New £13 million National Lottery cash injection to support communities hit hardest by the rising cost-of-living
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, wedi cyhoeddi cyllid £13 miliwn hanfodol i gefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan gostau byw cynyddol. Bydd Buttle UK yn derbyn £10 miliwn a bydd Smallwood Trust yn derbyn £3 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol fel rhan o ymrwymiad costau byw £75 miliwn a wnaed gan y cyllidwr eleni.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd wedi datgelu canfyddiadau ymchwil newydd o’i Mynegai Ymchwil Cymunedol diweddaraf, sy’n dangos y dewisiadau anodd a’r newidiadau ymddygiad y mae’n rhaid i bobl a chymunedau eu gwneud er mwyn ymdopi â phwysau costau byw.
Mae’r arolwg o dros 8,000 o oedolion y DU yn dangos:
- Mae dau draean (63%) wedi lleihau eu rhoddion i elusennau, neu’n credu efallai byddant yn gwneud hyn
- Mae traean (33%) yn defnyddio banciau bwyd neu'n credu y gallai fod angen iddynt wneud hynny yn y dyfodol. Pobl ifanc sydd fwyaf dibynnol, gyda bron i chwarter (23%) o bobl ifanc 18 i 24 oed eisoes yn troi atyn nhw am gymorth
- Mae 28% wedi hepgor prydau bwyd cyfan tra bod 18% yn rhagweld y gallai fod angen iddynt wneud hynny
- Mae 44% naill ai eisoes wedi ceisio cyngor ar ddyledion a materion ariannol, neu efallai byddant yn cael eu gorfodi i wneud hynny dros y flwyddyn nesaf wrth i filiau cartref gynyddu
- Mae dros hanner (54%) eisoes wedi lleihau eu gwariant ar hanfodion, fel bwyd a gwres, gyda menywod (59%) yn cael eu gorfodi i aberthu mwy o gymharu â dynion (49%).
Gyda £10 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol, bydd Buttle UK yn cefnogi mwy na 12,000 o blant a phobl ifanc dros y pum mlynedd nesaf i oresgyn argyfwng, trwy ddosbarthu grantiau i elusennau a sefydliadau ledled Lloegr gan The Chances for Children Crisis Fund.
Bydd y grantiau Chances for Children hyn, gwerth tua £1,500 fesul teulu ar gyfartaledd, yn talu am hanfodion brys, yn ogystal â chymorth emosiynol ac ymarferol hanfodol yn fwy hirdymor. Bydd y grantiau’n talu'r costau ar gyfer pethau na fyddai pobl sy’n cael trafferth yn gallu eu fforddio fel arall. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o wely ar gyfer plentyn sy'n cysgu ar y llawr, i gostau teithio a gliniadur fel bod person ifanc digartref yn ei arddegau’n gallu dechrau ei gwrs coleg cyntaf.
Bydd The Women’s Urgent Support Fund, a sefydlwyd gan Smallwood Trust gyda dros £3.2 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol, yn galluogi 20,000 o fenywod ledled Lloegr i gael mynediad at wasanaethau cymorth arbenigol dros y pum mlynedd nesaf, drwy ddosbarthu grantiau i 60 o sefydliadau cymunedol lleol sy’n cael eu harwain gan fenywod a’u gwasanaethu ar eu cyfer.
Bydd y grantiau hyn yn galluogi sefydliadau menywod i fodloni’r cynnydd mewn galw am anghenion sylfaenol gan fenywod sydd â’r risg uchaf o dlodi. Byddant hefyd yn gwella capasiti sefydliadol trwy gyllid mwy hirdymor i helpu cryfhau’r capasiti ar gyfer gwasanaethau hanfodol – yn enwedig y rheini sy’n gweithio gyda menywod du ac ethnig lleiafrifol a/neu fenywod anabl – wrth i sefydliadau barhau i gefnogi menywod drwy’r heriau costau byw parhaus.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu ymrwymo £75 miliwn i gefnogi pobl ledled y DU gydag effaith costau byw cynyddol eleni. Mae'r £13 miliwn yr ydym wedi'i gyhoeddi heddiw yn gam mawr ymlaen tuag at gyflawni ein haddewid ac yn anfon neges gref ein bod ni yma i chi, ein bod yn gwrando, ac yn ymateb yn gyflym ac yn hyblyg. Rwy’n falch bod arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau i ffynnu ac mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod yr adegau anodd hyn.”
Dywedodd Joseph Howes, Prif Weithredwr Buttle UK: “Rydym yn gweld bod pethau wedi bod yn gwaethygu’n gynyddol i blant sy’n byw mewn tlodi. Fel y dengys yr ymchwil newydd hon, mae plant a phobl ifanc ledled y wlad yn wynebu heriau mawr yn sgil prisiau cynyddol ac effaith tlodi bwyd a thanwydd. Mae natur gylchol anawsterau ariannol a’i effaith ar iechyd meddwl plant a chanlyniadau addysgol ond yn mynd i waethygu wrth i’r cyfnod hwn o argyfwng barhau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Buttle UK yn gallu cyrraedd miloedd yn fwy o blant a phobl ifanc gyda chefnogaeth hollbwysig dros y pum mlynedd nesaf nag y byddem yn gallu ei wneud fel arall, a chynnig cyfle gwirioneddol am newid iddynt yn ystod cyfnod mor anodd.”
Dywedodd Paul Carbury, Prif Weithredwr Smallwood Trust: “Fel y dengys yr ymchwil newydd hon, mae menywod ledled y wlad yn wynebu heriau newydd yn sgil costau byw cynyddol. Mae ymchwil gyda’n partneriaid grant ein hunain hefyd wedi amlygu pryderon am les a staff sydd wedi’u gorlethu, sydd wedi dod trwy anterth y pandemig, ac sydd bellach yn wynebu heriau costau byw. Mae’r gronfa hon wedi dod ar adeg dyngedfennol ac mae nod Smallwood o fynd i’r afael â thlodi rhywedd yn fwy perthnasol nag erioed wrth i fenywod ymdopi â beichiau ariannol cynyddol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd £3 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn sefydliadau rheng flaen sy’n darparu gwasanaethau achub bywyd i’r menywod mwyaf ymylol yn y DU ac yn gwella capasiti cyffredinol y sector menywod.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol y llynedd, dyfarnwyd dros hanner biliwn o bunnoedd (£588.2 miliwn) o gyllid trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig