Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyblu cyllid ar lawr gwlad wrth iddi gychwyn strategaeth fentrus newydd ar gyfer 2030
Mae ariannwr cymunedol mwyaf y DU yn datgelu ei strategaeth newydd a'i dulliau ariannu newydd cyntaf. Mae’r newid strategol yn rhoi hwb sylweddol i grwpiau cymunedol ar lawr gwlad tra bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dweud y bydd yn canolbwyntio ar bedwar nod allweddol lle y mae eisiau i’w chyllid gael yr effaith fwyaf:
- Cynyddu cefnogaeth ar lawr gwlad: dyblu swm a chyfnod y cyllid sydd ar gael drwy’r rhaglen grantiau bach blaenllaw, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol
- £15 miliwn ar gyfer rhaglen newydd i gysylltu cymunedau wrth i’r cyllidwr geisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau cymdeithasol mawr sy’n wynebu cymunedau’r DU heddiw
- £9 miliwn ar gyfer gweithredu hinsawdd, un o bedwar nod allweddol y cyllidwr, gan ddod â chyfanswm buddsoddiad eleni i £35 miliwn
- Bydd y strategaeth newydd ‘Cymuned yw’r man cychwyn’ yn ategu ymdrechion i ddosbarthu o leiaf £4 biliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol erbyn 2030.
Heddiw mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi addo dyblu’r arian sydd ar gael i brosiectau ar lawr gwlad yn y newid mwyaf yng nghyllid y Loteri Genedlaethol ers cenhedlaeth. Wrth ddatgelu ei strategaeth newydd ar gyfer 2030, mae cyllidwr cymunedol mwyaf y DU wedi rhannu cynlluniau buddsoddi eleni i gyflawni ei uchelgais i fynd i’r afael â rhai o faterion cymdeithasol mwyaf y DU.
Yr hyn sy'n allweddol i'r cyhoeddiad heddiw yw ei hymrwymiad i gynyddu cefnogaeth i brosiectau ar lawr gwlad trwy ei rhaglen grantiau bach blaenllaw, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Bydd yn dyblu’r swm y gall grwpiau ymgeisio amdano o £10,000 i £20,000 ac yn dyblu cyfnod y grantiau o 1 flwyddyn i 2 flynedd, gyda’r newidiadau hyn yn dod i rym o dymor yr Hydref eleni.
Bydd y buddsoddiad ar lawr gwlad yn cynyddu i fwy na £1 biliwn o gyllid newydd i gymunedau dros y 7 mlynedd nesaf.
Yn ail, mae’r Gronfa wedi neilltuo £15 miliwn ar gyfer rhaglen newydd (yn agor tua mis Awst) a fydd yn cysylltu cymunedau, yn ogystal â £9 miliwn ychwanegol a fydd yn mynd i’w Chronfa Gweithredu Hinsawdd boblogaidd, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad mewn gweithredu hinsawdd i £35 miliwn eleni.
Mae'r ddau gam yn dangos awydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddechrau cyflawni'n syth yn erbyn ei strategaeth newydd a chanolbwyntio’r cyllid ar bedwar nod allweddol lle y mae eisiau cael yr effaith fwyaf. Pwrpas y rhain yw cefnogi cymunedau i ddod ynghyd; i fod yn amgylcheddol gynaliadwy; helpu plant a phobl ifanc i ffynnu; a galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach.
Bydd y strategaeth 7 mlynedd newydd, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, yn ategu ymdrechion i ddosbarthu o leiaf £4 biliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol erbyn 2030.
Mae’r cyllidwr wedi ymrwymo i ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar degwch, gan fuddsoddi’r mwyaf yn y llefydd, pobl a chymunedau sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.
‘Cymuned yw’r man cychwyn’ yw canlyniad ymgynghoriadau ac adborth helaeth dros y 15 mis diwethaf, gyda dros 18,000 o bobl a sefydliadau ar draws amrywiaeth o wahanol randdeiliaid.
Gan ddatgelu’r strategaeth newydd, dywed y Prif Weithredwr David Knott fod y sefydliad yn adeiladu ar stori lwyddiant wych yn y DU – Y Loteri Genedlaethol – a bron i 30 mlynedd o brofiad o gefnogi cymunedau amrywiol y DU trwy adegau da yn ogystal â heriau diweddar, megis COVID a phryderon costau byw.
Gyda mwy na 75,000 o brosiectau wedi'u cefnogi a £3 biliwn wedi'i fuddsoddi dros y 5 mlynedd diwethaf, mae'n dweud y bydd y cyllidwr yn parhau i fod wedi’i leoli yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ac yn gweithredu’r hyn y mae'n ei weld a'i ddysgu.
Dywed David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’n ymwneud ag adeiladu ar stori lwyddiant 30 mlynedd yn y DU – mae’r bennod nesaf yn dechrau yma a chymuned yw’r man cychwyn. Bydd ein strategaeth newydd yn cynyddu ein cefnogaeth i brosiectau ar lawr gwlad gan ganolbwyntio pŵer ein cyllid ar bedwar o'r materion cymdeithasol mawr sy'n wynebu'r DU a'i chymunedau heddiw.
"Pam? Oherwydd bod yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi ar lawr gwlad yn cyrraedd y nifer fwyaf o bobl ac yn ysgogi'r nifer uchaf o wirfoddolwyr o'n holl gyllid, ac oherwydd ein bod wedi gwrando'n ofalus ar wahanol gymunedau a rhanddeiliaid i ddeall lle gall ein grantiau gael yr effaith fwyaf.
“Hoffem ddiolch i’r 18,000 o bobl a sefydliadau sydd wedi helpu llywio ein cyfeiriad hyd at 2030 – mae eich angerdd, arloesedd a haelioni wedi ein hysbrydoli a’n gosod ar lwybr gwych er mwyn cefnogi cymunedau ledled y DU dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Gweler y strategaeth newydd ar tnlcommunityfund.org.uk/ItStartsWithCommunity. Bydd mwy o gyhoeddiadau i ddod am gyfleoedd a rhaglenni ariannu newydd wrth i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddechrau gweithio trwy'r cyflwyniad manwl.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, y llynedd dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros hanner biliwn o bunnoedd (£588.2 miliwn) o gyllid trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig