Mae angen eich pleidlais ar grwpiau cymunedol i ennill cyfran o dros £4 miliwn o gyllid y loteri genedlaethol
- Bydd cyfle gan 95 o grwpiau cymunedol ledled y DU i ennill cyfran o £4 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol ym Mhrosiectau’r Bobl eleni
- Mae’r bleidlais yn agor am 9am ar Ddydd Llun 15 Mai ar www.thepeoplesprojects.org.uk
- Bydd y prosiectau’n ymddangos ar ITV, UTV neu yn y Sunday Mail lle y gallwch chi weld eu gwaith anhygoel
- Gallai eich pleidlais wneud gwahaniaeth – peidiwch â cholli’r cyfle i leisio eich barn.
Mae 95 o grwpiau cymunedol gweithgar ledled y DU yn gofyn i bobl eu helpu i ennill cyfran o dros £4 miliwn o gyllid Loteri Genedlaethol trwy bleidleisio drostynt ym Mhrosiectau’r Bobl eleni.
Yn dilyn egwyl tair blynedd, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ITV, UTV a’r Sunday Mail (yn Yr Alban) yn cydweithio i roi cyfle i’r cyhoedd benderfynu sut y dylid defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol at achos da yn eu hardal.
Bydd prosiectau ar y rhestr fer yn cael y cyfle i ddangos eu gwaith ar ITV, UTV neu’r Sunday Mail wrth iddyn nhw gystadlu mewn pleidlais gyhoeddus. Ewch i www.thepeoplesprojects.org.uk i weld pwy sydd â chyfle i ennill cyllid Loteri Genedlaethol.
Ym mhob rhanbarth, bydd y tri phrosiect gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau cyhoeddus yn derbyn grantiau hyd at £70,000. Bydd y cyllid hwn yn helpu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl, yn enwedig yn ystod yr adeg anodd hon. Bydd y prosiectau sy’n dod yn ail yn derbyn hyd at £10,000 tuag at eu prosiect, gan ddod â chyfanswm y cyllid sydd ar gael i gymunedau ledled y DU i dros £4 miliwn.
Mae Prosiectau’r Bobl nid yn unig yn rhoi grantiau hanfodol i wraidd cymunedau’r DU, ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth am waith anhygoel y 95 o grwpiau cymunedol ar y rhestr fer sy’n cystadlu am eich pleidlais. Ers iddo ddechrau yn 2005, mae Prosiectau’r Bobl wedi dyfarnu tua £45 miliwn i dros 1,000 o achosion da.
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Fel cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, rydym ni’n falch i ddyfarnu cyllid i wraidd cymunedau, yn enwedig yn ystod yr adeg heriol hon. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Prosiectau’r Bobl yn fenter wych sy’n dangos ymdrechion anhygoel grwpiau gweithgar ac ysbrydoledig, gyda phob un ohonynt yn rhoi cefnogaeth drawsnewidiol i helpu eu cymuned i ffynnu. Anogwn y cyhoedd i bleidleisio a lleisio eu barn am sut y defnyddir cyllid hollbwysig yn eu hardal leol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.”
Mae’r bleidlais yn agor am 9am ar Ddydd Llun 15 Mai ac yn cau am hanner dydd ar Ddydd Gwener 26 Mai. Dim ond unwaith fesul rhanbarth y mae pobl yn gallu pleidleisio a bydd angen cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol arnoch i bleidleisio.* Ewch i www.thepeoplesprojects.org.uk i bleidleisio ac i ddarllen y telerau ac amodau.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cyllidwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, yn dyfarnu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn yr wythnos ledled y DU at achosion da.
Eleni, dyfarnwyd dros hanner biliwn o bunnoedd (£579.8 miliwn) o gyllid trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU, gan gefnogi dros 14,500 o brosiectau. Dros y tair blynedd diwethaf, mae ei gyllid wedi cyrraedd pob etholaeth a phob awdurdod lleol yn y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig