Grwpiau cymunedol ledled y du yn dathlu ar ôl ennill pleidlais gyhoeddus ar gyfer cyllid y loteri genedlaethol
Mae grwpiau cymunedol gweithgar ledled y DU wedi ennill cyfran o dros £4 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol ym Mhrosiectau’r Bobl eleni. Ar ôl cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus, mae 57 o brosiectau ledled y DU wedi llwyddo gyda’u cynlluniau i wneud gwahaniaeth trawsnewidiol yn eu cymunedau lleol.
Gyda chefnogaeth y cyhoedd, maen nhw wedi derbyn cyllid gwerthfawr hyd at £70,000 diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, y gallan nhw ei ddefnyddio bellach yn eu hardal leol.
Ymysg y rhai hynny a fydd yn cael eu hariannu yw:
Bydd Costau Cynnal Hanfodol - Cadw Thanet Disabled Riding Centre Ar Agor gan Thanet Disabled Riding Centre yn ne-ddwyrain Lloegr yn defnyddio £63,880 i ddarparu sesiynau marchogaeth wedi'u teilwra i'r gymuned anabl, gan gynnwys ymarferion a gemau hwylus i gynyddu cryfderau marchogion a gweithio i wella unrhyw wendidau. Y bwriad yw ehangu'r gwasanaeth i helpu mwy o farchogion i wella eu hansawdd bywyd a'u lles cyffredinol.
Bydd Giving Children with Down’s Syndrome a Voice gan Hands Up For Downs yn Abertawe, Cymru
yn defnyddio £53,760 i gefnogi plant â Syndrom Down i gyflawni eu llawn potensial, trwy drefnu sesiynau therapi lleferydd ac iaith wythnosol yn Abertawe a'r cyffiniau. Bydd y prosiect yn galluogi plant â Syndrom Down i allu siarad drostynt eu hunain, a gweld bod dysgu i gyfathrebu’n hanfodol.
Bydd Social Bytes gan Crisis Café yn Newry, Gogledd Iwerddon yn defnyddio £69,740 i greu man galw heibio anffurfiol i bobl ifanc gael mynediad at dechnoleg ddigidol, WiFi, cymorth iechyd meddwl a phryd o fwyd am ddim. Wedi'i arwain gan bobl ifanc, bydd y prosiect yn eu helpu i ddysgu sgiliau, gwneud ffrindiau a chefnogi ei gilydd.
Ewch i www.thepeoplesprojects.org.uk/cy i weld rhestr lawn o’r prosiectau buddugol ledled y DU.
Partneriaeth yw Prosiectau’r Bobl lle mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ITV, UTV a'r Sunday Mail (yn yr Alban) yn cydweithio i roi llais unigryw i'r cyhoedd o ran sut y dylid buddsoddi arian y Loteri Genedlaethol yn eu hardal leol.
Bydd prosiectau ar y rhestr fer yn arddangos eu gwaith ar ITV, UTV neu yn y Sunday Mail, gan godi ymwybyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer yr hyn y maent yn ei wneud yn ogystal â rhoi’r cyfle iddyn nhw dderbyn cyllid gwerthfawr.
Ym mhob rhanbarth, mae'r tri phrosiect gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau cyhoeddus wedi derbyn grantiau o hyd at £70,000. Mae’r rhai a ddaeth yn ail ym mhob rhanbarth wedi cael cynnig £10,000 tuag at eu prosiect, gan ddod â chyfanswm y cyllid a ddyfarnwyd i gymunedau ledled y DU i dros £4 miliwn. Bydd y cyllid hwn yn helpu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, yn enwedig yn ystod yr adeg anodd hon.
Ers i Brosiectau'r Bobl ddechrau yn 2005, mae wedi dyfarnu tua £45 miliwn i dros 1,000 o achosion da, gan ddarparu grantiau hanfodol i galon cymunedau'r DU.
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae Prosiectau’r Bobl yn amlygu gwaith anhygoel grwpiau cymunedol ysbrydoledig ledled y DU. Rydym ni’n falch i roi’r cyfle i bobl leol ym mhob cwr o’r wlad i leisio eu barn am sut i ddyfarnu £4 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol. Rydym ni’n llongyfarch enillwyr eleni ac yn edrych ymlaen at eu gweld yn gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol yn eu cymunedau.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyllidwr mwyaf ar gyfer gweithgarwch cymunedol yn y DU, yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn bob wythnos ledled y DU at achosion da.
Y llynedd, dyfarnodd dros hanner biliwn o bunnoedd (£579.8 miliwn) o gyllid trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU, gan gefnogi dros 14,500 o brosiectau. Dros y tair blynedd diwethaf, mae ei chyllid wedi cyrraedd pob etholaeth a phob awdurdod lleol yn y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig