelais grwpiau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy’n wydn ac yn benderfynol o greu newid parhaol i’r cymunedau y maen nhw - ac yr ydym ni - yn eu gwasanaethu.
Y llynedd, dyfarnwyd bron i £600 miliwn o gyllid trawsnewidiol gennym i gymunedau ledled y DU, gan gefnogi 14,000 o brosiectau i droi eu syniadau gwych yn realiti. Roedd dros wyth o bob deg (83%) o’n grantiau hyd at £10k – gyda sawl un yn mynd at grwpiau ac elusennau ar lawr gwlad sy’n bwysig i’w cymunedau.
Hoffwn dalu teyrnged i’n staff gweithgar a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a wnaeth hi’n bosibl i ni gefnogi prosiect cymunedol rhywle yn y DU bob saith munud.
Hoffwn ddiolch yn enwedig i’r grwpiau, prosiectau a gwirfoddolwyr a ariennir gennym am gefnogi pobl a chymunedau trwy adegau da a gwael, beth bynnag yr heriau.
Felly beth sydd ar y gweill yn 2023 ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol?
Rydym Ni Yma i Chi
Rydym yn cydnabod y pwysau costau byw parhaus sy’n wynebu cymunedau a bydd eich cefnogi’n flaenoriaeth i ni. Yn fuan, byddwn ni’n rhannu canlyniadau ein Mynegai Ymchwil Cymunedol blynyddol, sy’n arolygu dros 8,000 o oedolion. Mae’n mentro’n ddyfnach i sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau a’u huchelgeisiau ar gyfer eu hardal leol dros y flwyddyn sydd i ddod. Heb ddweud gormod, bydd stori’r canlyniadau’n gyfarwydd i nifer ohonom, gyda gobaith a lle am gyfleoedd yn cael eu gosod yn erbyn heriau ac argyfwng dyfnach.
Mae’r canlyniadau’n dweud wrthym am yr ymdeimlad o gymuned sy’n bwysig i’r DU, gyda chysylltiadau cymunedol ac amcanion gwirfoddoli yn cryfhau. Mae hefyd yn dweud wrthym fod heriau a chaledi, yn yr un modd ag yn ystod y pandemig, yn ein tynnu’n agosach ac yn ein hangori’n gadarn i’r bobl o’n hamgylch. Ond mae hefyd yn datgelu fod cymunedau’n darogan pwysau cynyddol ar wasanaethau cymunedol ac y bydd banciau bwyd, cyngor am ddyled ac elusennau iechyd meddwl ar flaen galw uchel a chynyddol.
Mae ein neges yn syml: rydym ni yma i chi. Fel y gwnaethom addasu yn ystod y pandemig, rydym yn hyblyg ac ymatebol o ran y gefnogaeth a gynigiwn. Rydym yn disgwyl ymrwymo dros £75m yn barod i gefnogi cymunedau gyda chostau byw eleni. A byddwn ni’n parhau i adolygu hyn fel y gallwn ni sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi ein deiliaid grant i gynnal eu gwaith hanfodol ar gyfer cymunedau.
Strategaeth Newydd hyd at 2030
Yn 2023, byddwn ni’n lansio ac yn cynnal strategaeth newydd hyd at 2030. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae nifer ohonoch wedi bod yn hael gyda’ch amser ac egni, gan gyfrannu syniadau ac adborth o ran sut allwn ni sicrhau ein bod ni, a’n cyllid, yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf y gallwn. Fel y trafodais mewn blog diweddar, rydym wedi gwrando ac adlewyrchu’n feddylgar am beth rydym ni’n ei ariannu a sut. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
Rydym ni nawr wrthi’n gwirio ac adeiladu’r strategaeth hon. Byddwn ni’n edrych yn agosach ar sut rydym ni’n canolbwyntio ar rai o’r heriau cymdeithasol allweddol a wynebir gennym fel cymdeithas – yn enwedig yr hinsawdd a’r amgylchedd, iechyd a lles, a chyfleoedd i blant a phobl ifanc. Byddwn ni’n sicrhau bod tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant, a’r syniad bod cyllid y Loteri Genedlaethol i bawb, wrth wraidd ein meddyliau.
Yn olaf, byddwn ni’n herio ein hunain i gyfoethogi ein ffyrdd o weithio ein hunain – o sut rydym ni’n gweithio mewn partneriaethau effeithiol i sut rydym ni’n cefnogi’r gymdeithas sifil ac yn dysgu o’n gwaith gyda chymunedau i lywio a dylanwadu ar y dyfodol, ac yn rhannu mewnwelediadau ohono.
Yn y cyd-destun hwn, rwyf wrth fy modd heddiw i gyhoeddi penodiad Shane Ryan MBE fel Uwch Gynghorydd. Mae Shane yn dychwelyd i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i chwarae rôl hanfodol wrth lywio sut y byddwn ni’n cynnig grantiau gwych i gymunedau nawr ac yn y dyfodol. Gyda’i gefnogaeth ef, byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n rhoi tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant a llais ieuenctid, cynhwysiant a chyfleoedd wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.
Adegau Allweddol i Edrych Ymlaen atynt a’n Busnes Cyson Arferol
Er na allwn ni darogan popeth sydd i ddod yn 2023, rydym eisoes yn edrych ymlaen at gefnogi adegau allweddol a fydd yn galluogi cymunedau i ddod ynghyd. Byddwn ni’n croesawu ceisiadau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau cymunedol i ddathlu Coroni’r Brenin ym mis Mai, a phen-blwydd Windrush yn 75 ym mis Mehefin i gydnabod y cyfraniad enfawr y mae pobl Windrush a’u teuluoedd wedi’i wneud i’r DU.
Rydym ni hefyd yn chwilio am geisiadau sy’n bwriadu cefnogi cymuned Wcráin yma yn y DU, gan gydnabod yr heriau a wynebir ganddynt ac adlewyrchu ar y ffaith fod y DU’n cynnal Eurovision ar ran Wcráin eleni.
Trwy gydol yr adegau hyn, a thrwy ba bynnag heriau a fydd yn dod yn 2023, rwy’n hyderus y byddwch chi’n gweld Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dangos ein hymrwymiad parhaus i roi cymunedau’n gyntaf yn gyson eleni.
Unwaith eto, diolch am eich cefnogaeth a’ch gwaith gyda ni yn ystod 2023. Dymuniadau gorau i chi a’ch sefydliadau yn 2023 a’n gwaith gyda’n gilydd.
David Knott
Gwyliwch ein fideo neges Blwyddyn Newydd
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig