£12 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd ledled y DU, wrth i adroddiad newydd ddangos gwerth cymuned
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU, wedi rhoi hwb ariannol hanfodol o £12 miliwn i gefnogi cymunedau i ddod ynghyd ledled y DU.
Bydd cymunedau o Glasgow i Gaint yn elwa o'r naw prosiect cyntaf i dderbyn grant drwy Gronfa’r Deyrnas Unedig - un o ymrwymiadau mentrus yr ariannwr fel rhan o'i strategaeth newydd, Cymuned yw'r man cychwyn, i fynd i'r afael â rhai o'r materion cymdeithasol mawr sy'n wynebu cymunedau'r DU.
Daw'r cyhoeddiad wrth i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol lansio adroddiad newydd, gan ddatgelu canfyddiadau o'i Mynegai Ymchwil Cymunedol diweddaraf [1], sy'n dangos pa mor bwysig yw hi i bobl deimlo'n rhan o'u cymuned a chael cyfle i wella eu cymuned ar gyfer y dyfodol.
Mae'r arolwg o dros 8,000 o oedolion yn y DU wedi'i gynllunio i ddarganfod blaenoriaethau a dyheadau pobl ar gyfer eu cymuned leol. Mae'r canfyddiadau'n dangos:
- Dywed saith o bob deg (72%) ei bod yn bwysig iddyn nhw deimlo'n rhan o'u cymuned leol
- Mae pobl sy'n teimlo'n rhan o'u cymuned yn dweud bod manteision hyn yn cynnwys: cael cyfle i gwrdd â phobl (45%), gwella eu lles (43%), cael mwy o ymdeimlad o falchder (40%), a chael effaith gadarnhaol ar eu hardal leol (36%)
- Dywed hanner (51%) fod cael gweithgareddau sy'n dod â phobl ynghyd yn eu pum blaenoriaeth gymunedol bwysicaf
- Mae bron i ddau draean yn fodlon gweithio gydag eraill i wella eu cymuned leol (64%), ac yn credu y gall pobl yn eu hardal wneud newid go iawn trwy gymryd rhan (63%)
- Ond dim ond tua hanner sy'n teimlo bod ganddyn nhw'r cyfle (52%) neu'r gallu i chwarae rôl (46%).
Mae Cronfa’r Deyrnas Unedig, a lansiwyd y llynedd, yn blaenoriaethu'r uchelgeisiau cymunedol hyn, gan gefnogi sefydliadau sy'n dod â phobl â phrofiadau bywyd gwahanol ynghyd, yn ffurfio cysylltiadau sy'n creu bywydau mwy iach, ac yn darparu cyfleoedd i bobl chwarae rhan wrth lywio dyfodol eu cymuned.
Y naw prosiect i dderbyn cyfran o'r pot gwerth £12 miliwn a gwireddu'r syniadau hyn yw:
- Mae Community Leisure UK yn Llundain wedi derbyn dros £650,000 i weithio gydag ymddiriedolaethau hamdden a diwylliant ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ehangu'r amrywiaeth a mynediad at gyfleoedd gwirfoddoli yn y sector hamdden a diwylliannol i sicrhau ei fod yn fwy cynhwysol ac yn cynrychioli'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
- Gan weithio ledled y DU, mae Right to Succeed wedi derbyn £700,000 i roi'r wybodaeth a'r gallu i gymunedau drawsnewid eu cymunedau i fod yn llefydd llewyrchus. Mae'r prosiect yn ceisio grymuso cymunedau i fynd i'r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i greu newid cynaliadwy, systemig mewn ardaloedd lleol. Bydd y prosiect hwn yn cael ei arwain gan y tîm Place Matters sy’n rhan o Right to Succeed ar hyn o bryd.
- Mae The Linking Network yn Bradford wedi derbyn bron i £800,000 i ehangu ei fodel Cysylltu Ysgolion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y prosiect hwn yn paru dosbarthiadau o bobl ifanc o ysgolion amrywiol o ran demograffeg yn ofalus i gysylltu â phobl sy'n wahanol iddynt. O'r ysgolion mae'n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd, mae 24% o fewn ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU [2].
- Gan weithio ar draws y DU, mae The Involve Foundation wedi derbyn dros £830,000 i hyfforddi a chefnogi 100 o bobl leol i fod yn 'hyrwyddwyr cymunedol'. Bydd y prosiect, mewn partneriaeth ag Act Build Change, yn recriwtio hyrwyddwyr o gymunedau lleol ledled y DU, gan adlewyrchu'r boblogaeth amrywiol a chanolbwyntio ar bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Bydd hyrwyddwyr yn ennill offer, sgiliau a chefnogaeth wrth ddatblygu ymgyrchoedd sy'n mynd i'r afael â mater yn eu hardal leol, gan roi cymunedau wrth wraidd gwneud penderfyniadau lleol.
- Ym Manceinion, mae Roots wedi derbyn bron i £965,000 i gynyddu ei waith ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Gan ddefnyddio dull yn seiliedig ar degwch, bydd y prosiect yn cefnogi pobl o wahanol gefndiroedd i gysylltu, archwilio gwahaniaethau a dod o hyd i feysydd cyffredin. Nod ei waith yw creu newid drwy fuddsoddi mewn llefydd, pobl a chymunedau sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.
- Mae Groundswell CWDU wedi derbyn bron i £1.4 miliwn ar gyfer prosiect Cysylltwyr Cymunedol a fydd yn gweithio gyda chymunedau yn Lloegr a'r Alban i fynd i'r afael â materion lleol. Bydd Cysylltwyr Cymunedol yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o ynysu cymdeithasol, yn ehangu gwaith cadarnhaol sefydliadau llawr gwlad, ac yn annog cysylltiadau rhwng pobl, grwpiau lleol a chyrff statudol.
- Mae Luton Borough Council’s Social Justice Unit wedi derbyn bron i £1.9 miliwn i weithio gyda'r Young Foundation, University of Bedfordshire a Bedfordshire and Luton Community Foundation i oresgyn heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy'n wynebu pobl yn Luton. Mae’r dref yn y 30% o gymunedau sydd â’r angen mwyaf o ran amddifadedd a bregusrwydd costau byw [3]. Mae gan y prosiect lleol hwn ddull sy'n seiliedig degwch gyda'r potensial i rannu dysgu gwerthfawr yn ehangach ledled y DU.
- Mae Locality UK wedi derbyn bron i £1.9 miliwn i weithio gyda rhwydweithiau aelodaeth ar gyfer sefydliadau cymunedol ledled y DU. Bydd yr arian yn helpu tyfu ei seilwaith a'i gapasiti i gefnogi bron i 2,500 o aelodau ar draws sefydliadau cymunedol lleol. Bydd y prosiect yn gweithio yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU, gyda dros hanner y sefydliadau'n gweithio gyda chymunedau sy’n profi annhegwch hiliol.
- Yn Ladywood, Birmingham, dyfarnwyd bron i £3 miliwn i Civic Square i barhau i weithio ar ddatblygu seilwaith dinesig newydd ar raddfa gymdogaeth sy'n canolbwyntio ar drawsnewid cymdeithasol, economaidd a hinsawdd. Bydd pobl leol yn cael eu grymuso i drawsnewid eu bywydau fel rhan o'r gymuned amrywiol y maent yn byw ynddi, gan bontio gwahaniaethau gydag empathi a gofal.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rydym wedi ymrwymo i ddosbarthu o leiaf £4 biliwn mewn arian y Loteri Genedlaethol i gymunedau'r DU erbyn 2030 a'i ddefnyddio i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau. Mae cefnogi pobl i ddod ynghyd yn allweddol i hyn. Mae teimlo'n rhan o gymuned yn beth pwerus ac mae'n wych gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein hadroddiad a'r grantiau rydym wedi'u cyhoeddi heddiw. Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a Chronfa’r Deyrnas Unedig, bydd pobl yn cael hyd yn oed mwy o gyfleoedd i gysylltu ag eraill, mwynhau manteision bod yn rhan o gymuned a chreu newid trawsnewidiol."
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Diolch iddyn nhw, y llynedd llwyddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddosbarthu dros hanner biliwn o bunnoedd (£615.4 miliwn) trawsnewidiol i gymunedau.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig