2024: Ysbryd cymunedol yn disgleirio yng nghymunedau'r DU wrth iddynt baratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod
- Mae chwech o bob deg yn dweud bod ysbryd cymunedol yn gryf lle maen nhw'n byw (59%) a'u bod yn teimlo'n rhan o'u cymuned leol (61%)
- Mae’r mwyafrif (64%) yn fodlon gweithio gydag eraill i wella eu cymuned leol, a dywed hanner (50%) eu bod yn bwriadu gwirfoddoli yn 2024
- Mae oedolion y DU yn dweud mai cefnogi pobl gyda chostau byw cynyddol yw'r brif flaenoriaeth ar gyfer gwella lles yn eu cymuned yn 2024
- Grwpiau lleol i dderbyn hwb yn 2024 wrth i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddyblu ei hymrwymiad i grantiau ar lawr gwlad.
Wrth i'r DU nesáu at 2024, mae ymchwil newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - ariannwr cymunedol mwyaf y DU - yn datgelu bod ymdeimlad pobl o ysbryd cymunedol ac awydd pobl i gefnogi eraill mewn iechyd da ar draws pedair cornel y DU.
Dywed saith o bob deg (72%) ei bod yn bwysig iddyn nhw deimlo'n rhan o'u cymuned leol, ac mae chwech o bob deg (59%) yn dweud bod ysbryd cymunedol yn gryf lle maen nhw'n byw. Yn galonogol, mae llawer (61%) yn dweud eu bod yn teimlo'n rhan o'u cymuned leol, gyda'r holl fanteision sy'n gysylltiedig â hyn.
Mae'r rhain yn cynnwys teimlo'n fwy diogel (59%), cael mwy o ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd (58%) a mwy o ymdeimlad o berthyn (55%) yn eu hardal leol. Mae eraill yn gwerthfawrogi’r cyfle y mae'n ei roi i feithrin cyfeillgarwch a chysylltiadau, gyda 45% yn dweud bod cael cyfle i gwrdd â phobl yn fudd o fod yn rhan o'u cymuned.
Mae’r mwyafrif (64%) yn fodlon gweithio gydag eraill i wella eu cymuned leol, ond dim ond tua hanner sy'n teimlo bod ganddynt y cyfle (52%) neu'r gallu i chwarae rôl (46%).
Er gwaethaf hyn, mae hanner (50%) o oedolion y DU yn bwriadu cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli lleol (ffurfiol ac anffurfiol) yn 2024 - gydag un o bob deg (14%) yn bwriadu gwirfoddoli am y tro cyntaf.
Ymhlith y rhai sy'n bwriadu gwirfoddoli'r flwyddyn nesaf, banciau bwyd (30%), yr amgylchedd (30%), cefnogi pobl hŷn (29%) a gweithio mewn siopau elusen (29%) yw lle maent yn bwriadu canolbwyntio eu hymdrechion cymunedol.
Daw'r canfyddiadau o Fynegai Ymchwil Cymunedol diweddaraf Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, arolwg blynyddol o dros 8,000 o bobl ledled y DU sy'n darganfod sut mae pobl yn teimlo am eu cymuned leol, a beth yw eu huchelgeisiau a'u blaenoriaethau ar gyfer eu cymuned yn hirdymor ac yn y flwyddyn i ddod.
O ran lles eu cymuned leol, mae delio ag effaith costau byw yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i bobl yn 2024. Mae tri chwarter (76%) yn rhagweld y galw am fanciau bwyd lleol yn y flwyddyn i ddod yn parhau i gynyddu, ynghyd â mwy o angen lleol am gyngor ar ddyledion (71%), cymorth iechyd meddwl (70%) ac elusennau tai (63%). Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth bod ysbryd cymunedol a chyfranogiad ac awydd pobl i wirfoddoli yn parhau'n gryf.
Gan edrych i'r dyfodol hirdymor a dyheadau pobl ar gyfer eu cymuned, mae traean o oedolion y DU (32%) yn nodi bod llai o dlodi ac amddifadedd ymhlith y tri newid mwyaf yr hoffent eu gweld ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bedwar nod allweddol, sef cefnogi cymunedau i ddod ynghyd, bod yn amgylcheddol gynaliadwy, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach. Mae'r ariannwr yn cymryd agwedd yn seiliedig ar degwch tuag at ei waith, gan fuddsoddi'r mwyaf yn y llefydd, pobl a chymunedau sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.
Dywed David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'n amlwg y bydd 2024 yn flwyddyn arall lle bydd cymunedau'n dod at ei gilydd i fynd i'r afael â heriau a rennir ac i gefnogi ei gilydd. Mae ymdeimlad parhaus o ysbryd a pherthyn cymunedol, ac awydd i gymryd rhan (gan gynnwys gwirfoddoli) yn agweddau i'w croesawu, sy'n gosod y naws ar gyfer y flwyddyn i ddod.
"Mae pobl leol yn gwybod beth sydd ei angen ar eu cymuned ac mae ganddyn nhw'r angerdd, yr egni a'r wybodaeth i wneud iddo ddigwydd. Eleni bydd ganddyn nhw hyd yn oed mwy o gymorth grantiau ar lawr gwlad gan ein bod wedi dyblu swm a thymor ein rhaglen grantiau bach, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol. Mae'n rhan allweddol o'n hymgyrch i ddefnyddio ein harian i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau ledled y DU yn 2024 a thu hwnt."
Prif flaenoriaethau ar gyfer 2024 (% ymhlith y 3 uchaf) |
|
Amgylchedd ffisegol | Lles |
Diogelwch ar y strydoedd (60%) | Cefnogi pobl gyda chostau byw cynyddol (30%) |
Llefydd i bobl ifanc fynd a phethau iddynt eu gwneud (44%) | Pobl yn gofalu am ei gilydd (25%) |
Sicrhau bod yr ardal yn edrych yn ddeniadol (42%) | Lleihau unigrwydd ac ynysrwydd (23%) |
Cael mynediad at fannau gwyrdd naturiol (40%) | Atal trais ieuenctid (20%) |
Gweithgareddau cymunedol sy'n dod â phobl at ei gilydd (35%) | Helpu’r economi leol (19%) |
Ffynhonnell: Mynegai Ymchwil Cymunedol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Gan gytuno â'r canfyddiadau, dywedodd Jo Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Back on the Map: "Mae'n galonogol gweld pa mor gryf mae pobl yn teimlo am eu cymuned ledled y DU, a'r angen i leihau amddifadedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae Back on the Map wedi ymrwymo i roi pobl leol wrth wraidd popeth a wnawn yn Hendon. Mae hyn mor bwysig i berchnogaeth leol a balchder mewn lle."
Mae gan Back on the Map nod hirdymor i adfywio ei chymuned ar ôl derbyn £360,000 o arian y Loteri Genedlaethol. Nod y sefydliad yw datblygu mannau o ansawdd da i bobl leol gwrdd ac ennill sgiliau, gan drawsnewid ardaloedd preswyl a masnachol gwag, a rhoi llais i'r gymuned.
Yn y cyfamser yn Ne Swydd Efrog, mae b:friend wedi defnyddio bron i £10,000 o arian y Loteri Genedlaethol i ddod â bron i 165 o aelodau hŷn o'r gymuned sy'n profi ynysrwydd at ei gilydd.
Dywedodd Colette Bunker, Prif Swyddog Gweithredol b:friend: "Mae canlyniadau'r Mynegai Ymchwil Cymunedol yn dangos bod teimlo'n rhan o'u cymuned yn flaenoriaeth enfawr i lawer o bobl ledled y DU.
"Nid pawb sy'n cael y cyfle hwn, ac rydym yn gwybod faint y gall lles pobl ddioddef o ynysrwydd. Mae b:friend yn ymwneud ag atal unigrwydd ac ynysrwydd i bobl hŷn, a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn parhau i wneud hynny."
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Diolch iddyn nhw, y llynedd dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros hanner biliwn o bunnoedd (£615.4 miliwn) o arian trawsnewidiol i gymunedau ledled y DU.
I ddysgu rhagor, ewch i: Hafan | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (tnlcommunityfund.org.uk)
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig