£1 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol i gymunedau’r DU i goffáu Windrush 75
Mae mwy na 100 o grwpiau cymunedol ledled y DU wedi derbyn cyfran o bron i £1 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyllidwr mwyaf ar gyfer gweithgarwch cymunedol yn y DU, i goffáu 75 mlynedd ers Windrush.
Mae’r achlysur hanesyddol ar ddydd Iau 22 Mehefin ac mae grantiau’r Loteri Genedlaethol hyd at £10,000 ar gael drwy gydol y flwyddyn er mwyn i gymunedau ddod ynghyd i ddathlu ac adlewyrchu ar gyfraniad enfawr arloeswyr Windrush a’u teuluoedd i’r DU.
Mae bron i £1 miliwn wedi’i roi hyd yma ac mae’r prosiectau a ariannwyd yn cynnwys carnifalau, arddangosfeydd hanes, gweithdai rhwng cenedlaethau mewn ysgolion, a digwyddiad i ddathlu gemyddion o’r Caribî yn y fasnach gemwaith ym Mhrydain.
Un o'r grwpiau hyn yw Caribbean & African Health Network ym Manceinion, a fydd yn cynnal Taith Gerdded a Gŵyl Iechyd Windrush 75 sydd wedi'i dylunio, ei chynhyrchu a'i chyflwyno gyda phobl hŷn o’r Caribî a'u teuluoedd a grwpiau cymunedol a arweinir gan bobl Ddu.
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin ym Mharc Alexandra ym Manceinion a bydd yn dathlu cyfraniadau cymunedau lleol Windrush trwy adrodd straeon, perfformiadau ac arddangosfeydd addysgol.
Dywedodd Dr Faye Bruce DL, Cadeirydd Caribbean & African Health Network: “Cyrhaeddodd fy rhieni’r DU ym 1961 ar ôl rhoi’r gorau i’w cartref yn Jamaica gan obeithio adeiladu bywyd gwell iddyn nhw a’u teulu. Roeddent yn gweithio o dan rai o'r amodau gwaethaf ac yn parhau i fod yn wydn ar gyfer eu plant.
“Mae dathlu Windrush yn bwysig i mi a’r Caribbean & African Health Network oherwydd nad yw eu stori’n unigryw. Mae’n gyfle i gyfarch, coffáu, cydnabod a dathlu’r bobl a ddaeth yma ac a gyfrannodd i gymdeithas y DU ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol..”
Bydd Can’t Blame Da Youth yng Nghaerlŷr yn arddangos stori Windrush trwy berfformiadau stryd a llwyfan, gan ddod â phobl o bob cymuned ynghyd i ddeall profiadau arloeswyr Windrush. Bydd cyfres o weithdai celfyddydau carnifal yn cael eu cynnal dros 12 wythnos, a bydd y grŵp hefyd yn rhan o Garnifal Caerlŷr ar ddydd Sadwrn 5 Awst.
Gan siarad am bwysigrwydd coffáu Windrush 75, dywedodd Joanne Alexander, Cyfarwyddwr Can’t Blame Da Youth: “Mae pen-blwydd Windrush yn 75 oed yn golygu llawer i’n sefydliad a’n cymuned gan fod llawer o’n neiniau a theidiau a’n rhieni yn rhan o genhedlaeth cyntaf ac ail genhedlaeth Windrush.
“Diolch i grant £10,000 y Loteri Genedlaethol, byddwn ni’n dathlu cyrhaeddiad HMT Empire Windrush, pan ymfudodd ein neiniau a theidiau o’r Caribî i Brydain i helpu ailadeiladu yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cymerodd llawer ohonynt swyddi fel nyrsys, gyrwyr bws, cynhyrchu bwyd a glo a llawer mwy.”
Ar ôl wynebu hiliaeth, rhagfarn a stereoteipiau rydym wedi adeiladu bywydau a theuluoedd newydd ac wedi gorfod brwydro i gael ein derbyn. Mae gennym etifeddiaeth o gyfraniad, sy’n gwneud i ni deimlo’n falch.
Grŵp arall i elwa o arian y Loteri Genedlaethol yw Nottingham News Centre, a fydd yn cynnal digwyddiad arbennig ar Ddiwrnod Windrush ei hun (dydd Iau 22 Mehefin) yng Nghanolfan Gymunedol Haywood Road yn Nottingham. Bydd hyn yn dathlu cyfraniadau cyn-weithwyr diwydiannol o etifeddiaeth Affricanaidd Caribïaidd o genhedlaeth Windrush trwy gyflwyniadau ac arddangosfa.
Dywedodd Norma Gregory, Arweinydd Treftadaeth Amrywiol yn Nottingham News Centre: “Mae hwn yn achlysur pwysig i adlewyrchu ac i gofio’r cyfraniadau sylweddol a wnaed gan y gymuned Affricanaidd Caribïaidd, eu hynafiaid, a’u disgynyddion fel rhan o gymdeithas Prydain.
“Dros y deng mlynedd diwethaf, mae ein grŵp wedi bod yn casglu, cadw a rhannu ein treftadaeth ddiwydiannol amrywiol. Rydym wrth ein boddau ar adegau fel hyn lle gall cymunedau ddod ynghyd i rannu a chlywed atgofion, profiadau bywyd a chyflawniadau cenhedlaeth Windrush, eu disgynyddion a’u hetifeddiaeth.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gefnogi ein cynnydd a’n taith tuag at amrywiaeth a chynhwysiant trwy dreftadaeth.”
Dywedodd Blondel Cluff CBE, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Fel merch ac wyres i aelodau’r Genhedlaeth Windrush, rwy’n gwybod yn fwy na’r rhan fwyaf o bobl pa mor bwysig oedd eu cyfraniad nhw a’n cyndeidiau i greu Prydain Fodern.
“Fel Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’n bleser gen i gyhoeddi fod grantiau Windrush hyd at £10,000 ar gael eleni er mwyn dathlu 75 mlynedd ers Windrush. Nid yn unig i ddathlu ein cyndeidiau, ond hefyd ar gyfer gweithgareddau cymunedol a fydd yn helpu cyflawni uchelgeisiau’r arloeswyr anhygoel, anhunanol yr oedd cymuned yn golygu cymaint iddyn nhw.”
Mae grantiau Windrush 75 hyd at £10,000 yn dal i fod ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer gweithgareddau a gynhelir yn nes ymlaen eleni, gan gynnwys ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu ym mis Hydref.
Ewch i www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/news/blog i ddarllen blogiau Windrush 75 sy'n rhoi cyngor ac awgrymiadau da ar sut i ymgeisio a chryfhau cais.
Cynhelir clinig ceisiadau grant am ddim ar ddydd Llun 26 Mehefin, 4pm – 5pm, lle bydd pobl yn clywed am feini prawf cymhwyster, ar beth y gellir gwario’r grantiau, a’r hyn y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn chwilio amdano mewn cais. Ewch i www.ticketsource.co.uk/the-national-lottery-community-fund i gofrestru.
Yn ddiweddar lansiodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei strategaeth saith mlynedd newydd, ‘'Cymuned yw'r man cychwyn', a fydd yn ategu ymdrechion i ddosbarthu o leiaf £4 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol erbyn 2030.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU. Mae dros wyth o bob deg (83%) o’i grantiau am symiau llai na £10,000 – gan fynd i grwpiau ar lawr gwlad ac elusennau ar draws y DU sy’n dod â syniadau anhygoel sy’n bwysig i’w cymunedau yn fyw.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig