Croeso i 2024
Croeso i 2024! Rwyf bob amser yn mwynhau cymryd amser ar ddechrau blwyddyn newydd i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod.
Roedd 2023 yn flwyddyn arwyddocaol i ni yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wrth i ni lansio ein strategaeth newydd. Mae ein strategaeth 2030 yn canolbwyntio ar wneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod, gan weithio mewn partneriaeth â chymunedau, ariannwyr, y sector cyhoeddus a'r gymdeithas sifil i gyflymu ein nod cyffredin i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau.
Fel Prif Weithredwr, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r 18,000 o unigolion a sefydliadau a rannodd eu syniadau gyda ni. Clywsom y pryderon am anghydraddoldeb, yr argyfwng hinsawdd, iechyd cymunedau a'r dyfodol i blant a phobl ifanc. Mae "Cymuned yw’r man cychwyn" yn rhoi cyfeiriad clir i ni ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Achlysuron 2023
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, y llynedd roeddem yn gallu cefnogi 14,000 o brosiectau, sy’n gwneud gwaith gwych gyda £650m o arian. Mae'n amhosibl cyfleu ehangder ac amrywiaeth y grantiau hyn – boed yn grantiau llai neu fawr, grantiau cyntaf neu barhad, yn lleol neu'n genedlaethol o ran cyrhaeddiad – maent yn adlewyrchu gwaith ysbrydoledig sy'n digwydd mewn cymunedau gwydn.
Roedd hi'n flwyddyn brysur: cawsom y fraint o ariannu prosiect cymunedol rhywle yn y DU bob 7 munud.
Mae sawl achlysur wedi bod yn arwyddocaol i gymunedau yn 2023, sydd wedi’u hadlewyrchu yn ein hariannu.
Ym mis Mehefin, roeddem yn falch o gefnogi cymunedau i nodi pen-blwydd Windrush yn 75 oed wrth i grwpiau ddathlu, coffáu ac adlewyrchu ar yr etifeddiaeth anhygoel a grëwyd gan ymdrechion arloeswyr Windrush. Derbyniodd dros 140 o grwpiau cymunedol ledled y DU gyfran o dros £1.2 miliwn i nodi'r achlysur hanesyddol hwn. Wrth i mi wrando a dysgu am dreftadaeth ddiwylliannol a phrofiadau personol y genhedlaeth hon, adlewyrchais ar etifeddiaeth fy nain fy hun, a gyrhaeddodd fel mewnfudwr i Brydain yn Nociau Tilbury ychydig fisoedd cyn hynny yn 1947 – 'person a oedd wedi’i dadleoli' o Ewrop a oedd yn rhyfela.
Ym mis Mai, helpodd arian y Loteri Genedlaethol i ddod â phobl ynghyd i nodi Coroni'r Brenin Ei Mawrhydi. Y mis hwnnw fe wnaethom hefyd gefnogi cymunedau Wcrain a'r rhai a wnaeth geisio diogelwch yn y DU, wrth i Eurovision gael ei chynnal yn Lerpwl ar ran Wcrain. Wrth ymweld â phrosiectau lleol, fel The Daisy Foundation a gwaith Liverpool Football Club Foundation, teimlais y balchder yr oedd y ddinas yn ei deimlo. A doedd dim llawer o lygaid sych wrth wrando ar gantorion gwerin a phop anhygoel o Wcrain.
"Cymuned yw’r man cychwyn" – Cyflawni ein hymrwymiadau
Ers i ni lansio ein strategaeth newydd ym mis Mehefin, rydym wedi symud yn gyflym i gyflawni ymrwymiadau allweddol a wnaethom yn ein strategaeth.
Y cyntaf o'r rheini oedd agor ein Cronfa DU gyfan newydd i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd a chreu cymdeithas fwy cysylltiedig. Mae'r rhaglen hon wedi’i chynllunio i gefnogi cymunedau i gysylltu mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'n bywydau newidiol yn well. Ym mis Chwefror, rydym yn disgwyl dyfarnu tua £15m o arian ac rwy’n hynod gyffrous i weld yr effaith y bydd yn ei chael.
Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyflawni carreg filltir bwysig gydag Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Rydym wedi dyblu faint o arian sydd ar gael i £20,000, a hyd y grantiau i ddwy flynedd. Rydym eisoes yn gweld syniadau cyffrous gan gymunedau, gyda dros 3,000 o grwpiau'n ymgeisio am grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar sail y newid sylweddol hwn.
Beth fydd yn digwydd yn 2024?
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn gonfensiynol i edrych tua’r dyfodol gydag agwedd negyddol, ac mae hynny’n ddealladwy. Wedi'r cyfan, dim ond dwy flynedd yn ôl, pan oedd trychineb uniongyrchol a chyfyngiadau pandemig Covid yn dechrau lleihau, fe wnaeth dychweliad gwrthdaro yn Ewrop gynyddu prisiau ynni a sbarduno argyfwng costau byw digynsail, gan greu anghydraddoldeb dyfnach.
Hoffwn symud oddi wrth hyn a chynnig rheswm dros obaith ac optimistiaeth ar gyfer 2024, a hynny’n ofalus. A lle nad yw pethau wedi dechrau ysgafnhau eto, annog a chefnogi edrych ymlaen a cherdded ymlaen. Yr wythnos nesaf byddwn yn rhyddhau canlyniadau ein Mynegai Ymchwil Cymunedol diweddaraf, sy'n dangos bod ysbryd cymunedol yn disgleirio yng nghymunedau'r DU.
Mae chwech o bob deg yn dweud bod ysbryd cymunedol yn gryf lle maen nhw'n byw, ac maen nhw'n teimlo'n rhan o'u cymuned. Mae pobl yn glir am fanteision bod yn rhan o'u cymuned leol. Mae'r rhain yn cynnwys teimlo'n fwy diogel (59%), cael mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd (58%) a mwy o ymdeimlad o berthyn (55%).
Er nad yw pryderon ynghylch costau byw a gweithredu hinsawdd macro wedi diflannu, mae'r ysbryd cymunedol hwn yn troi'n ymrwymiad ar gyfer gweithredu cymdeithasol a chymunedol: mae’r mwyafrif (64%) yn fodlon gweithio gydag eraill i wella eu cymuned leol, mae hanner (50%) yn dweud eu bod yn bwriadu gwirfoddoli yn 2024, ac mae (64%) yn credu yng ngrym gweithredu unigol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar newid hinsawdd mewn cymunedau.
Gwelais hyn i gyd yn uniongyrchol ar deithiau ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon y llynedd. Ac yn fwyaf diweddar yn Birmingham Care Group ym mis Rhagfyr (lle ffilmiais fy fideo Blwyddyn Newydd), sy'n derbyn arian drwy ein rhaglen Reaching Communities, i ddarparu pantri bwyd a man diogel ar gyfer cymunedau amrywiol yng nghanol dinas Birmingham.
Fel ariannwr gwelsom hyn hefyd yn y galw am raglenni fel The Community Organisations Cost of Living Fund, a oedd ar agor yn ystod 2023. Bydd y rhaglen hon yn golygu y byddwn yn dosbarthu £71 miliwn mewn grantiau gan Lywodraeth y DU i wasanaethau presennol yn Lloegr, sy'n cefnogi aelwydydd incwm isel ac unigolion sy'n wynebu heriau difrifol oherwydd y cynnydd mewn costau byw.
Yn ogystal ag arian y Loteri Genedlaethol, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dosbarthom arian y Llywodraeth i raglenni fel Million Hours Fund, a ariennir ar y cyd, gan gefnogi gweithgareddau ychwanegol sy'n rhoi mwy o lefydd i bobl ifanc fynd a phethau cadarnhaol i'w gwneud. Yn 2024 byddwn yn gweithio gyda'r Llywodraeth i ddylunio a darparu'r Community Wealth Fund, gan ddefnyddio asedau segur i rymuso pobl leol a gwella seilwaith cymdeithasol mewn ardaloedd wedi'u targedu ledled Lloegr.
Beth sydd i ddod i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2024?
Yn ystod 2024 byddwn yn cyflwyno ein strategaeth newydd ymhellach - gyda llawer mwy i ddod yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod, ynghyd â chadw ein holl sianeli ariannu presennol ar agor. Yn y gwanwyn byddwn yn lansio ein Cynllun Corfforaethol newydd ynghyd â chyhoeddiadau portffolio ariannu pellach. Yn benodol, gallwch ddisgwyl rhagor ar sut y byddwn yn gyrru ein pedair nod cymunedol ymlaen a fydd yn cefnogi cymunedau i:
- ddod ynghyd
- bod yn amgylcheddol gynaliadwy
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach.
Gan ddefnyddio’r hinsawdd fel enghraifft, mae ein strategaeth amgylcheddol diweddar yn esbonio sut rydym yn bwriadu cymryd camau yn y maes pwysig hwn yn ystod y blynyddoedd i ddod. Fel llofnodwr y Funder Commitment on Climate Change, rydym wedi ymuno ag ariannwyr mawr eraill i gydnabod bod yr argyfwng hinsawdd cynyddol yn risg ddifrifol i’n nodau ariannu. Gwnaethom gynyddu ein hymrwymiad ariannu yn sylweddol drwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd eleni ac rydym ar y trywydd i ddyfarnu £35m erbyn mis Ebrill 2024, gyda mwy i ddod yn ystod y flwyddyn nesaf.
Ymhellach, yn ein strategaeth gwnaethom ein hymrwymiad i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn yn glir, ac rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu ein harferion ariannu. Ers i ni lansio ein strategaeth, rydym wedi gweld gwerth grantiau yn cynyddu i bob cymuned o ffocws o dan ein strategaeth EDI (lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau, LHDTC+, plant a phobl ifanc, menywod a merched).
Fel Un Gronfa, rydym hefyd yn cynnwys hyn yn ein harferion ein hunain. Er enghraifft, gwnaethom lofnodi'r Adduned Cyflogwr Cyfeillgar o ran Oedran yn ddiweddar - rhaglen genedlaethol ar gyfer cyflogwyr sy'n cydnabod pwysigrwydd a gwerth gweithwyr hŷn. Byddwch yn gallu clywed mwy gan Fiona Joseph, ein Rheolwr Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn fuan ynghylch pam bod hwn yn gam pwysig i ni, ond am y tro mae'n un o lawer yr ydym yn ei gymryd fel ariannwr i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
Cynnwys arloesedd yn ein gwaith bob dydd
Ychydig fisoedd yn ôl, lansiwyd Uned Arloesedd yn y Gronfa. O dan arweinyddiaeth Shane Ryan MBE, mae hyn yn helpu gwneud arloesedd yn rhan sylfaenol o'n diwylliant. Byddwch yn clywed mwy gan Shane, a'r tîm y mae'n gweithio gyda nhw, yn fuan ynglŷn â sut rydym yn bwriadu cynnwys arloesedd yn ein gwaith bob dydd a darparu lle pwrpasol yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i feithrin syniadau, meddyliau a phrosiectau arloesol.
Unwaith eto, diolch am eich gwaith ymroddedig gyda chymunedau dros y flwyddyn ddiwethaf. Gan ddymuno pob llwyddiant i chi ar gyfer ein gwaith gyda'n gilydd yn 2024.
David Knott
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig