2023: Ymchwil newydd yn dangos bod cysylltiadau cymunedol yn cryfhau er gwaethaf pwysau costau byw
Mae pobl ledled y DU yn darogan pwysau cynyddol ar wasanaethau cymorth cymunedol yn 2023, gyda disgwyliad i gostau byw cynyddol gynyddu’r galw am fanciau bwyd, cyngor dyledion ac elusennau iechyd meddwl. Ar yr un adeg, er gwaethaf pwysau personol a chartref, mae cysylltiadau cymunedol wedi cryfhau, ac mae mwy o bobl yn bwriadu gwirfoddoli yn 2023, gyda banciau bwyd yn debygol o elwa fwyaf o’u hymdrechion cymunedol:
- Blaenoriaethau lleol: mae dros hanner o oedolion y DU (55%) yn dweud mai cefnogi pobl gyda chostau byw cynyddol yw’r peth pwysicaf er lles eu cymuned leol
- Mae pobl yn darogan galw cynyddol yn lleol eleni ar gyfer banciau bwyd (81%), cyngor dyled (77%) a chymorth iechyd meddwl (75%) sydd wedi’i lywio gan bryderon costau byw
- Mae bron i hanner ohonom (49%) yn bwriadu gwirfoddoli yn 2023 gyda phobl ifanc (18 i 24 oed) yn arwain y ffordd (69%) – banciau bwyd sydd fwyaf tebygol o dderbyn cymorth, dyma’r ffocws ar gyfer pedwar ym mhob deg (42%) o’r rhai hynny sy’n bwriadu gwirfoddoli
- Cysylltiadau cymunedol yn cryfhau: mae tri chwarter o oedolion y DU (74%) yn dweud eu bod yn teimlo’n rhan o’u cymuned leol, gan godi o 69% yn 2020 – mae mwy ohonom yn dweud bod hyn yn bwysig i ni hefyd (69% o’i gymharu â 62% dwy flynedd yn ôl)
- Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymrwymo i gefnogi cymunedau’r DU ac ymateb i’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys yr argyfwng costau byw.
Wrth i’r DU groesawu blwyddyn newydd, mae Mynegai Ymchwil Cymunedol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dangos bod pobl ledled y wlad yn darogan pwysau cynyddol ar wasanaethau cymunedol lleol oherwydd effaith costau byw.
Mae wyth ym mhob deg (81%) yn dweud bod eu banciau bwyd lleol yn debygol o wynebu cynnydd mewn galw, ac mae tri ym mhob pedwar yn darogan cynnydd yn yr angen am gyngor a chymorth gyda dyledion (77%) ac elusennau a gwasanaethau iechyd meddwl (75%).
Bwriad yr arolwg blynyddol o dros 8,000 o oedolion ledled y DU yw darganfod sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau, sydd yn ei dro’n helpu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, i ymateb.
Mae pryderon costau byw wedi cael effaith fawr ar flaenoriaethau pobl dros y flwyddyn nesaf. Mae dros hanner (55%) yn dweud mai cefnogi pobl gyda hyn yw’r peth pwysicaf er lles eu cymuned leol, ond mae hyn yn codi i dros chwech ym mhob deg o fenywod (61%).
Mae lleihau ynysrwydd ac unigrwydd (53%), a phobl yn gofalu am ei gilydd (50%) yn cael eu hystyried yn bwysig, a allai egluro pam bod amcanion gwirfoddoli’n gryf ar gyfer 2023.
Mewn gwirionedd, er gwaethaf pwysau personol a chartref, mae ychydig mwy o bobl (49%) yn bwriadu gwirfoddoli dros y flwyddyn nesaf (46% y llynedd) – gyda banciau bwyd fwyaf tebygol o dderbyn cymorth, dyma’r ffocws ar gyfer pedwar ym mhob deg (42%) o’r rhai hynny sy’n bwriadu helpu neu wirfoddoli.
Mae pobl ifanc yn arwain y ffordd gyda’u hymdrechion cymunedol, gyda saith ym mhob deg (69%) o bobl 18 i 24 oed yn bwriadu gwirfoddoli yn 2023.
Wrth wynebu caledi, mae gan hyd yn oed mwy o bobl – tri chwarter (74%) ledled y DU – ymdeimlad o gysylltiad gyda’u cymuned leol, y canran oedd 69% yn 2020. Mae teimlo’n rhan o’r gymuned hefyd yn fwy gwerthfawr, gyda 69% yn dweud bod hyn yn bwysig iddyn nhw, o’i gymharu â 62% dwy flynedd yn ôl.
Wrth feddwl am amgylchedd ffisegol eu cymuned, mae pobl yn nodi diogelwch ar y strydoedd (70%), cadw’r ardal yn ddeniadol (62%) a llefydd i fynd a phethau i’w gwneud i bobl ifanc (61%) fel blaenoriaethau lleol eleni.
Pum prif flaenoriaeth gymunedol ar gyfer 2023 | |
Amgylchedd ffisegol | Lles |
Diogelwch ar y strydoedd (70%) | Cefnogi pobl gyda chostau byw cynyddol (55%) |
Cadw’r ardal yn ddeniadol (62%) | Lleihau unigrwydd ac ynysrwydd (53%) |
Llefydd i fynd a phethau i’w gwneud i bobl ifanc (61%) | Pobl yn gofalu am ei gilydd (50%) |
Gweithgareddau cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd (53%) | Atal trais ieuenctid (42%) |
Cael mynediad at fannau naturiol, gwyrdd (51%) | Darparu gwasanaethau iechyd meddwl (42%) |
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’n glir y bydd y flwyddyn nesaf yn cael ei dominyddu gan bryderon costau byw a bydd hyn yn gymaint o flaenoriaeth i gymunedau ag y mae i unigolion. Er gwaethaf yr heriau a’r caledi y mae pobl yn eu hwynebu, mae’n glir bod ymdeimlad y DU o gymuned yn gryf ac mae hyd yn oed mwy o bobl, yn enwedig y genhedlaeth iau, yn teimlo wedi’u cymell i helpu eraill.
“Fel cyllidwr gweithgarwch cymunedol mwyaf y DU, ein pwrpas yw cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu. Rydym yn gwrando ar gymunedau a’r grwpiau a ariennir gennym ac yn ymateb yn hyblyg i’w hanghenion. Rydym yn deall y pwysau ac yn disgwyl ymrwymo dros £75 miliwn o gyllid i gefnogi gyda chostau byw dros y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn ymgymryd â phroses Adnewyddu Strategol i sicrhau bod ein cyllid a’n cefnogaeth i gymunedau’n addas at ei ddiben dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Gan gytuno gyda’r canfyddiadau, dywedodd Jane Johnson o Random Café yn Watford, sy’n derbyn cefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Nid yw’n syndod bod cefnogi pobl gyda chostau byw yn flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym wedi gweld cynnydd mewn cwsmeriaid yn cael trafferth ac yn defnyddio Random Café i dalu am eu siopa wythnosol, oherwydd rydym yn cynnig bwyd ar sail ‘talu fel y mynnoch’ oherwydd credwn y dylai fod gan bawb fynediad at fwyd.
“Credwn fod bod yn rhan o’r gymuned yn enwedig o bwysig, a allai egluro pam bod mwy o bobl yn bwriadu gwirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr gennym o bob oedran sy’n awyddus i gadw’r lle’n edrych yn ddeniadol a rhyngweithio gydag eraill, ond i rai, mae hyn yn rhan o’u hadferiad o heriau iechyd meddwl. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae gardd gymunedol gennym sy’n rhoi mynediad at fan werdd a lle cyfarfod cynnes gyda digwyddiadau i ddod â phobl o bob oedran ynghyd.”
Ychwanegodd Karen Fielder, Prif Weithredwr Top Church Training yn Dudley, grŵp cymunedol arall a ariennir gan y Loteri Genedlaethol: “Mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith arwyddocaol ar Dudley, ac rydym yn gweld bod pawb yn cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd – nid teuluoedd incwm isel yn unig.
“Rydym hefyd yn gweld cynnydd mewn pobl yn dod ynghyd yn eu cymunedau i wneud eu rhan. Mae nifer o’r bobl rydym yn eu cefnogi wedi cael trafferth fawr, wedi goresgyn rhai o’u heriau ariannol trwy ein cyngor budd-daliadau a chymorth rheoli dyledion, ac yna’n teimlo wedi’u grymuso a’u hysbrydoli i ddod yn wirfoddolwyr eu hunain. Ein gobaith yw y byddwn ni i gyd yn gallu bod yn wydn a chryf yn ystod yr adeg hon, gan hefyd creu ymdeimlad o gymuned ymysg ein defnyddwyr gwasanaeth a staff.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol y llynedd, dyfarnwyd dros hanner biliwn o bunnoedd (£588.2 miliwn) o gyllid trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig