Hyd at £10 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol ar gael i brosiectau sydd wedi’u llywio gan y gymuned ac yn canolbwyntio ar ynni a hinsawdd
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, yn cynnig hyd at £10 miliwn i brosiectau cymunedol ledled y DU sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng Ynni a Hinsawdd.
Bydd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd ar agor o ganol dydd ar Ddydd Iau 2 Mawrth i geisiadau o bob rhan o’r DU sy’n canolbwyntio ar brosiectau ynni sydd wedi’u llywio gan y gymuned ac yn gallu cynnig buddion amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae defnydd ynni mewn cartrefi ledled y DU, o wresogi, dŵr poeth a defnyddio offer trydan, yn cyfrif am tua 20% o allyriadau carbon y DU. Bydd newid sut rydym yn defnyddio ynni yn ein cartrefi yn helpu lleihau allyriadau carbon gan hefyd sicrhau manteision ariannol, iechyd a lles i bobl a chymunedau.
Mae gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd ddiddordeb mewn cefnogi prosiectau sydd wedi’u llywio gan y gymuned a fydd yn helpu cymunedau i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n codi wrth i ni symud tuag at ynni mwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Dywedodd Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae newid hinsawdd yn bwysig i bobl a chymunedau, felly mae’n bwysig i ni. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned ledled y DU a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn barhau i gynyddu ein huchelgais, ar ôl dyfarnu bron i hanner ein hymrwymiad £100 miliwn i brosiectau drwy’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
“Mae’r rhaglen ariannu newydd hon yn archwilio sut y gall prosiectau ynni sydd wedi’u llywio gan y gymuned ddarparu buddion amgylcheddol a chymdeithasol i bobl a chymunedau ledled y DU. Mae cymunedau mewn sefyllfa dda i chwarae rhan hanfodol yn ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd, a gall ymgysylltu â chymunedau mewn sgyrsiau am ynni yn lleol ysbrydoli gweithredu ar raddfa fawr a datblygu ymddygiad cynaliadwy hirdymor.”
Ers 2017, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu mwy na £480 miliwn drwy mwy na 8,000 o grantiau gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys gweithredu ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a’r amgylchedd naturiol.
Yn ogystal, rydym yn disgwyl ymrwymo dros £75 miliwn i gefnogi cymunedau gyda chostau byw yn ystod y flwyddyn nesaf, gan gynnwys yr ymrwymiadau hyd yma a hyblygrwydd ychwanegol wrth ddyfarnu grantiau. Os nad yw eich prosiect yn cyd-fynd yn llwyr â meini prawf y cyllid hwn, efallai y bydd rhaglenni ariannu eraill o fewn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar eich cyfer chi.
I ddysgu rhagor am ein ffocws newydd ar ynni a hinsawdd, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/funding/programmes/climate-action-fund-energy
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig